Y Trydydd Cynulliad - Cyfarfod Llawn
Pleidleisiau a Thrafodion (209)
Dyddiad: Dydd Mercher, 30 Mehefin
2010
Amser: 13.30
Eitem 1: Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol
Gofynnwyd y cwestiynau.
.........................................
13.39
Eitem
2: Cwestiynau i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol
Gofynnwyd y 9 cwestiwn cyntaf.
.........................................
14.29
Eitem
3: Cwestiynau i’r Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes
Gofynnwyd y 10 cwestiwn cyntaf. Tynnwyd cwestiwn 4 yn ôl.
.........................................
15.15
Eitem
4: Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Cymunedau a Diwylliant - Cyfiawnder Ieuenctid: Profiad plant Cymru mewn Sefydliadau Diogel
NDM4503 Sandy Mewies (Delyn)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cymunedau a Diwylliant, Cyfiawnder Ieuenctid: Profiad plant Cymru mewn Sefydliadau Diogel, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Chwefror 2010.
Sylwer: Gosodwyd ymateb y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Mehefin 2010.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 7.35.
.........................................
16.06
Eitem
5: Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
NDM4504 Nick Ramsay (Mynwy)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn credu y byddai creu swydd maer wedi’i ethol yn uniongyrchol yn fanteisiol i nifer o gynghorau Cymru, yn darparu arweinyddiaeth leol gref ac yn gwella atebolrwydd democrataidd i ddinasyddion;
2. Yn croesawu cynlluniau Llywodraeth y DU i wneud yr heddlu’n fwy atebol drwy oruchwyliaeth gan unigolyn wedi’i ethol yn uniongyrchol.
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
11 |
0 |
34 |
45 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu popeth a rhoi yn ei le
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod y ddarpariaeth i symud tuag at greu swydd maer wedi’i ethol yn uniongyrchol eisoes wedi’i chynnwys yn Neddf Llywodraeth Leol 2000 ac y gall gael ei gweithredu drwy refferendwm llwyddiannus.
2. Yn nodi bod Heddluoedd eisoes yn atebol i’r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu drwy awdurdodau’r heddlu sy’n cynnwys mwyafrif o gynghorwyr etholedig yn ogystal â phobl leyg.
3. Yn credu y dylai’r Cynulliad Cenedlaethol allu penderfynu ar unrhyw gynigion i newid y system gyfredol mewn perthynas ag atebolrwydd yr heddlu lleol.
Mae Deddf Llywodraeth Leol 2000 ar gael yn:
http://www.opsi.gov.uk/acts/acts2000/ukpga_20000022_en_1
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
34 |
0 |
11 |
45 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Dileu pwynt 1 a rhoi yn ei le:
Yn nodi bod awdurdodau lleol yn gallu sefydlu maer a etholir yn uniongyrchol drwy gynnal refferendwm lleol, ac yn nodi mai dim ond un refferendwm o’r fath a gynhaliwyd hyd yma yng Nghymru, ac roedd hwnnw’n aflwyddiannus.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
5 |
0 |
40 |
45 |
Gwrthodwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ym mhwynt 2, ar ôl 'uniongyrchol' cynnwys:
', ond serch hynny, mae’n credu taw Llywodraeth Cynulliad Cymru fyddai yn y sefyllfa orau i weinyddu’r gwaith o roi polisi o'r fath ar waith yng Nghymru drwy ddatganoli pwerau dros blismona.’
Gan fod gwelliant 1 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliant 3 ei ddad-ddethol.
Gwelliant 4 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu mai pobl leol ar lefel leol ddylai wneud unrhyw benderfyniad i sefydlu maer a etholir yn uniongyrchol.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
14 |
2 |
29 |
45 |
Gwrthodwyd gwelliant 4.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod y ddarpariaeth i symud tuag at greu swydd maer wedi’i ethol yn uniongyrchol eisoes wedi’i chynnwys yn Neddf Llywodraeth Leol 2000 ac y gall gael ei gweithredu drwy refferendwm llwyddiannus.
2. Yn nodi bod Heddluoedd eisoes yn atebol i’r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu drwy awdurdodau’r heddlu sy’n cynnwys mwyafrif o gynghorwyr etholedig yn ogystal â phobl leyg.
3. Yn credu y dylai’r Cynulliad Cenedlaethol allu penderfynu ar unrhyw gynigion i newid y system gyfredol mewn perthynas ag atebolrwydd yr heddlu lleol.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
34 |
0 |
11 |
45 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
.........................................
17.05
Eitem
6: Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru
NDM4505 Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i:
a) Gynnal asesiad economaidd o effaith tollau Pontydd Hafren ar economi De Cymru;
b) Cyflwyno sylwadau pellach i Lywodraeth y DU am effaith negyddol y tollau, a pharatoi’r achos o blaid cael gwared ar y tollau pan ddaw’r pontydd i fod dan berchnogaeth gyhoeddus.
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliant o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
16 |
0 |
29 |
45 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:
Gwelliant 1 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu popeth a rhoi yn ei le
Mae’r Cynulliad Cenedlaethol:
1. Yn croesawu’r gwaith sy’n cael ei wneud gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i
asesu effaith tollau Pontydd Hafren ar economi De Cymru;
2. Yn nodi bod Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cynnal trafodaethau rheolaidd â Llywodraeth y DU ynghylch Pontydd Hafren a bydd yn parhau i drafod â hwy ynghylch rheolaeth y Pontydd a’u perchnogaeth yn y dyfodol,
3. Yn croesawu’r mesurau i ganiatáu defnyddio cerdyn i dalu’r tollau ac yn annog Llywodraeth y DU i sicrhau bod y newidiadau angenrheidiol yn cael eu gwneud cyn y Cwpan Ryder.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
29 |
0 |
16 |
45 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
Mae’r Cynulliad Cenedlaethol:
1. Yn croesawu’r gwaith sy’n cael ei wneud gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i
asesu effaith tollau Pontydd Hafren ar economi De Cymru;
2. Yn nodi bod Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cynnal trafodaethau rheolaidd â Llywodraeth y DU ynghylch Pontydd Hafren a bydd yn parhau i drafod â hwy ynghylch rheolaeth y Pontydd a’u perchnogaeth yn y dyfodol,
3. Yn croesawu’r mesurau i ganiatáu defnyddio cerdyn i dalu’r tollau ac yn annog Llywodraeth y DU i sicrhau bod y newidiadau angenrheidiol yn cael eu gwneud cyn y Cwpan Ryder.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
33 |
11 |
1 |
45 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
.........................................
18.04
Cyfnod
pleidleisio
.........................................
Eitem 7: Dadl fer
Ni Chyflwynwyd Testun.
.........................................
Daeth y cyfarfod i ben am 18.07.