Pobl y Senedd

Rhun ap Iorwerth AS

Rhun ap Iorwerth AS

Aelod Etholaethol o'r Senedd

Plaid Cymru

Grŵp Plaid Cymru

Ynys Môn

Arweinydd Plaid Cymru

Fy Ngweithgareddau yn y Senedd

Pa drafodaethau y mae’r Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru ynghylch sicrhau bod trafnidiaeth gyhoeddus yr un mor hygyrch i baw...

Wedi'i gyflwyno ar 09/10/2024

Mae'r Senedd hon: 1. Yn nodi bod blwyddyn wedi mynd heibio ers ymosodiad Hamas ar Israel, a bod ymateb milwrol Israel wedi arwain at 12 mis o ddioddefaint a 40,000 o farwolaethau ymhlit...

I'w drafod ar 04/10/2024

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ynghylch pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael â'r Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu ynghylch statws dinasyddion Cymru yn Libanus?

Tabled on 25/09/2024

Pa adnoddau mae Llywodraeth Cymru wedi ei ddyrannu ar gyfer proses wrando dros yr haf y Prif Weinidog?

Wedi'i gyflwyno ar 28/08/2024

Beth yw nodau ac amcanion proses wrando dros yr haf y Prif Weinidog, sut caiff yr ymarfer ei werthuso yn eu herbyn, a sut mae data'n cael ei gasglu i lywio'r gwerthusiad yma?

Wedi'i gyflwyno ar 28/08/2024

Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth newydd y DU ar wneud Dydd Gŵyl Dewi yn ŵyl banc?

Wedi'i gyflwyno ar 11/07/2024

Rhagor o wybodaeth a digwyddiadau yn y calendr

Gwybodaeth fanwl: Rhun ap Iorwerth AS

Bywgraffiad

Hanes personol

Cafodd Rhun ap Iorwerth ei ethol gyntaf yn aelod dros Ynys Môn mewn is-etholiad ym mis Awst 2013. Cafodd ei fagu ar yr ynys a’i addysgu yn Ysgol David Hughes a Phrifysgol Caerdydd, lle graddiodd mewn Gwleidyddiaeth a Chymraeg. Yn rhugl yn y Gymraeg, mae'n briod ac mae ganddo dri o blant.

Cefndir proffesiynol

Bu Rhun yn newyddiadurwr a darlledwr am bron i 20 mlynedd cyn cael ei ethol. Ymunodd â BBC Cymru ym 1994, gan dreulio cyfnod yn San Steffan cyn dychwelyd i Gymru wedi pleidlais datganoli 1997. Bu’n Brif Ohebydd Gwleidyddol, yn ohebydd i Newyddion Rhwydwaith y BBC, a chyflwynodd ystod eang o raglenni teledu a radio, yn Gymraeg a Saesneg.

Hanes gwleidyddol

Ers ei ethol gyntaf, mae Rhun wedi treulio cyfnodau fel Gweinidog Cysgodol Dros yr Economi a Thrafnidiaeth, Iechyd a Gofal, a Chyllid, ac fel aelod o’r pwyllgorau cyfatebol yn y Cynulliad a’r Senedd. Bu hefyd yn aelod ar wahanol adegau o’r Pwyllgorau Cyfrifon Cyhoeddus, Deisebau a Safonau, yn ogystal ag yn un o Gomisiynwyr y Senedd, ac yn un o Ddirprwy Arweinwyr Grwp Plaid Cymru yn ystod y Pumed Senedd.

Aelodaeth

Tymhorau yn y swydd

  1. 02/08/2013 - 05/04/2016
  2. 06/05/2016 - 28/04/2021
  3. 08/05/2021 -

Gweld y Gofrestr Fuddiannau Gyfredol

Aelodaeth o Grwpiau Trawsbleidiol

Etholiadau

Asedau'r Cyfryngau

Digwyddiadau calendr: Rhun ap Iorwerth AS