Pobl y Senedd

Huw Lewis

Huw Lewis

Fy Ngweithgareddau yn y Senedd

Ni ddarganfuwyd unrhyw ganlyniadau

Rhagor o wybodaeth a digwyddiadau yn y calendr

Gwybodaeth fanwl: Huw Lewis

Bywgraffiad

Roedd Huw Lewis yn Aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru rhwng Mai 1999 ac Ebrill 2016. Hwn oedd ei fywgraffiad pan fu adael.

Hanes personol

Mae Huw yn briod â Lynne Neagle (Aelod Cynulliad Llafur a'r Blaid Gydweithredol dros Torfaen) ac mae ganddynt ddau fab; James a Sam.

Cefndir proffesiynol

Huw oedd Ysgrifennydd Cyffredinol Cynorthwyol Plaid Lafur Cymru cyn iddo gael ei ethol i'r Cynulliad Cenedlaethol ym mis Mai 1999. Cafodd ei eni ym Merthyr Tudful ym 1964 a'i addysgu ym Mhrifysgol Caeredin a bu’n dysgu cemeg yn ei hen ysgol uwchradd, Ysgol Uwchradd Afon Taf, Merthyr Tudful.

 

Hanes gwleidyddol

Ers ei ethol i'r Cynulliad Cenedlaethol ym mis Mai 1999, mae Huw wedi gwasanaethu mewn nifer o swyddi gweinidogol gan gynnwys:  Chwip y Llywodraeth; Dirprwy Weinidog Addysg; Dirprwy Weinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ac  Adfywio; Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth; Dirprwy Weinidog Plant; Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth a Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi.

Ym mis Mehefin 2013, cafodd Huw ei benodi'n Weinidog Addysg a Sgiliau gan y Prif Weinidog.

Ymgysylltiadau

Yn wleidyddol, mae Huw yn aelod o'r Blaid Gydweithredol, y Gymdeithas Fabian ac Undeb Unite.

Ef hefyd yw llywydd Cymdeithas Bysgota Merthyr Tudful ac mae'n aelod o Undeb Credyd Merthyr Tudful; Cymdeithas Alzheimer Merthyr a'r Gymdeithas Osteoporosis, Grŵp Cymorth Merthyr Tudful a'r Cylch.

Cofrestr Buddiannau

Cofrestr Buddiannau – Y Pedwerydd Cynulliad (PDF, 739KB)

Cofrestr Buddiannau – Y Trydydd Cynulliad (PDF, 466KB)

Cofrestr Buddiannau – Yr Ail Gynulliad (PDF, 362KB)

Cofrestr Buddiannau – Y Cynulliad Cyntaf (PDF, 307KB)

Etholiadau

Asedau'r Cyfryngau

Digwyddiadau calendr: Huw Lewis