Mesur Strategaethau ar gyfer Gofalwyr (Cymru) 2010

Cyhoeddwyd 19/08/2022   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/09/2022   |   Amser darllen munudau

Yr Aelod sy’n gyfrifol am y Mesur: Gwenda Thomas AC - Y Dirprwy Weinidog dros y Gwasanaethau Cymdeithasol

Dyddiad cyflwyno: 25 Ionawr 2010

Dyddiad y Gymeradwyaeth Frenhinol: 10 Tachwedd 2010


Mae’r Mesur yn gosod gofyniad newydd ar y GIG ac Awdurdodau Lleol yng Nghymru i weithio mewn partneriaeth i baratoi, cyhoeddi a gweithredu strategaeth ar y cyd mewn perthynas â gofalwyr. Bwriad Llywodraeth Cymru yw y bydd y Mesur hwn yn llenwi’r bylchau yn y ddarpariaeth sy’n bodoli ar hyn o bryd drwy ddarparu fframwaith statudol newydd. Yn benodol, mae’r Mesur yn darparu ar gyfer:

  • Sicrhau bod gan ofalwyr y wybodaeth iawn ar yr adeg iawn i’w cefnogi yn eu rôl ofalu; a
  • Sicrhau bod asiantaethau statudol yn ymgynghori'n briodol â gofalwyr fel partneriaid yn y gofal a ddarperir, gan eu cynnwys ar bob lefel o'r gwaith asesu, cyflawni a gwerthuso'r trefniadau gofal.

 

Mesur fel y'i cyflwynwyd – 25 Ionawr 2010

Memorandwm Esboniadol yn y Cyflwyniad

Ar 19 Ionawr 2010, cytunodd y Pwyllgor Busnes, yn unol â Rheol Sefydlog, i gyfeirio’r Mesur arfaethedig at Bwyllgor Deddfwriaeth Rhif 5 er mwyn iddo ystyried a chyflwyno adroddiad ar yr egwyddorion cyffredinol.

Ystyriaeth Cyfnod 1 gan y Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 5 

Adroddiad Cyfnod 1 ar y Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 5- 21 Mai 2010

Ystyriaeth Cyfnod 2 gan y Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 5

Cynhaliwyd Ystyriaeth Cyfnod 3 a Chyfnod 4 yn y Cyfarfod Llawn ar 21 Medi 2010

Mesur fel y’i deddfwyd (legislation.gov.uk)

 

Chwilio am ragor o ddogfennau sy’n ymwneud â’r Mesur hwn