Cawcws Menywod y Senedd

Mae Cawcws Menywod y Senedd, sy’n fforwm trawsbleidiol i Aelodau, yn dod â seneddwragedd o bob plaid at ei gilydd i ddarparu cymorth gan gymheiriaid ac i hybu cydraddoldeb rhywiol.

Mae’r Cawcws yn cynnwys pob menyw sy’n Aelod o’r Senedd, dan gadeiryddiaeth Joyce Watson AS a Grŵp Llywio o gynrychiolwyr o bob plaid.

Gweledigaeth a Nod

Gweledigaeth a Nod

Ein gweledigaeth

Cymru sy’n gyfartal o ran y rhywiau ac yn gwbl gynhwysol, lle:

  • mae pawb yn cael eu grymuso i ymgysylltu â gwleidyddiaeth (fel dinasyddion ac fel cynrychiolwyr etholedig) waeth beth fo'u rhywedd a’u nodweddion gwarchodedig eraill, gan gynnwys statws economaidd-gymdeithasol, ac
  • mae polisïau, cyfreithiau, rhaglenni a chyllidebau wedi'u cynllunio i fod yn sensitif i anghenion a phrofiadau amrywiol y boblogaeth.

 

Ein Cenhadaeth

Dod ag Aelodau benywaidd o’r Senedd at ei gilydd o bob plaid wleidyddol er mwyn:

  • gweithio'n bwrpasol i hyrwyddo a chefnogi cyfranogiad menywod mewn gwleidyddiaeth a nodi'r rhwystrau presennol o fewn ein system seneddol.
  • datblygu a hyrwyddo polisi ac ymarfer sy'n mynd i'r afael â materion sy'n effeithio ar ein seneddwyr benywaidd a’n cymdeithas.
  • bwrw ymlaen ag agenda’r Cawcws y cytunwyd arni o fewn pleidiau gwleidyddol a meysydd dylanwad eraill y Senedd.

 

Gall y Cawcws gymryd rhan mewn ystod eang o weithgareddau wrth geisio cael gwared ar rwystrau i gyfranogiad effeithiol mewn gwleidyddiaeth a gwella cydraddoldeb o fewn y Senedd ac mewn cymdeithas, a hynny mewn modd blaengar.

Digwyddiad mwyaf diweddar

Adroddiad Flynyddol 2023-24

Mae Cawcws Menywod y Senedd wedi cyhoeddi adroddiad blynyddol, sy’n cwmpasu gweithgareddau’r Cawcws ers ei lansiad ym mis Gorffennaf 2023, gan gynnwys gweithgaredd rhyngwladol ac ymgysylltu.

Mae’r adroddiad blynyddol ar gael i’w darllen yma.

Diweddariadau Diweddar

Mwy o wybodaeth

Manylion cyswllt

Cysylltwch â Chawcws Menywod y Senedd

Senedd Cymru,
Bae Caerdydd,
Caerdydd
CF99 1SN

 

E-bost: llywydd@senedd.wales

Cadeirydd: Joyce Watson AS

 

Ar gyfer ymholiadau gan y cyfryngau, cysylltwch â Thîm Newyddion y Senedd.