Mesur Diogelwch ar Gludiant i Ddysgwyr (Cymru) 2011

Cyhoeddwyd 19/08/2022   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/09/2022   |   Amser darllen munudau

Yr Aelod sy’n gyfrifol am y Mesur: Ieuan Wyn Jones AC - Dirprwy Brif Weinidog Cymru a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Dyddiad cyflwyno: 20 Medi 2010

Dyddiad y Gymeradwyaeth Frenhinol: 10 Mai 2011


Mae’r Mesur hwn yn gwneud newidiadau i Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 er mwyn mynd i’r afael ag amcanion Llywodraeth Cymru o wella delwedd ac ansawdd cludiant penodedig i ddysgwyr a sicrhau bod y safonau diogelwch yn ddigon uchel i ennyn hyder y cyhoedd a’r rhieni mewn cludiant penodedig i ddysgwyr.


Er mwyn cyflawni’r amcanion hyn, mae’r Mesur yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau sy’n rhoi dyletswydd ar awdurdodau lleol neu gorff llywodraethu ysgol a gynhelir fel a ganlyn:

  • Gosod gwregysau diogelwch priodol; 
  • Defnyddio cerbydau unllawr yn unig; 
  • Defnyddio bysiau sydd wedi’u gweithgynhyrchu ar ôl dyddiad penodol;
  • Gosod teledu cylch cyfyng ar fysiau; 
  • Defnyddio cerbydau sy’n bodloni’r fanyleb ‘bysiau melyn’; 
  • Darparu’r safonau perthnasol ar gyfer hyfforddi gyrwyr; 
  • Cynnal asesiadau risg diogelwch; 
  • Darparu staff i oruchwylio bysiau ysgol; a 
  • Darparu manylebau mewn cysylltiad â thacsis a cherbydau hurio preifat.

Er mwyn sicrhau cydymffurfio â’r dyletswyddau hyn, mae’r Mesur hefyd yn galluogi Gweinidogion Cymru i:

  • Creu tramgwyddau troseddol ar gyfer achosion lle bo darparwyr cludiant i ddysgwyr yn methu â bodloni’r gofynion a bennwyd;
  • Creu cosbau sifil ar gyfer achosion lle bo darparwyr cludiant i ddysgwyr yn methu â bodloni’r gofynion a bennwyd;
  • Sefydlu corff gorfodi er mwyn gorfodi’r rheoliadau; a 
  • Sefydlu tribiwnlys ar gyfer apelau.

 

Mesur fel y'i cyflwynwyd – 20 Medi 2010

Memorandwm Esboniadol yn y Cyflwyniad

Ar 21 Medi 2010, cytunodd y Pwyllgor Busnes, yn unol â Rheol Sefydlog, i gyfeirio’r Mesur arfaethedig i Bwyllgor Deddfwriaeth Rhif 4, i ystyried yr egwyddorion cyffredinol a chyflwyno adroddiad arnynt.

Ystyriaeth Cyfnod 1 gan y Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 4 

Adroddiad Cyfnod 1 ar y Mesur Diogelwch ar Gludiant i Ddysgwyr (Cymru) 2011 arfaethedig – 16 Rhagfyr 2010

Ystyriaeth Cyfnod 2 gan y Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 4

Cynhaliwyd Ystyriaeth Cyfnod 3 a Chyfnod 4 yn y Cyfarfod Llawn ar 22 Mawrth 2011

Mesur fel y’i deddfwyd (legislation.gov.uk)

 

Chwilio am ragor o ddogfennau sy’n ymwneud â’r Mesur hwn