Offerynnau statudol y mae angen i'r Senedd gydsynio â nhw (Memoranda Cydsyniad Offeryn Statudol)

Cyhoeddwyd 08/05/2026   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/09/2026

O dan rai amgylchiadau, bydd angen cydsyniad y Senedd ar rai offerynnau statudol a wneir gan Weinidogion y DU. Er enghraifft, rhai offerynnau statudol a wnaed o dan Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 a Deddf Cyrff Cyhoeddus 2011.

O dan Reol Sefydlog 30A, mae’n rhaid i aelod o’r llywodraeth osod memorandwm (Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol) mewn perthynas ag unrhyw offeryn statudol o’r fath y bydd Gweinidogion y DU yn ei osod gerbron Senedd y DU, a hynny dim mwy na thri diwrnod fel rheol ar ôl iddo gael ei osod gerbron Senedd y DU. Ar ôl i femorandwm cydsyniad offeryn statudol gael ei osod, caiff unrhyw aelod gyflwyno cynnig sy’n gofyn i’r Senedd gytuno i’r darpariaethau a amlygir ganddo.

Lle mae memorandwm cydsyniad offeryn statudol yn ymwneud â chynigion i newid y gyfraith yn sgil ymadawiad y DU â’r UE, bydd yr offeryn statudol sy’n destun memorandwm cydsyniad offeryn statudol gynnwys y term “(Ymadael â’r UE)” yn y teitl.

Mae unrhyw ohebiaeth sy'n ymwneud â Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol ar gael o dan y Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol penodol a restrir isod.

 

Teitl Offeryn Statudol Dyddiad Gosod