Hynt y Bil Safleoedd Rheoleiddiedig Cartrefi Symudol (Cymru)

Cyhoeddwyd 24/10/2012   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 11/03/2021   |   Amser darllen munudau

  • Enillydd y balot: Peter Black, Bil 010: Bil Cartrefi mewn Parciau (Cymru).

O bryd i'w gilydd, rhaid i'r Llywydd gynnal balot i benderfynu ar enw Aelod, heblaw aelod o'r Llywodraeth, a gaiff ofyn am gytundeb y Cynulliad i gyflwyno Bil.

Rhaid i Aelod ddarparu gwybodaeth cyn y balot yn nodi bwriad y Bil arfaethedig.

Os bydd y Cynulliad yn cytuno i gyflwyno Bil o'r fath, gall enillydd y Balot ymgynghori ar ei gynigion cyn cyflwyno'r Bil yn ffurfiol.

​Prif gerrig milltir Manylion
​​Dyddiad y Ballot 29 Tachwedd 2011
​​Y ddadl y cytunodd y Cynulliad ynddi y câi enillydd y Balot gyflwyno Bil, gan arwain at roi gwybodaeth cyn y balot ​​1 Chwefror 2012
​​Ymgynghoriadau er mwyn llywio datblygiad y Bil: Bil Safleoedd Rheoleiddiedig Cartrefi Symudol (Cymru) Ymgynghoriad

Daeth yr ymgynghoriad i ben ar 20 Gorffennaf 2012 - Ymatebion i'r ymgynghoriad: Rhan 1 (PDF; 23.5MB), Rhan 2 (PDF; 6.98MB), Rhan 3 (PDF; 5.5MB)

​​Dyddiad cyflwyno'r Bil yn ffurfiol 24 Hydref 2012
​​Gwybodaeth am hynt ddeddfwriaethol y Bil wedi'i gyflwyno ​​Bil Cartrefi Symudol (Cymru)

Cafodd y Bil hwn ei gynnig gyntaf fel y Bil Cartrefi mewn Parciau (Cymru).

Yn sgil ei gynnig yn llwyddo yn y balot, newidiodd Peter Black ei deitl i'r Bil Safleoedd Rheoleiddiedig Cartrefi Symudol (Cymru).

Yn ystod hynt ddeddfwriaethol y Bil, newidiwyd y teitl i'r ​Bil Cartrefi Symudol (Cymru).