Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010

Cyhoeddwyd 19/08/2022   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/09/2022   |   Amser darllen munudau

Yr Aelod sy’n gyfrifol am y Mesur: Edwina Hart AC - Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Dyddiad cyflwyno: 22 Mawrth 2010

Dyddiad y Gymeradwyaeth Frenhinol: 15 Rhagfyr 2010


Nod y Mesur hwn yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl yn gynt i unigolion sydd a phroblemau iechyd meddwl er mwyn lleihau’r risg o ddirywiad pellach yn eu hiechyd meddwl. Mae’r Mesur hefyd yn darparu ar gyfer cynlluniau gofal a thriniaeth ar gyfer pobl sy’n cael gofal iechyd meddwl eilaidd ac mae’n ymestyn darpariaeth eiriolaeth iechyd meddwl y tu hwnt i’r hyn sy’n ofynnol ar hyn o bryd. I gyflawni’r amcanion hyn, mae’r Mesur:

  • Yn gosod dyletswydd ar Fyrddau Iechyd Lleol ac Awdurdodau Lleol i weithio mewn partneriaeth i ddarparu gwasanaethau cefnogi iechyd meddwl sylfaenol lleol drwy Gymru;
  • Yn gwneud darpariaeth ar gyfer cynlluniau gofal a thriniaeth ar gyfer y rhai sy’n cael gofal iechyd meddwl eilaidd;
  • Yn galluogi unigolion a gaiff eu rhyddhau o ofal gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd i gyfeirio’u hunain yn ôl at wasanaethau eilaidd yn uniongyrchol, heb orfod mynd at eu meddyg teulu i wneud hynny; a
  • Yn diwygio Deddf Iechyd Meddwl 1983 i ddarparu ar gyfer cynllun strategol mewn perthynas ag eiriolaeth annibynnol yng Nghymru sy’n ehangach na’r ddarpariaeth statudol a ddarperir yn y Ddeddf honno ar hyn o bryd.

 

Mesur fel y'i cyflwynwyd – 22 Mawrth 2010

Memorandwm Esboniadol yn y Cyflwyniad

Ar 9 Chwefror 2010, cytunodd y Pwyllgor Busnes, yn unol â Rheol Sefydlog, i gyfeirio’r Mesur arfaethedig at Bwyllgor Deddfwriaeth Rhif 3, er mwyn ystyried egwyddorion cyffredinol y Mesur a chyflwyno adroddiad arnynt.

Ystyriaeth Cyfnod 1 gan y Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 3 

Adroddiad Cyfnod 1 ar y Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 – 02 Gorffennaf 2010

Ystyriaeth Cyfnod 2 gan y Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 3

Cynhaliwyd Ystyriaeth Cyfnod 3 a Chyfnod 4 yn y Cyfarfod Llawn ar 02 November 2010

Mesur fel y’i deddfwyd (legislation.gov.uk)

 

Chwilio am ragor o ddogfennau sy’n ymwneud â’r Mesur hwn