Mesur Comisiynydd Safonau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2009

Cyhoeddwyd 19/08/2022   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/09/2022   |   Amser darllen munudau

Yr Aelod sy’n gyfrifol am y Mesur: Jeff Cuthbert AC - Cadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad

Dyddiad cyflwyno: 25 Mawrth 2009

Dyddiad y Gymeradwyaeth Frenhinol: 9 Rhagfyr 2009


Mae’r Mesur yn rhoi sail statudol i swydd y Comisiynydd Safonau. Bydd yn sicrhau bod y Comisiynydd yn gwbl annibynnol ar y Cynulliad Cenedlaethol ac felly’n gallu ymchwilio i gwynion yn erbyn Aelodau’r Cynulliad gyda gwrthrychedd llwyr. Bydd hefyd yn rhoi pwerau i’r Comisiynydd i’w alluogi i ymchwilio i gwynion yn drylwyr, yn cynnwys pŵer i’w gwneud yn ofynnol i drydydd parti ddarparu gwybodaeth berthnasol.


Penodwyd y Comisiynydd Safonau presennol, Gerard Elias QC, ar 17 Tachwedd 2010.

 

Mesur fel y'i cyflwynwyd – 25 Mawrth 2009

Memorandwm Esboniadol yn y Cyflwyniad

Ar 31 Mawrth 2009, cytunodd y Pwyllgor Busnes, Yn unol â Rheol Sefydlog, i gyfeirio’r Mesur i Bwyllgor Deddfwriaeth Rhif 1, ar gyfer ystyriaeth fanwl Cyfnod 2.

Ystyriaeth Cyfnod 2 gan y Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 1

Cynhaliwyd Ystyriaeth Cyfnod 3 a Chyfnod 4 yn y Cyfarfod Llawn ar 14 Hydref 2009

Mesur fel y’i deddfwyd (legislation.gov.uk)

Chwilio am ragor o ddogfennau sy’n ymwneud â’r Mesur hwn