Y Trydydd Cynulliad - Cyfarfod Llawn
Pleidleisiau a Thrafodion (208)
Dyddiad: Dydd Mawrth, 29 Mehefin 2010
Amser: 13.30
Talwyd teyrngedau i'r Arglwydd Walker o Gaerwrangon
………………………
Eitem 1: Cwestiynau i Brif Weinidog Cymru
Gofynnwyd y 10 cwestiwn cyntaf.
…………………………
14.44
Eitem 2: Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
…………………………
15.16
Pwynt o drefn
Gofynnodd Jeff Cuthbert am gyngor gan y Llywydd mewn perthynas â materion a godwyd gan Trish Law yn ystod ei chyfraniad i’r ddadl ar Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Safonau ar 23 Mehefin 2010.
Dyfarnodd y Llywydd fod y Comisiynydd Safonau a Chadeirydd y Pwyllgor Safonau bob amser wedi gweithredu yn unol â gweithdrefnau a rheolau cytûn y Cynulliad mewn perthynas â’r mater hwn. Nododd hefyd fod yn rhaid i bob Aelod dderbyn annibyniaeth y Comisiynydd, ei wrthrychedd a’i hawl i ymchwilio i gwynion fel y gwêl orau, er mwyn caniatáu iddo ymgymryd â’i rôl yn effeithiol.
Nododd y Llywydd nad yw felly mewn trefn i unrhyw Aelod feirniadu penderfyniadau’r Comisiynydd, y camau a gymerir ganddo na’i ymwneud â’r Pwyllgor Safonau Ymddygiad. Nid yw ychwaith mewn trefn trafod manylion unrhyw gŵyn neu ymchwiliad unigol.
…………………………
Eitem 3: Datganiad gan y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Osteoporosis - Gohiriwyd
…………………………
15.20
Eitem 4: Datganiad gan y Gweinidog dros Blant Addysg a Dysgu Gydol Oes: Strategaeth Addysg Uwch "Er Mwyn ein Dyfodol”
…………………………
16.18
Eitem 5: Datganiad gan y Gweinidog dros Fusnes a’r Gyllideb: Bwrdd Effeithlonrwydd ac Arloesi
…………………………
17.07
Eitem 6: Datganiad gan y Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes: Fframwaith Effeithiolrwydd Ysgolion
…………………………