Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011

Cyhoeddwyd 19/08/2022   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/09/2022   |   Amser darllen munudau

Yr Aelod sy’n gyfrifol am y Mesur: Alun Ffred Jones AC - Y Gweinidog dros Dreftadaeth

Dyddiad cyflwyno: 4 Mawrth 2010

Dyddiad y Gymeradwyaeth Frenhinol: 9 Chwefror 2011


Bwriedir i’r Mesur hwn foderneiddio’r fframwaith cyfreithiol cyfredol sy’n cael ei lywodraethu’n bennaf gan Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993 ynghylch defnyddio’r Gymraeg wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus. Mae’r Mesur:

  • yn cynnwys darpariaethau am statws swyddogol yr iaith Gymraeg;
    yn sefydlu swydd Comisiynydd y Gymraeg, a fydd yn cymryd lle Bwrdd yr Iaith Gymraeg;
  • yn arwain y ffordd ar gyfer datblygu “safonau” o ran integreiddio’r Gymraeg wrth ddatblygu a darparu gwasanaethau i’r cyhoedd drwy nifer o sefydliadau. Bydd y safonau hyn, ymhen amser, yn cymryd lle cynlluniau iaith Gymraeg;
  • yn rhoi’r grym i’r Comisiynydd ymchwilio i gwynion oddi wrth siaradwyr Cymraeg sy’n credu bod ymyrraeth wedi bod ar eu rhyddid i ddefnyddio’r Gymraeg; a
  • yn creu Tribiwnlys y Gymraeg y bydd modd iddo wrando ar apeliadau yn erbyn penderfyniadau’r Comisiynydd, ynghylch manylion y safonau neu ganlyniad ymchwiliadau.

Mesur fel y'i cyflwynwyd – 4 Mawrth 2010

Memorandwm Esboniadol yn y Cyflwyniad

Ar 9 Chwefror 2010, cytunodd y Pwyllgor Busnes, yn unol â Rheol Sefydlog, i gyfeirio’r Mesur arfaethedig at Bwyllgor Deddfwriaeth Rhif 2, er mwyn ystyried egwyddorion cyffredinol y Mesur a chyflwyno adroddiad arnynt.

Ystyriaeth Cyfnod 1 gan y Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 2

Adroddiad Cyfnod 1 ar y Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 arfaethedig – 22 Gorffennaf 2010

Ystyriaeth Cyfnod 2 gan y Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 2

Cynhaliwyd Ystyriaeth Cyfnod 3 a Chyfnod 4 yn y Cyfarfod Llawn ar 7 Rhagfyr 2010

Mesur fel y’i deddfwyd (legislation.gov.uk)

 

Chwilio am ragor o ddogfennau sy’n ymwneud â’r Mesur hwn