O dan y weithdrefn annilysu, mae Gweinidogion Cymru yn gwneud yr offeryn statudol ac yna'n ei osod gerbron y Senedd. Yna, mae gan y Senedd gyfnod o 40 diwrnod i annilysu'r offeryn statudol. Os na chaiff yr offeryn ei annilysu, yna mae'n parhau i fod mewn grym. Os caiff yr offeryn statudol ei annilysu gan y Senedd, mae'n peidio â bod yn gyfraith.
Mae'r rhan fwyaf o offerynnau statudol Cymreig yn dilyn y weithdrefn hon.
Os na chaiff offeryn statudol sy’n ddarostyngedig i’r weithdrefn annilysu a wnaed gan Weinidogion Cymru ei osod gerbron y Senedd o leiaf 21 diwrnod cyn i'r offeryn statudol ddod i rym (h.y. cael effaith), rhaid i Lywodraeth Cymru roi gwybod i'r Llywydd ac esbonio pam. Gelwir hyn yn “rheol 21 diwrnod”. Mae offerynnau statudol sy'n torri'r rheol 21 diwrnod wedi'u rhestru ar wahân.
| Teitl yr Offeryn Statudol | Dyddiad Gosod |
|---|---|
|
|
|