Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008

Cyhoeddwyd 19/08/2022   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/09/2022   |   Amser darllen munudau

Yr Aelod sy’n gyfrifol am y Mesur: Ieuan Wyn Jones AC - Y Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Dyddiad cyflwyno: 15 Ebrill 2008

Dyddiad y Gymeradwyaeth Frenhinol: 10 Rhagfyr 2008

Mae’r Mesur hwn yn gwneud darpariaeth ynghylch teithio gan ddisgyblion sy’n cael addysg gynradd, addysg uwchradd neu addysg bellach neu hyfforddiant i ysgolion neu i fannau eraill lle y maent yn cael addysg neu hyfforddiant, ac oddi yno.


Prif amcanion Llywodraeth Cymru wrth weithredu’r Mesur yw:

  • rhoi mwy o hawl i blant ysgolion cynradd gael cludiant am ddim i’r ysgol os ydynt yn byw dwy filltir neu fwy o’r ysgol;
  • ailddeddfu’r hawl i blant ysgolion uwchradd gael cludiant am ddim os ydynt yn byw tair milltir neu fwy o’r ysgol addas agosaf;
  • darparu’r hawl ar gyfer trafnidiaeth am ddim i’r ysgol os yw rhieni yn dymuno i’w plant gael addysg mewn ysgol sydd o nodwedd grefyddol benodol, yn amodol ar feini prawf o ran oedran/pellter, os nad yw’r ysgol addas agosaf â nodweddion o’r fath;
  • cyflwyno gofyniad penodol i asesu anghenion plant sy’n derbyn gofal, ac i ddarparu ar eu cyfer, ac egluro’r trefniadau talu cysylltiedig rhwng yr awdurdodau lleol yng Nghymru;
  • ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol a Gweinidogion Cymru, wrth arfer eu swyddogaethau o dan y Mesur, hybu mynediad i addysg drwy gyfrwng y Gymraeg;
  • ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru lunio cod ymddygiad mewn perthynas â theithio i fannau dysgu ac oddi yno ac yn ei gwneud yn ofynnol i’r cod hwnnw fod yn rhan o god ymddygiad ysgol;
  • rhoi’r pŵer i awdurdodau lleol newid amserau sesiynau ysgolion os gall hynny arwain at welliannau o ran trefniadau cludo neu gynaliadwyedd amgylcheddol.

Mesur fel y'i cyflwynwyd - 15/04/2008

Memorandwm Esboniadol yn y Cyflwyniad

Penderfynodd y Pwyllgor Busnes, yn unol â’r Rheolau Sefydlog, y gallai pwyllgor osgoi ystyried egwyddorion cyffredinol y Mesur arfaethedig.

Ystyriaeth Cyfnod 2 gan y Pwyllgor ar y Mesur Mesur Teithio gan Ddysgwyr arfaethedig

Cynhaliwyd Ystyriaeth Cyfnod 3 a Chyfnod 4 yn y Cyfarfod Llawn ar 30 Medi 2008.

Mesur fel y'i deddfwyd (legislation.gov.uk)

 

Chwilio am ragor o ddogfennau sy’n ymwneud â’r Mesur hwn