Yr Aelod sy’n gyfrifol am y Mesur: Ieuan Wyn Jones AC - Dirprwy Brif Weinidog Cymru a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth
Dyddiad cyflwyno: 20 Medi 2010
Dyddiad y Gymeradwyaeth Frenhinol: 10 Mai 2011
Mae’r Mesur hwn yn gwneud newidiadau i Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 er mwyn mynd i’r afael ag amcanion Llywodraeth Cymru o wella delwedd ac ansawdd cludiant penodedig i ddysgwyr a sicrhau bod y safonau diogelwch yn ddigon uchel i ennyn hyder y cyhoedd a’r rhieni mewn cludiant penodedig i ddysgwyr.
Er mwyn cyflawni’r amcanion hyn, mae’r Mesur yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau sy’n rhoi dyletswydd ar awdurdodau lleol neu gorff llywodraethu ysgol a gynhelir fel a ganlyn:
- Gosod gwregysau diogelwch priodol;
- Defnyddio cerbydau unllawr yn unig;
- Defnyddio bysiau sydd wedi’u gweithgynhyrchu ar ôl dyddiad penodol;
- Gosod teledu cylch cyfyng ar fysiau;
- Defnyddio cerbydau sy’n bodloni’r fanyleb ‘bysiau melyn’;
- Darparu’r safonau perthnasol ar gyfer hyfforddi gyrwyr;
- Cynnal asesiadau risg diogelwch;
- Darparu staff i oruchwylio bysiau ysgol; a
- Darparu manylebau mewn cysylltiad â thacsis a cherbydau hurio preifat.
Er mwyn sicrhau cydymffurfio â’r dyletswyddau hyn, mae’r Mesur hefyd yn galluogi Gweinidogion Cymru i:
- Creu tramgwyddau troseddol ar gyfer achosion lle bo darparwyr cludiant i ddysgwyr yn methu â bodloni’r gofynion a bennwyd;
- Creu cosbau sifil ar gyfer achosion lle bo darparwyr cludiant i ddysgwyr yn methu â bodloni’r gofynion a bennwyd;
- Sefydlu corff gorfodi er mwyn gorfodi’r rheoliadau; a
- Sefydlu tribiwnlys ar gyfer apelau.
Mesur fel y'i cyflwynwyd – 20 Medi 2010
Memorandwm Esboniadol yn y Cyflwyniad
Ar 21 Medi 2010, cytunodd y Pwyllgor Busnes, yn unol â Rheol Sefydlog, i gyfeirio’r Mesur arfaethedig i Bwyllgor Deddfwriaeth Rhif 4, i ystyried yr egwyddorion cyffredinol a chyflwyno adroddiad arnynt.
Ystyriaeth Cyfnod 1 gan y Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 4
Adroddiad Cyfnod 1 ar y Mesur Diogelwch ar Gludiant i Ddysgwyr (Cymru) 2011 arfaethedig – 16 Rhagfyr 2010
Ystyriaeth Cyfnod 2 gan y Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 4
Cynhaliwyd Ystyriaeth Cyfnod 3 a Chyfnod 4 yn y Cyfarfod Llawn ar 22 Mawrth 2011
Mesur fel y’i deddfwyd (legislation.gov.uk)
chevron_right