Mesur Addysg (Cymru) 2009

Cyhoeddwyd 19/08/2022   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/09/2022   |   Amser darllen munudau

Yr Aelod sy’n gyfrifol am y Mesur: Jane Hutt AC - Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau. Dyddiad cyflwyno: 27 Ebrill 2009

Dyddiad y Gymeradwyaeth Frenhinol: 9 Rhagfyr 2009


Diben y Mesur hwn yw rhoi’r hawl i blant wneud apelau anghenion addysgol arbennig a hawliadau o wahaniaethu ar sail anabledd i Dribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru. O wneud hynny mae’r Mesur yn rhoi gogwydd ymarferol ar Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn a 7 Nod Craidd Llywodraeth Cymru sy’n gysylltiedig ag ef.


Yn benodol, nod y Mesur yw darparu sicrwydd ychwanegol y diwellir anghenion plant a phobl ifanc anabl a’r rheini ag anghenion addysgol arbennig, drwy leihau’r tebygolrwydd efallai na fydd modd rhoi sylw i’w hanghenion pan na fydd eu rhieni eu hunain yn bwrw ymlaen ag apêl neu gais. Mae hefyd yn rhoi hawl annibynnol i blant ag anghenion addysgol arbennol (gan gynnwys plant sy’n derbyn gofal) i apelio yn erbyn penderfyniadau a wneir ynghylch eu hanghenion cymorth addysg.

 

Mesur fel y'i cyflwynwyd - 27 Ebrill 2009

Memorandwm Esboniadol yn y Cyflwyniad

Ar 28 Ebrill 2009, cytunodd y Pwyllgor Busnes, yn unol â Rheol Sefydlogi, gyfeirio’r Mesur at Bwyllgor Deddfwriaeth Rhif 3, i ystyried egwyddorion cyffredinol y Mesur arfaethedig ac i baratoi adroddiad arno.

Ystyriaeth Cyfnod 1 gan y Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 3

Adroddiad Cyfnod 1 ar y Mesur Addysg (Cymru) 2009 arfaethedig – 07 Gorffennaf 2008

Ystyriaeth Cyfnod 2 gan y Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 3

Cynhaliwyd Ystyriaeth Cyfnod 3 a Chyfnod 4 yn y Cyfarfod Llawn ar 3 Tachwedd 2009

Measure as enacted (legislation.gov.uk)

 

Chwilio am ragor o ddogfennau sy’n ymwneud â’r Mesur hwn