Meysydd o ddiddordeb ymchwil: Arloesi ar gyfer gwella mewn gofal iechyd

Cyhoeddwyd 24/04/2024   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 23/10/2024   |   Amser darllen munud

Mae’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn goruchwylio gweithredoedd a gwariant Llywodraeth Cymru, ac yn cynnal gwaith craffu ar gyfreithiau drafft, mewn perthynas ag iechyd corfforol, iechyd meddyliol ac iechyd y cyhoedd, a llesiant pobl Cymru, gan gynnwys y system gofal cymdeithasol.
Mae'r Pwyllgor wedi lansio Maes o Ddiddordeb Ymchwil ar arloesi ar gyfer gwella mewn gofal iechyd. Mae gan y Pwyllgor ddiddordeb mewn dysgu sut y gallai’r GIG harneisio pŵer technolegau newydd i wella diagnosis, triniaeth a gofal cleifion. Hoffai’r Pwyllgor glywed gan ymchwilwyr sy’n gweithio i ddatblygu dulliau therapiwtig newydd, a’r defnydd o dechnolegau newydd a allai helpu i sbarduno arloesedd ym maes gofal iechyd Cymru.
Anogir academyddion ar bob cam o’u gyrfa, sefydliadau ymchwil, ac arbenigwyr i gofrestru eu diddordeb yn y maes o ddiddordeb ymchwil, ychwanegu eu hymchwil bresennol yn y meysydd pwnc i gronfa’r maes hwn, rhoi eu mewnwelediad, a chynnig cwestiynau y gallai’r Pwyllgor eu gofyn i Lywodraeth Cymru.
Bydd y rhai sy’n ymateb i’r arolwg yn mynd i gronfa ddata o arbenigwyr a bydd staff y Senedd o bosibl yn cysylltu â nhw i’w helpu i gefnogi’r Pwyllgor wrth graffu ar Lywodraeth Cymru yn y maes diddordeb hwn. Nid oes angen cysylltu â staff y pwyllgor yn uniongyrchol, gan fod ganddynt fynediad i'r holl wybodaeth yr ydych wedi’i rhoi yn y gronfa ddata.
Bydd y Pwyllgor yn defnyddio’r wybodaeth a gasglwyd o dan gronfa’r meysydd o ddiddordeb ymchwil i gwmpasu a chefnogi ei waith yn y dyfodol.

Cofrestrwch eich arbenigedd a'ch mewnwelediadau ymchwil ynghylch arloesi i wella mewn gofal iechyd