Yn ôl Adran 36 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a Rheol Sefydlog 2, mae’n ofynnol i’r Senedd gynnal a chyhoeddi Cofrestr Buddiannau Aelodau o’r Senedd.
Mae'n ofynnol i'r Aelodau gofrestru unrhyw fuddiannau perthnasol cyn pen wyth wythnos ar ôl tyngu'r llw neu roi cadarnhad a hefyd cofrestru unrhyw newidiadau i'r buddiannau hynny cyn pen pedair wythnos. Mae Adran 36(7)(a) o Deddf Llywodraeth Cymru yn pennu ei bod yn drosedd i unrhyw Aelod gymryd rhan yn nhrafodion y Senedd heb gofrestru unrhyw fuddiannau perthnasol fel y nodir yn yr Atodiad i Reol Sefydlog 2.
Mae hefyd yn ofynnol o dan Reol Sefydlog 4 i Aelodau gofnodi’r amser y maent yn ei dreulio yn ymwneud â gweithgarwch cofrestradwy; ac o dan Reol Sefydlog 5 i gofnodi eu haelodaeth o gymdeithasau. Caiff manylion unrhyw beth a gofnodir o dan Reolau Sefydlog 4 a 5 eu cynnwys yn y Gofrestr o Fuddiannau’r Aelodau (er nad ydynt yn dod o dan ofynion Deddf Llywodraeth Cymru).
Cyfrifoldeb yr Aelodau yn unig yw cydymffurfio â’r dyletswyddau’n ymwneud â chofrestru a datgan buddiannau, a dylid gwneud hyn yn unol â’r Canllaw ar Gofrestru, Datgan a Chofnodi Buddiannau'r Aelodau. Gall Aelodau hefyd gael cyngor gan y Cofrestrydd Buddiannau’r Aelodau. Dylid cofrestru drwy lenwi’r Ffurflen Cofrestru a Chofnodi Buddiannau.
Cofrestr wedi'i chrynhoi
Yn ogystal â chofrestrau unigol yr Aelodau, sydd i'w gweld drwy ddilyn y lincs uchod, mae cofrestrau'r holl Aelodau bellach yn cael eu cyhoeddi fel un ddogfen unwaith ym mhob tymor y Senedd. Mae pob cofrestr wedi'i chrynhoi'n rhoi cipolwg ar fuddiannau a gofrestrwyd gan bob Aelod rhwng dechrau'r Chweched Senedd a'r dyddiad a nodir.
- Cofrestr o Fuddiannau’r Aelodau, Cofnod o Aelodaeth o Gymdeithasau a Chofnod o Gyflogaeth Aelodau’r Teulu gyda Chymorth Arian y Comisiwn yn ystod y Chweched Senedd fel ar 8 Ebrill 2026 (PDF 2.50 MB)
- Cofrestr o Fuddiannau’r Aelodau, Cofnod o Aelodaeth o Gymdeithasau a Chofnod o Gyflogaeth Aelodau’r Teulu gyda Chymorth Arian y Comisiwn yn ystod y Chweched Senedd fel ar 7 Ionawr 2026 (PDF 1.99 MB)
- Cofrestr o Fuddiannau’r Aelodau, Cofnod o Aelodaeth o Gymdeithasau a Chofnod o Gyflogaeth Aelodau’r Teulu gyda Chymorth Arian y Comisiwn yn ystod y Chweched Senedd fel ar 17 Medi 2025 (PDF 3.13MB)
- Cofrestr o Fuddiannau’r Aelodau, Cofnod o Aelodaeth o Gymdeithasau a Chofnod o Gyflogaeth Aelodau’r Teulu gyda Chymorth Arian y Comisiwn yn ystod y Chweched Senedd fel ar 24 Ebrill 2025 (PDF 1.96MB)
- Cofrestr o Fuddiannau’r Aelodau, Cofnod o Aelodaeth o Gymdeithasau a Chofnod o Gyflogaeth Aelodau’r Teulu gyda Chymorth Arian y Comisiwn yn ystod y Chweched Senedd fel ar 2 Ionawr 2025 (PDF 1.87MB)
- Cofrestr o Fuddiannau’r Aelodau, Cofnod o Aelodaeth o Gymdeithasau a Chofnod o Gyflogaeth Aelodau’r Teulu gyda Chymorth Arian y Comisiwn yn ystod y Chweched Senedd fel ar 11 Medi 2024 (PDF 2.17MB)
- Cofrestr o Fuddiannau’r Aelodau, Cofnod o Aelodaeth o Gymdeithasau a Chofnod o Gyflogaeth Aelodau’r Teulu gyda Chymorth Arian y Comisiwn yn ystod y Chweched Senedd fel ar 4 Ebrill 2024 (PDF, 3.08MB)
- Cofrestr o Fuddiannau’r Aelodau, Cofnod o Aelodaeth o Gymdeithasau a Chofnod o Gyflogaeth Aelodau’r Teulu gyda Chymorth Arian y Comisiwn yn ystod y Chweched Senedd fel ar 20 Rhagfyr 2023 (PDF, 2.14MB)
- Cofrestr o Fuddiannau’r Aelodau, Cofnod o Aelodaeth o Gymdeithasau a Chofnod o Gyflogaeth Aelodau’r Teulu gyda Chymorth Arian y Comisiwn yn ystod y Chweched Senedd fel ar 6 Medi 2023 (PDF, 18.9MB)
- Cofrestr o Fuddiannau’r Aelodau, Cofnod o Aelodaeth o Gymdeithasau a Chofnod o Gyflogaeth Aelodau’r Teulu gyda Chymorth Arian y Comisiwn yn ystod y Chweched Senedd fel ar 19 Ebrill 2023 (PDF, 12.75MB)
- Cofrestr o Fuddiannau’r Aelodau, Cofnod o Aelodaeth o Gymdeithasau a Chofnod o Gyflogaeth Aelodau’r Teulu gyda Chymorth Arian y Comisiwn yn ystod y Chweched Senedd fel ar 4 Ionawr 2023 (PDF, 2.5MB)
- Cofrestr o Fuddiannau’r Aelodau, Cofnod o Aelodaeth o Gymdeithasau a Chofnod o Gyflogaeth Aelodau’r Teulu gyda Chymorth Arian y Comisiwn yn ystod y Chweched Senedd fel ar 2 Medi 2022 (PDF, 2.20MB)
- Cofrestr o Fuddiannau’r Aelodau, Cofnod o Aelodaeth o Gymdeithasau a Chofnod o Gyflogaeth Aelodau’r Teulu gyda Chymorth Arian y Comisiwn yn ystod y Chweched Senedd fel ar 12 Ebrill 2022 (PDF, 1.97MB)