Mesur Diogelwch Tân Domestig (Cymru) 2011

Cyhoeddwyd 19/08/2022   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/09/2022   |   Amser darllen munudau

Yr Aelod sy’n gyfrifol am y Mesur: Ann Jones AC

Dyddiad cyflwyno: 8 Gorffennaf 2010

Dyddiad y Gymeradwyaeth Frenhinol: 7 Ebrill 2011


Nod y Mesur hwn yw lleihau nifer yr achosion o farwolaethau ac anafiadau oherwydd tanau mewn preswylfeydd a gaiff eu hadeiladu o’r newydd yng Nghymru drwy roi dyletswydd ar y diwydiant adeiladu i sicrhau bod yn rhaid darparu system llethu tân awtomatig ym mhob preswylfa newydd sy’n gweithio’n effeithiol ac sy’n cydymffurfio â rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.


Byddai methu â chydymffurfio â’r ddyletswydd hon yn cyfateb i dorri rheoliadau adeiladu o dan Ddeddf Adeiladu 1984. Dim ond i’r gwaith o adeiladu preswylfeydd newydd yng Nghymru y mae’r ddyletswydd hon yn berthnasol.

Mesur fel y'i cyflwynwyd – 8 Gorffennaf 2010

Memorandwm Esboniadol yn y Cyflwyniad

Ar 6 Gorffennaf 2010, cytunodd y Pwyllgor Busnes,Yn unol â Rheol Sefydlog, i gyfeirio’r Mesur arfaethedig i Bwyllgor Deddfwriaeth Rhif 1, i ystyried yr egwyddorion cyffredinol a chyflwyno adroddiad arnynt.

Ystyriaeth Cyfnod 1 gan y Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 1

Adroddiad Cyfnod 1 ar y Mesur Diogelwch Tân Domestig (Cymru) 2011 arfaethedig –12 Tachwedd 2008

Ystyriaeth Cyfnod 2 gan y Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 1

Cynhaliwyd Ystyriaeth Cyfnod 3 a Chyfnod 4 yn y Cyfarfod Llawn ar 16 Chwefror 2011

Mesur fel y’i deddfwyd (legislation.gov.uk)

 

Chwilio am ragor o ddogfennau sy’n ymwneud â’r Mesur hwn