Cwestiynau Brys - Y Bumed Senedd

Cyhoeddwyd 03/12/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 29/10/2021   |   Amser darllen munud

Caiff Aelodau'r Senedd wneud cais ar unrhyw adeg i ofyn Cwestiwn Brys i Aelod o Lywodraeth Cymru neu Gomisiwn y Senedd yn ystod Cyfarfod Llawn. Er hynny, dim ond os bydd y Llywydd (neu'r Dirprwy Lywydd os yw'r cwestiwn yn ymwneud â Chomisiwn y Senedd) yn fodlon bod y cwestiwn o bwys cenedlaethol brys.

Cyflwynwyd y Cwestiynau Brys ar eu ffurf newydd yn y Cynulliad ym mis Mai 2017, ynghyd â Chwestiynau Amserol​. Mae'r gweithdrefnau newydd hyn yn disodli'r drefn flaenorol ar gyfer gofyn Cwestiynau Brys.

Mae rhestr o'r holl geisiadau am Gwestiynau Brys yn y Cynulliad hyd at fis Mai 2017 ar gael ar y tudalenau Cwestiynau Brys.

Cwestiynau Brys 2021

​Dyddiad Cyflwyno ​Cwestiwn Brys ​Penderfyniad
9 Mawrth 2021
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi Liberty Steel?
Heb ei ganiatáu
9 Mawrth 2021
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am lesiant ariannol Liberty Steel o ystyried bod ei brif gefnogwr ariannol yn nwylo’r gweinyddwyr?
Heb ei ganiatáu
2 Mawrth 2021
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gyflwr y sector hedfanaeth yng Nghymru?
Heb ei ganiatáu
2 Mawrth 2021
Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o'r cyhoeddiad y bydd cronfa lefelu i fyny Llywodraeth y DU yn cael ei rheoli'n ganolog gan y Trysorlys?
Heb ei ganiatáu
23 Chwefror 2021
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cymorth sydd ar gael i bobl yn dilyn y llifogydd diweddar sydd wedi effeithio cymunedau ar draws Cymru?
Heb ei ganiatáu
2 Chwefror 2021
Yn dilyn cyhoeddi canllawiau lefel rhybudd 4 Llywodraeth Cymru ar gyfer etholiadau, a wnaiff y Gweinidog gadarnhau a ganiateir yn gyfreithiol i bleidiau gwleidyddol, ymgeiswyr ac ymgyrchwyr eraill ddosbarthu taflenni etholiad?
Heb ei ganiatáu
26 Ionawr 2021
Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i bobl sydd wedi gorfod gadael eu cartrefi yn dilyn y llifogydd a ddigwyddodd o ganlyniad i Storm Christoph?
Heb ei ganiatáu
26 Ionawr 2021
Yn sgil y ffigurau brechu ar gyfer pobl dros 80 oed a gyhoeddwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ddydd Iau, a wnaiff y Gweinidog egluro'r ffigurau a ddarparodd i'r Senedd ddydd Mawrth diwethaf?
Heb ei ganiatáu
19 Ionawr 2021
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar y cynllun brechu yn erbyn COVID-19 yng Nghymru yn dilyn adroddiadau mai polisi Llywodraeth Cymru yw dosbarthu’r cyflenwad presennol o frechiadau yn raddol yn hytrach nac anelu i frechu cymaint o bobl â phosib yn y cyfnod byrraf posib?
Wedi ei ganiatáu
12 Ionawr 2021
I ofyn i'r Gweinidog Addysg

A wnaiff y Gweinidog egluro’r penderfyniad i gau ysgolion tan 22 Chwefror 2021?

Heb ei ganiatáu

 

Cwestiynau Brys 2020

​Dyddiad Cyflwyno ​Cwestiwn Brys ​Penderfyniad
16 Rhagfyr 2020
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynigion Llywodraeth Cymru i gyflwyno cyfyngiadau pellach i ymateb i’r pandemig COVID-19?
Wedi'i ganiatau
​1 Rhagfyr 2020
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am effaith economaidd gwahardd gwerthu alcohol mewn tafarndai a bwytai a'u cau am 6pm?
​​Heb ei ganiatáu
​17 Tachwedd 2020 ​Gofyn i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyfodol cynhyrchu dur yng Nghymru yn dilyn cyhoeddiad gan Tata Steel y bydd yn gwahanu ei weithrediadau yn y DU a'r Iseldiroedd a gwerthu ei safleoedd yn yr Iseldiroedd i SSAB?
​​Heb ei ganiatáu
​10 Tachwedd 2020 ​Gofyn i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru
O ystyried y caledi ariannol y mae busnesau wedi’i wynebu yn ystod y cyfnod atal byr, a wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd am sut y bydd ymgeiswyr aflwyddiannus yn gallu cael eu ceisiadau wedi’u hailasesu?
​​Heb ei ganiatáu
​10 Tachwedd 2020 ​Gofyn i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol 
Yn sgil y datganiad ddoe am frechlyn COVID-19 gan Pfizer, pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch strategaeth gyflwyno ledled Cymru?
​​Heb ei ganiatáu
​20 Hydref 2020 ​Gofyn i’r Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg
Yn sgil y cyfyngiadau symud a gyhoeddwyd ddoe, pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddiogelu iechyd meddwl pobl yng Nghymru dros y pythefnos nesaf a thu hwnt?
​Heb ei ganiatáu
​13 Hydref 2020 ​Gofyn i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol 
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am reoliadau Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â COVID-19 yn y gweithle yn sgil y penderfyniad gan y Post Brenhinol i gyflwyno cerbydau aml-feddiannaeth, yn groes i gyngor iechyd cyhoeddus yng Nghymru?
​Heb ei ganiatáu
​5 Hydref 2020
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gladin diogelwch tân yng Nghymru yn sgil datgeliadau bod tystysgrif diogelwch tân wedi'i llofnodi'n dwyllodrus ar gyfer bloc o fflatiau yng Nghaerdydd?
​Heb ei ganiatáu
​30 Medi 2020

​Gofyn i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol

Janet Finch-Saunders (Aberconwy): 

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am effaith y cyfyngiadau symud a gyhoeddwyd yn ardal Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ar y sector twristiaeth?


​​Heb ei ganiatáu
​30 Medi 2020

Gofyn i'r ​Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol 

Mick Antoniw (Pontypridd):

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y brigiad o achosion o COVID-19 yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg?

​​Heb ei ganiatáu
​22 Medi 2020

​​Gofyn i Brif Weinidog Cymru

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): 

Yn dilyn datganiad Prif Weinidog y DU yn Nhŷ'r Cyffredin yn gynharach heddiw ynglŷn â chyflwyno cyfyngiadau cornonafeirws newydd, a wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am newidiadau arfaethedig Llywodraeth Cymru yng Nghymru?


​Heb ei ganiatáu
​8 Mehefin 2020

​Gofyn i Brif Weinidog Cymru

Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr): 

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad yn dilyn adroddiadau bod INEOS yn ailystyried ei benderfyniad i adeiladu ffatri newydd ym Mhen-y-bont ar Ogwr?

​Heb ei ganiatáu
​3 Mehefin 2020

Gofyn i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd

Mick Antoniw (Pontypridd):
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am benderfyniad Llywodraeth y DU i beidio ag eithrio taliad arbennig £500 Llywiodraeth Cymru i weithwyr gofal cymdeithasol rhag treth?

 

​Heb ei ganiatáu
​1 Mehefin 2020

​Gofyn i Gofyn i ​Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru

Mick Antoniw (Pontypridd): 

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am golli swyddi yn British Airways yn Llantrisant a safleoedd eriall yng Nghymru?

 

​Heb ei ganiatáu
​13 Mai 2020

​Gofyn i Brif Weinidog Cymru

Mick Antoniw (Pontypridd):


Pa asesiad mae’r Prif Weinidog wedi’i wneud o effath cynigion Llywodraeth y DU ar weithwyr yng Nghymru i gyflwyno toriadau i’r sector cyhoeddus a rhewi cyflogau er mwyn talu am wariant coronafeirws, fel y nodir mewn dogfen y Trysorlys a ryddhawyd heb ganiatad?

​​​Heb ei ganiatáu
​11 Mawrth 2020 Gofyn i ​Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): 

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad brys am ddyfodol Maes Awyr Caerdydd yn dilyn cwymp Flybe?



​​Heb ei ganiatáu
​11 Mawrth 2020 Gofyn i ​Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru

Mick Antoniw (Pontypridd):

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am effaith cwymp Flybe ar Faes Awyr Caerdydd?

​​Heb ei ganiatáu
​4 Mawrth 2020 ​Gofyn i Brif Weinidog Cymru

Huw Irranca-Davies(Ogwr): 

I ba raddau yr ymgynghorwyd â Llywodraeth Cymru dros gynnwys mandad y DU ar gyfer trafodaethau gyda’r UE? 

​Heb ei ganiatáu
​4 Mawrth 2020

​Gofyn i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru

Andrew RT Davies (Canol De Cymru):

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr effaith ar Faes Awyr Caerdydd yn sgil yr adroddiadau bod Flybe mewn trafodaethau munud olaf i osgoi mynd i ddwylo'r gweinyddwyr? 

​Heb ei ganiatáu
​26 Chwefror 2020 ​Gofyn i Brif Weinidog Cymru


Mick Antoniw (Pontypridd):

 

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y gefnogaeth barhaus a gaiff ei darparu gan Lywodraeth Cymru i drigolion a busnesau y mae'r llifogydd yn Rhondda Cynon Taf wedi effeithio arnynt?



​Heb ei ganiatáu
​11 Chwefror 2020

​Gofyn i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig 

Janet Finch-Saunders (Aberconwy): 

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ymdrechion Llywodraeth Cymru i leddfu’r sefyllfa sy’n wynebu trigolion Dyffryn Conwy yn dilyn y llifogydd diweddar? 

​Wedi'i ganiatau
​11 Chwefror 2020

​​Gofyn i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig 

Darren Millar (Gorllewin Clwyd): 


Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi dioddefwyr llifogydd yng Ngogledd Cymru yn dilyn Storm Ciara?

​Heb ei ganiatáu
​28 Ionawr 2020

Gofyn i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Caroline Jones (Gorllewin De Cymru): 

A wnaiff y Gweinidog amlinellu'r camau y mae Iechyd Cyhoeddus Cymru a GIG Cymru yn eu cymryd i amddiffyn y cyhoedd rhag coronafeirws?

​​Heb ei ganiatáu
​28 Ionawr 2020

​Gofyn i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol 

Neil McEvoy (Canol De Cymru):

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad mewn ymateb i'r lefel uchaf erioed o droseddau rhyw a gofnodir yng Nghymru yn erbyn plant?

​​Heb ei ganiatáu

Cwestiynau Brys 2019

​Dyddiad Cyflwyno ​Cwestiwn Brys ​Penderfyniad
​10 Rhagfyr 2019 ​Gofyn i ​Brif Weinidog Cymru

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): 

Pa asesiad y mae Prif Weinidog Cymru wedi'i wneud o drefniadau diogelwch cenedlaethol o fewn Gwasanaeth Sifil Cymru, yng ngoleuni sylwadau a wnaeth Gweinidog Iechyd yr Wrthblaid Lafur, Jon Ashworth, ynghylch goblygiadau diogelwch yn deillio o'r posibilrwydd y byddai Llywodraeth y DU yn cael ei harwain gan y Blaid Lafur?

​Heb ei ganiatáu
​4 Rhagfyr 2019

​Gofyn i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth 

David Rees (Aberafan): 

A wnaiff y Gweindiog roi'r wybodaeth ddiweddaraf yn dilyn cyhoeddiad Tata Steel ynghylch colli 1000 o swyddi yn y DU?

 

​Heb ei ganiatáu
​26 Tachwedd 2019 ​Gofyn i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol

Neil McEvoy: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddiogelu'r amgylchedd ym Mro Morgannwg gan fod y profion wedi dechrau bellach ar losgydd y Barri?

​Heb ei ganiatáu
​19 Tachwedd 2019

​Gofyn i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth

David Rees (Aberafan): 

Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Tata Steel yn dilyn y cyhoeddiad y bydd swyddi yn cael eu colli ledled Ewrop a goblygiadau hyn i'r gweithfeydd dur yng Nghymru?

 

​Heb ei ganiatáu
​13 Tachwedd 2019 ​Gofyn i Gomisiwn y Cynulliad​

Mark Reckless (Dwyrain De Cymru)

A wnaiff y Comisiwn ddatganiad am y cysylltiad a fu rhwng y Llywydd a'r Prif Weithredwr a Syr Roderick Evans ynghylch cwynion o ran safonau.

Heb ei ganiatáu
​13 Tachwedd 2019

Gofyn i Gomisiwn y Cynulliad​

Neil McEvoy (Canol De Cymru):


A wnaiff y Comisiwn roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith o archwilio ystâd y Cynulliad, fel y cyhoeddwyd ddoe?

​Heb ei ganiatáu
​24 Medi 2019

Gofyn i ​Brif Weinidog Cymru

Adam Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): 

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad yn dilyn dyfarniad y Goruchaf Lys fod addoediad Senedd y Deyrnas Unedig yn anghyfreithlon.

Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr):

Beth yw asesiad Llywodraeth Cymru o ddyfarniad y Goruchaf Lys bod addoediad Prif Weinidog y DU o Senedd y DU yn anghyfreithnol? 

Wedi'i ganiatáu





Heb ei ganiatáu
​17 Medi 2019 Gofyn i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth

John Griffiths (Dwyrain Casnewydd):

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad yn ymateb i'r bwriad i gau Gwaith Dur Orb yng Nghasenwydd?

​Heb ei ganiatáu
​16 Gorffennaf 2019

​​​Gofyn i Brif Weinidog Cymru

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): 

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad yng ngoleuni'r cyhoeddi'r adroddiad gan Lywodraeth Cymru yr wythnos i'r ymchwiliad i ddatgelu gwybodaeth heb ganiatâd?

​Heb ei ganiatáu
​16 Gorffennaf 2019 ​​​Gofyn i Brif Weinidog Cymru

Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad yn dilyn dyfarniad y crwner ynghylch marwolaeth Carl Sargent?

​Heb ei ganiatáu
25 Mehefin 2019

​Gofyn i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth

Helen Mary Jones (Canolbarth a Gorllewin Cymru): 

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad yn dilyn y newyddion bod y cwmni GRH Food Company yng Ngwynedd wedi mynd i ddwylo'r gweinyddwyr? 

​Heb ei ganiatáu
​25 Mehefin 2019

​Gofyn i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth

Suzy Davies (Gorllewin De Cymru):

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad yn dilyn adroddiadau bod y cwmni adeiladu Jistcourt, o Bort Talbot, wedei mynd i ddwylo'r gweinyddwyr?

​Heb ei ganiatáu
​11 Mehefin 2019

Gofyn i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth

 

Jayne Bryant (Gorllewein Casnewydd)

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad yn ymateb i'r cyhoeddiad bod Quinn Radiators wedi mynd i ddwylo'r gweinyddwyr?

​Heb ei ganiatáu
​11 Mehefin 2019 ​Gofyn i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth

Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr): 

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cyhoeddiad diweddar gan Ford ynghylch Ffatri Beiriannau Pen-y-bont ar Ogwr?

Bethan Sayed (Gorllewin De Cymru):  

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyfodol Ford yn Mhen-y-bont ar Ogwr?

Wedi'i ganiatáu






Heb ei ganiatáu
​10 Mai 2019

​Gofyn i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth

David Rees (Aberafan): 

Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r cyhoeddiad nad yw'r Comisiwn Ewropeaidd yn debygol o gymeradwyo'r fenter ar y cyd rhwng Tata Steel Cyf a ThyssenKrupp AG, ac felly bydd unrhyw broses bellach ar y cyd-fenter yn cael ei hatal?

​Heb ei ganiatáu
​2 Ebrill 2019

​​Gofyn i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth

  

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad yn sgil y newyddion y bydd Flybe yn lleihau nifer y teithiau awyr o Faes Awyr Caerdydd?

​Heb ei ganiatáu
​2 Ebrill 2019

​Gofyn i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth

Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn): 

Yn sgil adroddiadau heddiw y gellid colli 100 o swyddi o gwmni Flybe ac y gallai gwasanaethau Flybe o Faes Awyr Caerdydd ddod i ben erbyn mis Hydref, pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi’u cael gyda Flybe a phrif swyddogion Maes Awyr Caerdydd? 

​Heb ei ganiatáu
​27 Mawrth 2019

​​Gofyn i Brif Weinidog Cymru

  

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad yn ymateb i benderfyniad yr Uchel Lys heddiw ynghylch yr ymchwiliad o dan arweiniad Cwnsler y Frenhines i ddiswyddo Carl Sargeant?

​Heb ei ganiatáu
​26 Mawrth 2019

​​Gofyn i Brif Weinidog Cymru

David Rees (Aberafan): 

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad yn dilyn diwedd cyfarfod y Cyngor Ewropeaidd a gynhaliwyd ar 21 a 22 Mawrth?

Wedi'i ganiatáu
​19 Mawrth 2019

​Gofyn i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig

Janet Finch-Saunders (Aberconwy): 

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ymateb Llywodraeth Cymru i lifogydd difrifol ledled Cymru dros y penwythnos?

​Heb ei ganiatau
​13 Mawrth 2019

Gofyn i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth 

 

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd yn dilyn y newyddion bod y cwmni Dawnus o Abertawe wedi methu â thalu ei staff a bod prosiectau ledled Cymru a'r DU wedi dod i derfyn?

Heb ei ganiatau​
​13 Mawrth 2019

​Gofyn i ​Brif Weinidog Cymru

Adam Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): 

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bolisi Llywodraeth Cymru ar Brexit yn sgil y ffaith bod Cytundeb Ymadael yr UE-DU wedi cael ei gwrthod neithiwr yn Nhŷ'r Cyffredin?

Wedi'i ganiatáu.​
​4 Mawrth 2019

Gofyn i ​Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol

Andrew RT Davies (Canol De Cymru):  

Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gydag Undeb Rygbi Cymru yn sgil adroddiadau am newidiadau mawr i'r gêm broffesiynol yng Nghymru?

​Heb ei ganiatáu
​19 Chwefror 2019

Gofyn i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth 

Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn):  

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am effaith penderfyniad Honda i gau eu ffatri’n Swindon ar y gadwyn cyflenwi yng Nghymru?

​Heb ei ganiatáu.

​13 Chwefror 2019

​Gofyn i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Russell George (Sir Dre​faldwyn): 

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am roi'r gorau i feddyginiaeth epilepsi a allai achub bywyd yng nghanolfan Iechyd Machynlleth?

​​Heb ei ganiatáu.​​
​4 Chwefror 2019

​Gofyn i ​Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth 

Andrew RT Davies (Canol De Cymru):  

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad yng ngoleuni cadarnhâd Ysgrifennydd Gwladol Cymru bod yr ymchwiliad cyhoeddus annibynnol wedi argymell adeiladu'r opsiwn  llwybr du a gaiff ei ffafrio gan Lywodraeth Cymru ar gyfer yr M4?

Heb ei ganiatáu.​​
​29 Ionawr 2019

​Gofyn i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Bethan Sayed (Gorllewin De Cymru):  

A wnaiff y Gweinidog ymateb i adolygiad Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru i ymdriniaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg â honiadau a wnaeth cleifion ag anawsterau dysgu ynghylch ymosodiadau rhyw yn erbyn gweithiwr gofal?

​Heb ei ganiatáu.​​
​28 Ionawr 2019

​​Gofyn i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth 

Neil Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru):

Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi’i wneud o sylwadau diweddar gan Brif Weithredwr Airbus ynghylch effaith Brexit heb fargen?

​​Heb ei ganiatáu.​​
​24 Ionawr 2019

​Gofyn i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth 

Jack Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy): 

Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi’i wneud o rybudd Airbus y gallai symud gwaith adeiladu adennydd o’r DU os oes Brexit heb gytundeb?

​Heb ei ganiatáu.​​
​23 Ionawr 2019

​Gofyn i'r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth 

 A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyhoeddiad REHAU am ddyfodol eu ffatri yn Amlwch?

​Heb ei ganiatáu.​​
​22 Ionawr 2019

​Gofyn i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Helen Mary Jones (Canolbarth a Gorllewin Cymru):  A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y camau a gymerwyd i wella gwasanaethau mamolaeth yng Nghwm Taf yn dilyn yr adolygiad wythnos diwethaf? 

Heb ei ganiatáu.​​
​22 Ionawr 2019

Gofyn i'r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth 

Neil McEvoy (Canol De Cymru): Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi’u cael ynghylch yr awyren a aeth ar goll neithiwr wrth hedfan o Nantes i Gaerdydd?

​​Heb ei ganiatáu.​​
​17 Ionawr 2019

Gofyn i'r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth 

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y cyhoeddiad ynglŷn â Wylfa Newydd?

Wedi'i ganiatáu.​
​15 Ionawr 2019 ​​​​​​Gofyn i'r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth 

Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr): Pa asesiad mae'r Gweinidog wedi ei wneud o'r sefyllfa bresennol yn Ford Europe a'i heffaith bosibl ar y Ffatri Beiriannau ym Mhen-y-bont ar Ogwr?

​​Wedi'i ganiatáu.​

Cwestiynau Brys 2018

​Dyddiad Cyflwyno ​Cwestiwn Brys ​Penderfyniad
​6 Tachwedd 2018 ​​​​​Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth 

Lee Waters (Llanelli): Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd yn dilyn y cyhoeddiad heddiw y bydd Schaeffler yn cau ei safle yn Llanelli, gan fygwth 250 o swyddi?

​Heb ei ganiatáu.​​
​6 Tachwedd 2018 ​​Gofyn i Brif Weinidog Cymru

Neil McEvoy (Canol De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am hyfforddi peilotiaid Sawdïaidd
yn RAF Fali mewn perthynas â'r ymgyrch fomio parhaus gan Sawdi Arabia yn erbyn yr Yemen a'i heffaith ar y gymuned Yemenïaidd yng Nghymru?

Heb ei ganiatáu.​​​
​15 Hydref 2018 ​Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus

Mick Antoniw (Pontypridd):
 Pa asesiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i wneud o oblygiadau'r cyhoeddiad y bydd 74 o swyddfeydd post y Goron, gan gynnwys nifer yng Nghymru, yn cael eu rhyddfreinio
i WHSmith?

​Heb ei ganiatáu.​​

​02 Hydref 2018 Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig

Neil McEvoy (Canol De Cymru): Pryd y cafodd Ysgrifennydd y Cabinet wybod am ddamweiniau pyllau oeri a oedd yn ymwneud â phlwtoniwm ac wraniwm o safon cynhyrchu arfau yn Hinkley Point A yn ystod y 1960au? 

Heb ei ganiatáu.​​

​25 Medi 2018 Gofyn i Brif Weinidog Cymru

Steffan Lewis (Dwyrain De Cymru): Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o effaith cynhadledd Salzburg ar Gymru?

Heb ei ganiatáu.​​

​18 Medi 2018

Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig


Neil McEvoy (Canol De Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gefnogi'r gwyddonwyr sy'n ceisio atebion gan Magnox Cyf. ynghylch nifer a graddau'r damweiniau pyllau oeri yn Hinkley Point A a allai fod wedi arwain at symiau sylweddol o wraniwm a phlwtoniwm yn y mwd sy'n cael ei ddympio gan EDF ym Mae Caerdydd?

​Heb ei ganiatáu.​
​16 Gorffennaf 2018

 

Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig

Suzy Davies (Gorllewin De Cymru): 

Yn dilyn digwyddiad arall yn Heol y Cyw ac addewidion a wnaed ynghylch newid rheoleiddiol, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am atal tanau sglodion coed?

​Heb ei ganiatáu.​
​25 Mehefin 2018

​​​Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth 

Jack Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy): 

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am adroddiadau bod Airbus ar fin rhoi'r gorau i fuddsoddi ym Mhrydain?

Heb ei ganiatáu.​
​19 Mehefin 2018

​​​​Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth 

 

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gyhoeddiad Barclays ei fod yn bwriadu symud 200 o swyddi o'i ganolfan ym Mhentwyn, Caerdydd, a'u adleoli yn swydd Northampton ac India?

​Heb ei ganiatáu.​
​22 Mai 2018

​​Gofyn i Brif Weinidog Cymru

Mick Antoniw (Pontypridd): 

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am sut y caiff penderfyniad Llywodraeth y DU i leihau'r swm mwyaf y gellid ei roi ar beiriannau betio ods sefydlog ei gweithredu yng Nghymru?

​​Heb ei ganiatáu.​
​22 Mai 2018

​Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus

Janet Finch-Saunders (Aberconwy): 

Yn sgil yr hyn a ddigwyddodd yng Nghyngor Sir Powys, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ddileu'r rhwystrau y mae pobl ag anableddau sy'n sefyll ar gyfer etholiad ac yn gweithio fel cynrychiolwyr etholedig yn eu hwynebu?

​Heb ei ganiatáu.​
​15 Mai 2018

​​​Gofyn i Brif Weinidog Cymru

Neil McEvoy (Canol De Cymru): 

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am rôl Llywodraeth Cymru yn y broses o ailenwi pont Hafren yn sgil y wybodaeth a dderbyniwyd drwy geisiadau rhyddid gwybodaeth gan y BBC?

Heb ei ganiatáu.​
​5 Mai 2018

​​Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth 

Suzy Davies (Gorllewin De Cymru): 

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad yn dilyn penderfyniad Virgin Media i gau ei ganolfan alwadau yn Abertawe gan arwain at golli dros 700 o swyddi?

​​Heb ei ganiatáu.​
​2 Mai 2018

​Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

 

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad yn dilyn newyddion am gamsyniad sylweddol o ran sgrinio ar gyfer canser y  fron yn mynd yn ôl i 2009, a'r effaith bosibl y gallai hyn fod wedi'i chael ar fenywod yng Nghymru?

​Heb ei ganiatáu.​
​19 Ebrill 2018

Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Paul Davies (Preseli Sir Benfro): 

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad ar gynlluniau Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i ad-drefnu gwasanaethau yn y gorllewin, yn dilyn cyhoeddi ei ymgynghoriad ar 19 Ebrill?

​Heb ei ganiatáu.​
​16 Ebrill 2018

​Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid

David Rees (Aberafan): 

Pa asesiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i wneud o benderfyniad Llywodraeth y DU i gyfeirio Bil Parhad Llywodraeth Cymru at y Goruchaf Lys?

​​​​Heb ei ganiatáu.​
​7 Mawrth 2018

​Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus

Janet Finch-Saunders (Aberconwy):  

A wnaiff Ysgrifennydd y  Cabinet ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cymru i ad-drefnu strwythur llywodraeth leol yng Nghymru?

​Heb ei ganiatáu

​7 Chwefror 2018

Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig

 

Yn sgil penderfyniad Cyfoeth Naturiol Cymru i ganiatáu trwyded ar gyfer llosgydd y Barri, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad i roi sicrwydd i drigolion Bro Morgannwg y caiff allyriadau eu monitro'n allanol?

Heb ei ganiatáu.​

​6 Chwefror 2018

​Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth 

Mick Antoniw (Pontypridd): 

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gynlluniau wrth gefn Llywodraeth Cymru i ymateb i'r pryderon ariannol difrifol yn Capita a'r risg canlyniadol i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru?

​30 Ionawr 2018

​Gofyn i Brif Weinidog Cymru

 

Yn sgil datganiad yr Ysgrifennydd Parhaol, a wnaiff y Prif Weinidog ddatgelu a wnaeth e, neu rywun yn ymddwyn ar ei awdurdod, awdurdodi datgelul manylion ad-drefnu'r Cabient cyn 3 Tachwedd 2017?

​30 Ionawr 2018

Janet Finch-Saunders (Aberconwy): 

A wnaiff Ysgrifennydd y  Cabinet ddatganiad am gyfraddau marwolaeth yn yr uned damweiniau ac achosion brys yn Ysbyty Glan Clywd?

Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru): 

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am yr adroddiadau ynghylch cyfraddau marwolaeth yn Ysbyty Glan Clwyd?

Heb ei ganiatáu.​

​24 Ionawr 2018

​Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon

 

adroddiadau o fethiant TG sylweddol yn GIG Cymru?

Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn):

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am fethiant systemau cyfrifiadurol y GIG yng Nghymru heddiw, effaith hynny ar ofal iechyd, a chamau gweithredu sy’n cael eu cymryd i ddatrys y sefyllfa?

Heb ei ganiatáu.​

 

Heb ei ganiatáu.​

​23 Ionawr 2018 ​​Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon

Paul Davies (Preseli Sir Benfro):​​ Yn sgil y cynigion dadleuol gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ar gyfer newidiadau i wasanaethau ar draws Canolbarth a Gorllewin Cymru, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ddyfodol gwasanaethau iechyd yn yr ardal bwrdd iechyd?​
A yw Llywodraeth Cymru wedi mynegi i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda nad yw cau ysbyty Llwynhelyg yn ddewis derbyniol o dan yr ymgynghoriad arfaethedig i newidiadau gwasanaeth iechyd?

Heb ei ganiatáu.​

Heb ei ganiatáu.​

​17 Ionawr 2018 ​Gofyn i Brif Weinidog Cymru

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): 

Yn sgil y sylwadau a wnaed gan uwch swyddog Llywodraeth Cymru bod costau ffordd liniaru arfaethedig yr M4 yn debygol o fod yn fwy na £1.4 biliwn, a wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad yn egluro costau’r prosiect ar gyfer Lywodraeth Cymru?

​​​Heb ei ganiatáu.​
​16 Ionawr 2018

Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Adam Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): 

Pa gynlluniau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u gwneud i ymateb i effeithiau diddymu Carillion? (EAQ0002)​

Mick Antoniw (Pontypridd): ​

A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu cynlluniau wrth gefn Llywodraeth Cymru ar gyfer gwasanaethau yng Nghymru yn dilyn methiant Carillion?

Russell George (Sir Dre​faldwyn): 

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ba brosiectau a chontractau yng Nghymru yr effeithir arnynt gan ddiddymiad y contractwr Carillion?

Pa baratoadau brys y mae Llywodraeth Cymru yn eu gwneud yn sgil methiant Carillion?


Janet Finch-Saunders (Aberconwy): 

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am waith i gael gwared ar gylchfannau ar yr A55, yn sgil methiant diweddar Carillion?​




Wedi'i ganiatáu.​





​​Heb ei ganiatáu.​





​​Heb ei ganiatáu.​






​​Heb ei ganiatáu.​




​​Heb ei ganiatáu.​
​9 Ionawr 2018

Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon

Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): 

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf ​am yr argyfwng yn y GIG y gaeaf hwn, yn sgil adroddiadau bod gwasanaethau wedi'u hymestyn i'r eithaf?

​Heb ei ganiatáu.​

Cwestiynau Brys 2017

​Dyddiad Cyflwyno ​Cwestiwn Brys ​Penderfyniad
​5 Rhagfyr 2017 ​​

​​Gofyn i Brif Weinidog Cymru

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): 

A wnaiff y Prif Weinidog egluro ei atebion yn ystod cwestiynau i'r Prif Weinidog y prynhawn yma, yn dilyn yr honiadau a wnaethpwyd heddiw gan y cyn-weinidog cabinet Leighton Andrews ynghylch ymddygiad aelodau o'i swyddfa?

​​Heb ei ganiatáu.​
​5 Rhagfyr 2017​

Gofyn i Brif Weinidog Cymru

Mick Antoniw (Pontypridd): ​

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y goblygiadau i Gymru o gael trefniadau pwrpasol i Ogledd Iwerddon o ran ei ffin (EAQ0001)​

​Wedi'i ganiatáu.​
​21 Tachwedd 2017

​Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Adam Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): 

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y cynllun i ehangu fford Blaenau'r Cymoedd, yr A465, yn dilyn adroddiadau y gallai cost hirdymor y prosiect saethu i fyny o £428 miliwn i fwy na £1.2 biliwn?

​Heb ei ganiatáu.
​7 Tachwedd 2017 ​Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): 

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad ar amddiffyn plant yng Nghymru, yn dilyn marwolaeth Elsie Scully-Hicks tra o dan ofal rhieni mabwysiol lle cafodd eu gosod gan wasanaethau cymdeithasol ym Mro Morgannwg?

​Heb ei ganiatáu.​
​17 Hydref 2017 ​Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon

Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): 

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am adroddiadau ei bod yn debygol y bydd bwrdd iechyd mwyaf Cymru – Betsi Cadwaladr – yn gorwario dros £50 miliwn eleni?

Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru):  

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am adroddiad diweddar Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru ynghylch diogelu plant ym Mhowys?

​Heb ei ganiatáu.

Heb ei ganiatáu.

​11 Hydref 2017

​​Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon

Lee Waters (Llanelli):  

A yw Ysgrifennydd y Cabinet wedi asesu effaith rheolau newydd HMRC IR35 ar hyfywedd gofal y tu allan i oriau yng Nghymru ar ôl iddynt gael eu cyflwyno ar 1 Tachwedd?

Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): 

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am adroddiadau ei bod yn debygol y bydd bwrdd iechyd mwyaf Cymru – Betsi Cadwaladr – yn gorwario dros £50 miliwn eleni?

​Heb ei ganiatáu.

Heb ei ganiatáu.

​18 Gorffennaf 2017

​Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): 

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad yn sgil cwymp adeilad ger llinell rheilffordd yng Nghaerdydd?

​Heb ei ganiatáu.
​5 Gorffennaf 2017

​Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith 

Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): 

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu'r cymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi yn sgil cau swyddfeydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn Llanelli ac mewn rhannau eraill o Gymru? W

Lee Waters (Llanelli): 

Pa drafodaethau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'u cynnal ynghylch swyddi a gollwyd o ganlyniad i gau swyddfeydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn Llanelli ac mewn rhannau eraill o Gymru?


 

​Heb ei ganiatáu.
​27 Mehefin 2017 ​Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol

Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): 

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ddyfodol Fformiwla Barnett yn dilyn y cytundeb rhwng Llywodraeth y DU a Phlaid yr Unoliaethwyr Democrataidd (y DUP)?
 

​Heb ei ganiatáu.
​21 Mehefin 2017

​Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): 

Pa drafodaethau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'u cynnal ynghylch y cyhoeddiad bod Tesco am gau ei ganolfan ymgysylltu â chwsmeriaid yng Nghaerdydd, sy'n cyflogi 1,100 o bobl yng Nghanol De Cymru ar hyn o bryd?

​Heb ei ganiatáu.
​20 Mehefin 2017

Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant

Nick Ramsay (Mynwy): 

Yn dilyn y tân yn Nhŵr Grenfell yng ngorllewin Llundain, pa gamau sy'n cael eu cymryd i werthuso'r risgiau tân sy'n gysylltiedig â chartrefi cymdeithasau tai yng Nghymru sydd wedi cael cladin wedi'i osod arnynt ers eu hadeiladu?
 

​Heb ei ganiatáu.
​6 Mehefin 2017

Gofyn i Brif Weinidog Cymru

Steffan Lewis (Dwyrain De Cymru): 

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y berthynas rhwng Llywodraethau Cymru a Qatar ar ôl i gymdogion Qatar dorri'r cysylltiadau diplomyddol â'r wlad honno?

​Heb ei ganiatáu.