Maes o Ddiddordeb Ymchwil: Cwotâu rhywedd ac amrywiaeth mewn Seneddau

Cyhoeddwyd 29/09/2023   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 29/09/2023   |   Amser darllen munudau

Bydd y Senedd yn ystyried nifer o Filiau sy’n ymwneud â diwygio’r Senedd. Cyflwynwyd y Bil cyntaf, sef Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) ar 18 Medi 2023. Mae’r Bil yn gwneud darpariaethau ar gyfer cynyddu maint y Senedd, newid system etholiadol y Senedd, a sefydlu adolygiadau o ffiniau etholaethau’r Senedd.

Disgwylir i ddeddfwriaeth bellach gael ei chyflwyno yn ddiweddarach yn 2023 a fydd yn gwneud darpariaeth ar gyfer cyflwyno cwotâu rhywedd ar gyfer ymgeiswyr sy’n ceisio cael eu hethol i’r Senedd ac ar gyfer casglu gwybodaeth amrywiaeth ymgeiswyr sy’n sefyll ar ran pleidiau gwleidyddol.

Er mwyn llywio paratoadau ar gyfer craffu ar yr ail Fil, mae Pwyllgorau perthnasol yn y Senedd yn lansio meysydd o ddiddordeb ymchwil ar gwotâu rhywedd mewn seneddau. Mae gennym ddiddordeb mewn archwilio tystiolaeth sydd eisoes yn bodoli ynghylch y defnydd o gwotâu rhywedd mewn Seneddau; y broses o ddylunio systemau gwahanol y gellir eu defnyddio i weithredu cwotâu rhywedd; y canlyniadau a gyflawnwyd drwy’r defnydd o gwotâu rhywedd o ran gwella amrywiaeth ymgeiswyr a seneddwyr; a sut mae’r broses o gydymffurfio â chwotâu rhywedd yn cael ei gorfodi.

Yn ogystal, byddai gennym ddiddordeb mewn tystiolaeth sy'n ymwneud â'r effaith y mae casglu a chyhoeddi gwybodaeth amrywiaeth am ymgeiswyr neu aelodau etholedig yn ei chael ar wella amrywiaeth mewn seneddau, a hynny ar draws ystod o nodweddion gwarchodedig, ar wahanol fethodolegau ar gyfer casglu a chyhoeddi gwybodaeth o’r fath.

Cofrestrwch eich arbenigedd a’ch mewnwelediad ymchwil ar gwotâu rhywedd ac amrywiaeth mewn seneddau