Y Trydydd Cynulliad - Cyfarfod Llawn
Pleidleisiau a Thrafodion (192)
Dyddiad: Dydd Mawrth, 27 Ebrill 2010
Amser: 13.30
Eitem 1: Cwestiynau i Brif Weinidog Cymru
Gofynnwyd y 10 cwestiwn cyntaf.
………………………
14.31
Eitem 2: Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
………………………
14.44
Eitem 3: Datganiad gan y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Polisi Prisio Alcohol
………………………
15.27
Eitem 4: Datganiad gan y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai: Y Comisiwn ar y Newid yn yr Hinsawdd
………………………
16.09
Eitem 5: Dadl am y Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol
NDM4458 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn croesawu’r Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol a chynigion Llywodraeth Cynulliad Cymru i ddatblygu rhwydwaith trafnidiaeth modern, integredig a chynaliadwy i Gymru.
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Alun Cairns (Gorllewin De Cymru)
Yn lle 'croesawu
’ rhoi 'nodi
’.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
17 |
0 |
28 |
45 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Alun Cairns (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
"Yn credu bod gofyn cael mwy o fesurau i annog pobl i ddefnyddio llai ar eu ceir drwy gynnig dewisiadau trafnidiaeth gyhoeddus dibynadwy iddynt yn eu lle.”
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
14 |
0 |
29 |
43 |
Gwrthodwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3 - Alun Cairns (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
"Yn gresynu bod y Cynllun Trafnidiaeth yn methu mynd i'r afael yn ddigonol â'r sialens strategol fwyaf sy'n wynebu'r rhwydwaith trafnidiaeth yn Ne Cymru - tagfeydd ar yr M4 o amgylch Casnewydd
.”
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
15 |
0 |
29 |
44 |
Gwrthodwyd gwelliant 3.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
NDM4458 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn croesawu’r Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol a chynigion Llywodraeth Cynulliad Cymru i ddatblygu rhwydwaith trafnidiaeth modern, integredig a chynaliadwy i Gymru.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
32 |
0 |
13 |
45 |
Derbyniwyd y cynnig.
………………………
17.12
Cyfnod pleidleisio
………………………