30/01/2008 - Votes and Proceedings

Cyhoeddwyd 07/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 07/06/2014

Y Trydydd Cynulliad - Cyfarfod Llawn

Pleidleisiau a Thrafodion (43)

Dyddiad: Dydd Mercher, 30 Ionawr 2008
Amser: 12.30pm

Eitem 1: Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol

Gofynnwyd pob un o’r 14 cwestiwn ac eithrio cwestiwn 11 a dynnwyd yn ôl.

………………………………

12.51pm
Eitem 2: Cwestiynau i’r Gweinidog dros Faterion Gwledig

Gofynnwyd y 7 cwestiwn cyntaf.  

………………………………

1.29pm
Eitem 3: Datganiad gan y Dirprwy Weinidog dros Adfywio: Ymgynghoriad ar y rhaglen Cymunedau Nesaf  

………………………………

2.05pm
Cynnig i ohirio'r Rheolau Sefydlog

NDM3855 Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol â Rheolau Sefydlog 35.6 a 35.8:

1. Yn atal Rheol Sefydlog 7.18 (i) a’r rhan honno o Reol Sefydlog 6.10 sy’n ei gwneud yn ofynnol bod y cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 6.3 yn darparu’r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu i’r cynnig o dan Eitem 4 i sefydlu Pwyllgor o’r Cynulliad Cyfan gael ei ystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher 30 Ionawr 2008;

2. Yn atal Rheolau Sefydlog 10.29 a 10.30 mewn perthynas â chyfarfod y Pwyllgor ddydd Iau 31 Ionawr 2008; a

3. Yn atal Rheol Sefydlog 10.18, i alluogi’r Cynulliad i gytuno ar gadeirydd y Pwyllgor o’r Cynulliad Cyfan.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 7.35.

………………………………

2.06pm
Eitem 4: Cynnig i sefydlu Pwyllgor o’r Cynulliad Cyfan

NNDM3856 Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn unol â Rheol Sefydlog 21, yn sefydlu Pwyllgor o’r Cynulliad Cyfan;

2. Yn penderfynu y bydd y Pwyllgor yn cynnwys holl Aelodau’r Cynulliad ac y bydd y Llywydd yn cadeirio;

3. Cylch gorchwyl y Pwyllgor fydd cymryd rhan mewn trafodaethau â’r          Is-lywydd Wallström ar faterion sy’n ymwneud ag Ewrop;

4. Bydd y Pwyllgor yn dod i ben ar ôl ei gyfarfod ar 31 Ionawr 2008.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 7.35.

………………………………

2.06pm
Eitem 5: Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

NDM3852 William Graham (Dwyrain De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi Adroddiad Cynnydd Blynyddol 2007 Llywodraeth Cynulliad Cymru ar y Strategaeth Camddefnyddio Sylweddau;

2. Yn credu bod yn rhaid i Lywodraeth y Cynulliad fynd ati ar unwaith i adolygu ei threfniadau cyfredol ar gyfer comisiynu, contractio, asesu a rheoli gwasanaethau trin camddefnyddio sylweddau Haen 4 yng Nghymru.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)

Dileu popeth ar ôl 'Cynulliad Cenedlaethol Cymru’ ac yn ei le rhoi:

"Yn croesawu’r cynnydd a wnaed o ran mynd i’r afael â chamddefnyddio sylweddau ac yn edrych ymlaen at weld dogfen ymgynghori ddrafft Llywodraeth y Cynulliad yn cael ei chyhoeddi mis nesaf ar ei strategaeth camddefnyddio sylweddau.”

Gwelliant 2 - Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

"Yn credu y dylai gwasanaethau trin ac adsefydlu digonol fod yn gonglfaen i bolisi camddefnyddio sylweddau.”

Gwelliant 3 - Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

"Yn condemnio cau’r rhaglen ymatal yng ngharchar Abertawe.”

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Canlyniad y pleidleisiau:

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

Votes and Proceedings

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

37

0

16

53

Derbyniwyd gwelliant 1.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

Votes and Proceedings

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

52

0

1

53

Derbyniwyd gwelliant 2.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

Votes and Proceedings

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

17

0

36

53

Gwrthodwyd gwelliant 3.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM3852 William Graham (Dwyrain De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn croesawu’r cynnydd a wnaed o ran mynd i’r afael â chamddefnyddio sylweddau ac yn edrych ymlaen at weld dogfen ymgynghori ddrafft Llywodraeth y Cynulliad yn cael ei chyhoeddi mis nesaf ar ei strategaeth camddefnyddio sylweddau.

2. Yn credu y dylai gwasanaethau trin ac adsefydlu digonol fod yn gonglfaen i bolisi camddefnyddio sylweddau.

Votes and Proceedings

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

42

0

10

52

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

………………………………

2.56pm
Eitem 6: Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

NDM3853 William Graham (Dwyrain De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn galw ar Lywodraeth y Cynulliad i adolygu’r gefnogaeth y mae’n ei rhoi i Heddluoedd yng Nghymru.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Dileu popeth ar ôl 'Cynulliad Cenedlaethol Cymru:’ ac yn ei le rhoi:

"Yn galw ar Lywodraeth y Cynlluniad i lobïo Llywodraeth San Steffan i anrhydeddu’r dyfarniad cyflog diweddar ar gyfer yr heddlu’n llawn a hynny ar unwaith”

Gwelliant 2 - Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)

Dileu popeth ar ôl 'Cynulliad Cenedlaethol Cymru:’ ac yn ei le rhoi:

"Yn cymeradwyo cefnogaeth Llywodraeth y Cynulliad i Heddluoedd yng Nghymru a’r camau y mae wedi’u cymryd i sicrhau bod y Swyddfa Gartref yn ymwybodol o safbwyntiau, anghenion ac amgylchiadau Cymru o ran materion sy’n ymwneud â’r heddlu.”

Gwelliant 3 - Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

"Yn credu bod yr un rhif 101 ar gyfer digwyddiadau nad ydynt yn achosion brys yn darparu cefnogaeth werthfawr i’r heddlu ar gyfer delio â diogelwch cymunedol ac ymddygiad gwrthgymdeithasol ac felly yn galw ar Lywodraeth y Cynulliad i adolygu ei benderfyniad i beidio ag ymchwilio i gyflwyno’r gwasanaeth hwn ledled Cymru.”

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Canlyniad y pleidleisiau:

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

Votes and Proceedings

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

17

0

36

53

Gwrthodwyd gwelliant 1.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

Votes and Proceedings

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

36

0

17

53

Derbyniwyd gwelliant 2.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

Votes and Proceedings

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

16

0

36

52

Gwrthodwyd gwelliant 3.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM3853 William Graham (Dwyrain De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn cymeradwyo cefnogaeth Llywodraeth y Cynulliad i Heddluoedd yng Nghymru a’r camau y mae wedi’u cymryd i sicrhau bod y Swyddfa Gartref yn ymwybodol o safbwyntiau, anghenion ac amgylchiadau Cymru o ran materion sy’n ymwneud â’r heddlu.

Votes and Proceedings

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

36

0

16

52

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

………………………………

3.56pm
Eitem 7: Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru

NDM3851 Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi y bydd y setliad gwael ar gyfer llywodraeth leol yn achosi cynnydd uwch na’r disgwyl yn y dreth gyngor;

2. Yn nodi â braw y bydd cynnydd yn y dreth gyngor yn effeithio ar y bobl dlawd mewn modd anghymesur, ac y bydd y bobl dlotaf yng Nghymru yn talu cyfran uwch o’u hincwm ar gyfer eu gwasanaethau cyngor na’r bobl gyfoethocaf.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

"Yn nodi’r effaith negyddol a gaiff y setliad cyllido hwn ar allu awdurdodau lleol i gynnal ac i wella gwasanaethau’r rheng flaen.”

Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

"Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i gynyddu’r gefnogaeth a roddir i bensiynwyr ar gyfer eu treth gyngor.”

Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

"Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i adolygu’r ffactorau a ddefnyddir i gyfrifo’r Asesiad o Wariant Safonol.”

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Canlyniad y pleidleisiau:

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

Votes and Proceedings

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

17

0

36

53

Gwrthodwyd gwelliant 1.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

Votes and Proceedings

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

17

0

35

52

Gwrthodwyd gwelliant 2.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

Votes and Proceedings

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

17

0

36

53

Gwrthodwyd gwelliant 3.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

NDM3851 Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi y bydd y setliad gwael ar gyfer llywodraeth leol yn achosi cynnydd uwch na’r disgwyl yn y dreth gyngor;

2. Yn nodi â braw y bydd cynnydd yn y dreth gyngor yn effeithio ar y bobl dlawd mewn modd anghymesur, ac y bydd y bobl dlotaf yng Nghymru yn talu cyfran uwch o’u hincwm ar gyfer eu gwasanaethau cyngor na’r bobl gyfoethocaf.

Votes and Proceedings

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

17

0

35

52

Gwrthodwyd y cynnig.

………………………………

4.39pm
Eitem 8: Dadl fer

NDM3850 Jenny Randerson (Canol Caerdydd):

Treialu Canolfannau Galw i Mewn - yr Achos dros Gaerdydd

………………………………

4.59pm
Gohiriwyd y cyfarfod.

5.04pm
Bu i’r cyfarfod ailymgynnull ar gyfer y cyfnod pleidleisio.

……………………………

Daeth y cyfarfod i ben am 5.09pm

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 2.00pm ddydd Mawrth, 5 Chwefror 2008

Ysgrifenyddiaeth y Siambr