Maes o Ddiddordeb Ymchwil: Llythrennedd iechyd

Cyhoeddwyd 19/08/2022   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 31/08/2022   |   Amser darllen munudau

Mae'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cyhoeddi llythrennedd iechyd fel maes o ddiddordeb ymchwil.

Mae llythrennedd iechyd yn ymwneud â gallu unigolion i ddod o hyd i wybodaeth iechyd, deall y wybodaeth honno a gweithredu yn ei chylch, i wybod pa wasanaethau iechyd i'w defnyddio a phryd i'w defnyddio, ac i fod yn bartneriaid gweithredol yn eu gofal. Dyma hefyd sut mae sefydliadau perthnasol yn diwallu'r anghenion hynny, gan alluogi unigolion i gael mynediad at wybodaeth a gwasanaethau iechyd, eu deall a’u defnyddio.

Anogir academyddion ar bob cam o’u gyrfa, sefydliadau ymchwil, ac arbenigwyr i gofrestru eu diddordeb yn y meysydd o ddiddordeb ymchwil, ychwanegu eu hymchwil bresennol yn y pynciau i gronfa’r meysydd, darparu eu mewnwelediad, a chynnig cwestiynau y gallai’r Pwyllgor eu gofyn i Lywodraeth Cymru.

Bydd y Pwyllgor yn defnyddio’r wybodaeth a gasglwyd drwy gronfa’r meysydd o ddiddordeb ymchwil i gwmpasu a chefnogi ei waith yn y dyfodol, yn unol â’i strategaeth ar gyfer y Chweched Senedd.

Bydd y rhai sy’n ymateb i’r arolwg yn mynd i gronfa ddata o arbenigwyr a bydd staff y Senedd o bosibl yn cysylltu â nhw i’w helpu i gefnogi’r Pwyllgor wrth graffu ar Lywodraeth Cymru yn y maes diddordeb hwn. Nid oes angen cysylltu â staff y pwyllgor yn uniongyrchol, gan fod ganddynt fynediad i'r holl wybodaeth yr ydych wedi’i rhoi yn y gronfa ddata.

 

Cofrestrwch eich arbenigedd a'ch mewnwelediadau ymchwil ar lythrennedd iechyd