Y Trydydd Cynulliad - Cyfarfod Llawn
Pleidleisiau a Thrafodion (109)
Dyddiad: Dydd Mercher, 28 Ionawr 2009
Amser: 1.30pm
1.30pm
Eitem 1: Gwestiynau i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol
Gofynnwyd y 7 cwestiwn cyntaf. Cafodd cwestiynau 3 a 4 eu grwpio. Atebwyd cwestiwn 7 gan Leighton Andrews, y Dirprwy Weinidog dros Adfywio.
………………………………
2.18pm
Eitem 2: Gofyn i’r Gweinidog dros Dreftadaeth
Gofynnwyd y 10 cwestiwn cyntaf. Cafodd cwestiwn 9 ei drosglwyddo i’w ateb gan y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau. Tynnwyd cwestiwn 1 yn ôl.
………………………………
3.07pm
Eitem 3: Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad
Gofynnwyd y 4 cwestiwn. Cafodd cwestiynau 2 a 4 eu grwpio.
………………………………
3.17pm
Cyhoeddodd y Llywydd ganlyniadu’r balot i Aelodau gyflwyno cynigion ar gyder deddfwriaeth. Y canlyniad oedd:
Enillwyd y balot ar gyfer cyflwyno Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol gan Jenny Randerson gyda’i chynnig ar Gynlluniau Teithio Datblygiadau Mawr.
………………………………
3.17pm
Eitem 4: Dadl ar adroddiad yr Is-bwyllgor Datblygu Gwledig ar ei ymchwiliad i ad-drefnu ysgolion yng nghefn gwlad Cymru
NDM4118 Alun Davies (Conolbarth a Gorllewin Cymru)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad yr Is-bwyllgor Datblygu Gwledig ar ei ymchwiliad Craffu - Ad-drefnu Ysgolion yng nghefn gwlad Cymru a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 28 Tachwedd 2008.
Derbybniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 7.35.
………………………………
4.07pm
Eitem 5: Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
NDM4119 William Graham (Dwyrain De Cymru)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i benodi Tsar Canser ar gyfer Cymru.
Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:
Gwelliant 1 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Dileu "penodi”
a rhoi "edrych ar bob dewis posibl ar gyfer gwella gwasanaethau canser yng Nghymru, gan gynnwys a yw hi’n bosibl cael”
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliant o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio:
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
7 |
0 |
39 |
46 |
Gwrthodwyd y gwelliant.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
7 |
0 |
40 |
47 |
Gwrthodwyd y cynnig.
………………………………
4.56pm
Eitem 6: Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
NDM4120 William Graham (Dwyrain De Cymru)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod y swyddogaeth werthfawr sydd gan amaethyddiaeth yng Nghymru i’w chwarae o ran mynd i’r afael â’r dirywiad economaidd;
2. Yn gresynu y bydd cyflwyno tagiau electronig gorfodol ar gyfer defaid yn cael effaith ddifrodus ar y diwydiant defaid yng Nghymru;
3. Yn nodi bod y system bresennol ar gyfer tagio defaid yn rhoi gallu llawn a chadarn o ran olrhain;
4. Yn gresynu wrth ddiffygion technegol sylweddol a chostau anghymesur y systemau tagio presennol;
5. Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i ohirio cyflwyno tagiau electronig gorfodol nes i hynny fod yn gost-effeithiol ac yn gwbl ddibynadwy dan amodau maes.
Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Gwelliant 1 - Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)
Dileer pwynt 2 a rhoi yn ei le:
"Yn gresynu cyflwyno tagiau electronig gorfodol ar gyfer defaid.”
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
31 |
0 |
15 |
46 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)
Ym mhwynt 3, yn lle "gallu llawn a chadarn”
, rhodder "system sy’n ateb y gofyn”
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
31 |
0 |
15 |
46 |
Derbyniwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3 - Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)
Dileer pwyntiau 4 a 5 a rhoi yn eu lle:
"Yn croesawu cynrychioliadau parhaus Llywodraeth Cynulliad Cymru i’r Comisiwn Ewropeaidd yn gwrthwynebu’r cynigion i gyflwyno tagiau electronig.”
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
31 |
0 |
15 |
46 |
Derbyniwyd gwelliant 3.
Gwelliant 4 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
"Yn credu y bydd cyflwyno tagiau electronig gorfodol yn cynyddu biwrocratiaeth yn y diwydiant amaethyddol.”
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
16 |
0 |
30 |
46 |
Gwrthodwyd gwelliant 4.
Gwelliant 5 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
"Yn deall bod y Pwyllgor Cynghori ar Enseffalopathi Sbyngffurf wedi cytuno 'bod y risg i iechyd pobl yn sgil TSE anifeiliaid bach sy’n cnoi cil yn ddim neu yn ddibwys’ ac ar sail y canfyddiadau hyn dylid cyflwyno rheolyddion clefyd y crafu clasurol mwy cymesur yn hytrach na thagiau electronig.”
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
15 |
0 |
31 |
46 |
Gwrthodwyd gwelliant 5.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM4120 William Graham (Dwyrain De Cymru)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod y swyddogaeth werthfawr sydd gan amaethyddiaeth yng Nghymru i’w chwarae o ran mynd i’r afael â’r dirywiad economaidd;
2. Yn gresynu cyflwyno tagiau electronig gorfodol ar gyfer defaid;
3. Yn nodi bod y system bresennol ar gyfer tagio defaid yn rhoi system sy’n ateb y gofyn o ran olrhain;
4. Yn croesawu cynrychioliadau parhaus Llywodraeth Cynulliad Cymru i’r Comisiwn Ewropeaidd yn gwrthwynebu’r cynigion i gyflwyno tagiau electronig
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
31 |
0 |
15 |
46 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
………………………………
5.49pm
Cyfnod pleidleisio.
………………………………
5.52pm
Eitem 7: Dadl fer
NDM4117 Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed):
Darpariaeth Ambiwlansys ym Mhowys
………………………………
Daeth y cyfarfod i ben am 6.14pm.