Y Trydydd Cynulliad - Cyfarfod Llawn
Pleidleisiau a Thrafodion (32)
Dyddiad: Dydd Mawrth, 27 Tachwedd 2007
Amser: 2.00pm
Eitem 1: Cwestiynau i Brif Weinidog Cymru
Gofynnwyd yr 11 cwestiwn cyntaf. Tynnwyd cwestiwn 4 yn ôl.
……………………….
2.50pm
Eitem
2: Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
……………………….
3.05pm
Eitem
3: Datganiad gan y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol: Ymateb Llywodraeth Cynulliad Cymru i Adroddiad y Pwyllgor Cyfle Cyfartal ar Ddarparu Gwasanaethau ar gyfer Pobl Ifanc Anabl
……………………….
3.46pm
Eitem
4: Datganiad deddfwriaethol ar y Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol arfaethedig ar Ofal Cartref
……………………….
4.33pm
Eitem
5: Cynnig i gymeradwyo Gorchymyn Deddf Cartrefi Symudol 1983 (Diwygio Atodlen 1) (Cymru) 2007
NDM3721 Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 24.4:
1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Is-ddeddfwriaeth a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 7 Tachwedd 2007 mewn perthynas â'r ddogfen ddrafft, Gorchymyn Deddf Cartrefi Symudol 1983 (Diwygio Atodlen 1) (Cymru) 2007; ac
2. Yn cymeradwyo bod y ddogfen ddrafft, Gorchymyn Deddf Cartrefi Symudol 1983 (Diwygio Atodlen 1) (Cymru) 2007 yn cael ei gwneud yn unol â'r:
a) drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Hydref 2007; ac â'r
b) Memorandwm Esboniadol a
osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Hydref 2007.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 7.35.
……………………….
4.46pm
Eitem
6: Cynnig i gymeradwyo The Environmental Permitting (England and Wales) Regulations 2007
NDM3722 Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 24.4
Yn cymeradwyo bod y ddogfen
drafft, The Environmental Permitting (England and Wales) Regulations 2007 yn cael ei gwneud yn unol â’r ddogfen ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 5 Tachwedd 2007.
Derbyniwyd y cynnig yn unol
â Rheol Sefydlog 7.35.
……………………….
4.52pm
Eitem
7: Dadl ar y Gyllideb Atodol
NDM3715 Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)
Yn cymeradwyo'r Gyllideb Atodol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2007-2008, y cynhwysir manylion yn ei chylch yn y ddogfen atodol a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ac a anfonwyd drwy'r e-bost at Aelodau'r Cynulliad ar 8 Tachwedd 2007.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 7.35.
Daeth y cyfarfod i ben am 5.03pm
……………………….