Nod strategaeth cyfnewid gwybodaeth 2021-26 y Senedd yw ehangu, dyfnhau ac amrywio’r dystiolaeth sydd ar gael i’r Senedd i wella gwaith craffu a deddfu. Un o'r ffyrdd y mae'n bwriadu gwneud hyn yw trwy ddefnyddio 'meysydd o ddiddordeb ymchwil', i ymgysylltu'n strategol â'r gymuned ymchwil ynghylch gofynion ymchwil pwyllgorau.

Mae'r Senedd wedi ymrwymo i sicrhau bod y dystiolaeth a ddefnyddir gan bwyllgorau yn dod oddi wrth ystod amrywiol o bobl, cymunedau, sectorau, grwpiau a sefydliadau. Bwriedir i’r defnydd o feysydd o ddiddordeb ymchwil hefyd gefnogi'r gwaith hwn.

 

Beth yw Meysydd o Ddiddordeb Ymchwil?

Rhestrau o faterion neu gwestiynau polisi yw meysydd o ddiddordeb ymchwil. Maen nhw’n ffordd i sefydliad fynegi diddordeb mewn gweld mwy o dystiolaeth ymchwil mewn pynciau penodol.

 

Sut y gall ymchwilwyr rannu eu mewnwelediadau i’r meysydd hyn?

Ceir isod restr o’r meysydd sydd o ddiddordeb ymchwil i’r Pwyllgorau sydd ar agor ar hyn o bryd. Os oes gennych dystiolaeth neu fewnwelediadau i’r meysydd hyn (gan gynnwys adolygiadau o dystiolaeth), gallwch ychwanegu gwybodaeth am yr ymchwil a'ch manylion cyswllt at y gronfa ymchwil. Os daw’r maes hwn yn destun craffu yn y Senedd, mae’n bosibl y bydd staff yn chwilio drwy’r gronfa am ymchwil a chysylltiadau perthnasol.

 

Sut mae’r Senedd yn defnyddio Meysydd o Ddiddordeb Ymchwil?

Nid yw’r meysydd o ddiddordeb ymchwil yn rhestr hollgynhwysfawr o’r meysydd y gallai’r Senedd ymddiddori ynddynt. Mae blaenoriaethau seneddol yn cael eu symbylu gan gynrychiolwyr etholedig sy'n ymateb i faterion cyfoes.

Mae Pwyllgorau’r Senedd yn cyhoeddi galwadau am dystiolaeth yn seiliedig ar eu blaenoriaethau presennol – nid yw’r meysydd o ddiddordeb ymchwil yn disodli'r galwadau hyn. Fodd bynnag, gall Aelodau o’r Senedd a staff y Senedd ddefnyddio’r meysydd i gwmpasu a/neu lywio gwaith at y dyfodol, nodi tystion, a chasglu tystiolaeth ymchwil i gefnogi gwaith craffu.

Meysydd sydd o Ddiddordeb Ymchwil i’r Pwyllgorau sydd ar agor ar hyn o bryd

Rhaglen Cyfnewid Gwybodaeth

Mae rhaglen cyfnewid gwybodaeth y Senedd yn gweithio i gryfhau cysylltiadau rhwng y Senedd a’r gymuned ymchwil.

Mae rhagor o wybodaeth ar wefan cyfnewid gwybodaeth.