Y Pwyllgor Busnes

Cyhoeddwyd 01/12/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau

Canllaw i’r Pwyllgor Busnes

Cylch Gwaith y Pwyllgor Busnes

Pwrpas y Pwyllgor Busnes yw hwyluso trefniadau effeithiol ar gyfer trafodion y Senedd.

Aelodau'r Pwyllgor

Mae un Aelod o bob un o'r grwpiau gwleidyddol a gynrychiolir yn y Senedd yn aelodau o'r Pwyllgor a'r Llywydd fydd y cadeirydd (neu os bydd hwnnw/honno'n absennol, y Dirprwy Lywydd). Bydd Clerc y Pwyllgor Busnes a swyddogion eraill Comisiwn y Senedd a Llywodraeth Cymru hefyd yn mynd i'r cyfarfodydd wythnosol i gynnig cyngor ac arweiniad i'r Aelodau.

Cyfarfodydd y Pwyllgor

Mae gofyn i'r Pwyllgor Busnes gyfarfod o leiaf unwaith y pythefnos, er, yn ymarferol, mae'n cyfarfod bob wythnos ar fore Mawrth. Mae'n bosib cynnal cyfarfodydd y Pwyllgor Busnes yn gyhoeddus ynteu'n breifat. Serch hynny, fel rheol, bydd yn cyfarfod yn breifat er mwyn ystyried trefniadau'r busnes.  Yn y Trydydd Cynulliad, penderfynodd y pwyllgor gyfarfod yn gyhoeddus i ystyried cynigion i newid y Rheolau Sefydlog er mwyn paratoi ar gyfer y Pedwerydd Cynulliad. Caiff cofnodion pob cyfarfod eu cyhoeddi o fewn wythnos i’r Pwyllgor gytuno arnynt.

Rolau a chyfrifoldebau'r Pwyllgor Busnes

Trefnu busnes y Senedd

Ym mhob cyfarfod, bydd y Pwyllgor Busnes yn penderfynu sut i drefnu busnes y Senedd ac yn cynnig ei sylwadau am drefniadau busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos ddilynol. Yna, bydd y Gweinidog sy'n gyfrifol am fusnes y llywodraeth yn gwneud datganiad  yn y Cyfarfod Llawn am sut y trefnir busnes y llywodraeth, yn ogystal â chyhoeddi'r trefniadau ar gyfer busnes y Senedd. Gelwir hyn yn Ddatganiad a Chyhoeddiad Busnes.

Ffurfioli amserlen y Senedd

Rhaid i'r Pwyllgor Busnes gyhoeddi amserlen bob chwe mis sy'n: cynnwys amserlenni'r Cyfarfod Llawn:

  • pennu'r amserau sydd ar gael ar gyfer cyfarfodydd pwyllgorau eraill yn y Senedd;
  • pennu'r amserau ar gyfer cyfarfodydd grwpiau gwleidyddol;
  • rhestru dyddiadau toriadau'r y Senedd;
  • yn rhestru'r dyddiadau ar gyfer ateb cwestiynau llafar yn y Cyfarfod Llawn

Pennu strwythurau ac aelodaeth pwyllgorau

Y Pwyllgor Busnes sy'n gyfrifol am bennu enwau, swyddogaethau ac aelodaeth pob pwyllgor arall yn y Senedd.  Wrth wneud hynny, rhaid iddo sicrhau:bod pwyllgor neu bwyllgorau i graffu ar bob un o feysydd cyfrifoldeb y llywodraeth ac unrhyw gorff cyhoeddus cysylltiedig ;bod pwyllgor neu bwyllgorau i graffu ar bob mater sy'n ymwneud â chymhwysedd deddfwriaethol y Senedd a swyddogaethau'r Gweinidogion;lle bo modd, agwedd gytbwys yn gyffredinol at ddal y llywodraeth i gyfrif a gwneud cyfreithiau i Gymru.

Cynorthwyo'r broses ddeddfu

Pan gaiff Bil ei gyflwyno, rhaid i'r Pwyllgor Busnes bennu amserlen i'w ystyried ac fe gaiff ddewis ei gyfeirio at bwyllgor. Bydd yn rhaid i'r pwyllgor gyflwyno adroddiad am yr egwyddorion cyffredinol. Caiff y Pwyllgor Busnes hefyd gyfeirio unrhyw femorandwm cydsyniad deddfwriaethol at bwyllgor iddo'i ystyried.

Cyfrifoldebau eraill

Mae'r Pwyllgor Busnes yn gyfrifol hefyd am y canlynol:penodi un Aelod o bob un o'r pedwar grŵp gwleidyddol mwyaf yn y Senedd yn Gomisiynwyr y Senedd ar ddechrau tymor pob Senedd pennu dyddiad ar gyfer cyflwyno adroddiad am gyllideb y llywodraeth a'i thrafod yn y Cyfarfod Llawn; ystyried unrhyw gynigion i ddiwygio neu i ail-wneud Rheolau Sefydlog a chyflwyno adroddiad amdanynt.

Rhagor o wybodaeth

I gael gwybod rhagor am y Pwyllgor Busnes, cysylltwch ag Ysgrifenyddiaeth y Siambr, (Graeme.Francis@Senedd.cymru, 0300 200 7352)