Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011

Cyhoeddwyd 19/08/2022   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/09/2022   |   Amser darllen munudau

Yr Aelod sy’n gyfrifol am y Mesur: Huw Lewis AC - Y Dirprwy Weinidog dros Blant

Dyddiad cyflwyno: 14 Mehefin 2010

Dyddiad y Gymeradwyaeth Frenhinol: 16 Mawrth 2011


Mae’r Mesur hwn yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i roi sylw dyledus i’r hawliau a’r rhwymedigaeth yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn wrth wneud penderfyniad strategol. Drwy basio’r Mesur hwn, Cymru yw’r wlad gyntaf yn y Deyrnas Unedig i integreiddio Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn i gyfraith ddomestig. Mae’r Mesur hefyd:

  • yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i baratoi a chyhoeddi Cynllun Plant a fydd yn nodi trefniadau ar gyfer sicrhau cydymffurfio â’r ddyletswydd i roi sylw dyledus i hawliau a chyfrifoldebau Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn;
  • yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i hybu gwybodaeth am Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn a dealltwriaeth ohono; ac
  • yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i ymgynghori ar gymhwysiad posibl y Mesur arfaethedig i bobl sydd wedi troi’n 18 oed, ond heb droi’n 25 oed.

Mesur fel y'i cyflwynwyd – 14 mehefin 2010

Memorandwm Esboniadol yn y Cyflwyniad

Ystyriaeth Cyfnod 1 gan y Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 5

Adroddiad Cyfnod 1 ar y Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011 arfaethedig – 26 Hydref 2010

Ystyriaeth Cyfnod 2 gan y Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 5

Cynhaliwyd Ystyriaeth Cyfnod 3 a Chyfnod 4 yn y Cyfarfod Llawn ar 

18 Ionawr 2011

Mesur fel y’i deddfwyd (legislation.gov.uk)

 

Chwilio am ragor o ddogfennau sy’n ymwneud â’r Mesur hwn