Y Trydydd Cynulliad - Cyfarfod Llawn
Pleidleisiau a Thrafodion (151)
Dyddiad: Dydd Mercher, 30 Medi 2009
Amser:
13.30
Eitem 1: Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Gofynnwyd y 10 cwestiwn cyntaf. Trosglwyddwyd cwestiwn 2 i’w ateb yn ysgrifenedig. Cafodd cwestiynau 3 a 6 ac 8 a 10 eu grwpio i’w hateb. Tynnwyd cwestiwn 5 yn ôl.
.........................................
14.08
Eitem
2: Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth
Gofynnwyd y 10 cwestiwn cyntaf. Tynnwyd cwestiwn 9 yn ôl.
.........................................
14.44
Eitem
3: Cynigion i ethol Aelodau ar bwyllgorau
NDM4282 Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 10.3, yn ethol William Graham (Ceidwadwyr) yn aelod o’r Pwyllgor Is-ddeddfwriaeth yn lle David Melding (Ceidwadwyr).
NDM4283 Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 10.3 yn ethol Brynle Williams (Ceidwadwyr) yn aelod o Bwyllgor Deddfwriaeth Rhif 2 yn lle Paul Davies (Ceidwadwyr).
Derbyniwyd y cynigion yn unol â Rheol Sefydlog 7.35
.........................................
14.45
Eitem
4: Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Menter a Dysgu ar ei ymchwiliad i swyddogaeth llywodraethwyr ysgolion
NDM4285 Gareth Jones (Aberconwy)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Menter a Dysgu ar Swyddogaeth Llywodraethwyr Ysgolion a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Gorffennaf 2009.
Nodyn:
Gosodwyd ymateb y Gweinidog dros Blant Addysg Dysgu Gydol Oes a Sgiliau yn y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Medi 2009.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 7.35
.........................................
15.31
Eitem
5: Dadl ar adroddiad yr Is-bwyllgor Datblygu Gwledig ar ei ymchwiliad i gynhyrchu a hybu bwyd Cymreig
NDM4284
Alun Davies (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad yr Is-bwyllgor Datblygu Gwledig ar ei Ymchwiliad i Gynhyrchu a Hybu Bwyd Cymreig a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 21 Gorffennaf 2009.
Nodyn:
Gosodwyd ymateb y Gweinidog dros Faterion Gwledig yn y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Medi 2009.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 7.35
.........................................
16.23
Eitem
6: Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
NDM4286 Alun Cairns (Gorllewin De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi y gellid atal hyd at 70% o ddallineb drwy ganfod cyflyrau llygaid a’u trin yn gynnar.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i:
a) Gefnogi mesurau i helpu i ganfod namau ar lygaid plant.
b) Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf yn rheolaidd am y cynnydd a wnaed i leihau’r achosion o glawcoma.
c) Cydnabod swyddogaeth optometryddion o ran datblygu gofal llygaid da yn y sector cynradd.
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
11 |
0 |
32 |
43 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)
Ychwanegu at ddiwedd pwynt 1 'yn cynnwys defnyddio’n
effeithiol y gwasanaethau sydd eisoes yn bod er mwyn canfod a thrin achosion yn gynnar.’
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
45 |
0 |
0 |
45 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)
Ychwanegu
at ddiwedd pwynt 2a 'yn cynnwys gwaith Eiriolydd Plant Prin eu Golwg a gwerthuso cynllun peilot ar wasanaethau sgrinio mewn ysgolion.’
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
45 |
0 |
0 |
45 |
Derbyniwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3 - Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
'Yn cefnogi penderfyniad Llywodraeth Cynulliad Cymru i fod ymhlith y cyrff i lofnodi Strategaeth Golwg
y DU.’
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
45 |
0 |
0 |
45 |
Derbyniwyd gwelliant 3.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM4286 Alun Cairns (Gorllewin De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi y gellid atal hyd at 70% o ddallineb drwy ganfod cyflyrau llygaid a’u trin yn gynnar yn cynnwys defnyddio’n effeithiol y gwasanaethau sydd eisoes yn bod er mwyn canfod a thrin achosion yn gynnar.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i:
a) Gefnogi mesurau i helpu i ganfod namau ar lygaid plant yn cynnwys gwaith Eiriolydd Plant Prin eu Golwg a gwerthuso cynllun peilot ar wasanaethau sgrinio mewn ysgolion.
b) Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf yn rheolaidd am y cynnydd a wnaed i leihau’r achosion o glawcoma.
c) Cydnabod swyddogaeth optometryddion o ran datblygu gofal llygaid da yn y sector sylfaenol.
3.
Yn cefnogi penderfyniad Llywodraeth Cynulliad Cymru i fod ymhlith y cyrff i lofnodi Strategaeth Golwg y DU.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
45 |
0 |
0 |
45 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
.........................................
17.08
Cyfnod
pleidleisio
.........................................
17.10
Eitem
7: Dadl fer
NDM4281 Alun Davies (Canolbarth a Gorllewin Cymru):
Cadw ein Golau Ynghyn.
.........................................