Maes o Ddiddordeb Ymchwil: Bwlch cyflogaeth anabledd

Cyhoeddwyd 29/09/2023   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 13/10/2023   |   Amser darllen munudau

Mae’r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol wedi cyhoeddi Maes o Ddiddordeb Ymchwil ar y Bwlch Cyflogaeth Anabledd. Mae gan y Pwyllgor ddiddordeb mewn archwilio pa gamau y gall y llywodraeth a chyflogwyr eu cymryd i gynyddu cyfleoedd cyflogaeth i bobl anabl a lleihau’r bylchau cyflog a chyflogaeth anabledd. Yn benodol, hoffai'r Pwyllgor wybod a oes enghreifftiau o ymyriadau llwyddiannus neu arfer gorau y gellid eu defnyddio yng Nghymru i gynyddu cyfranogiad a lleihau'r bwlch cyflogaeth anabledd.

Anogir academyddion ar bob cam o’u gyrfa, sefydliadau ymchwil, ac arbenigwyr i gofrestru eu diddordeb yn y maes o ddiddordeb ymchwil, ychwanegu eu hymchwil bresennol yn y meysydd pwnc i gronfa’r maes hwn, rhoi eu mewnwelediad, a chynnig cwestiynau y gallai’r Pwyllgor eu gofyn i Lywodraeth Cymru.

Bydd y rhai sy’n ymateb i’r arolwg yn mynd i gronfa ddata o arbenigwyr a bydd staff y Senedd o bosibl yn cysylltu â nhw i’w helpu i gefnogi’r Pwyllgor wrth graffu ar Lywodraeth Cymru yn y maes diddordeb hwn. Nid oes angen cysylltu â staff y pwyllgor yn uniongyrchol, gan fod ganddynt fynediad i'r holl wybodaeth yr ydych wedi’i rhoi yn y gronfa ddata.

Bydd y Pwyllgor yn defnyddio’r wybodaeth a gasglwyd o dan gronfa’r meysydd o ddiddordeb ymchwil i gwmpasu a chefnogi ei waith yn y dyfodol.

 

Cofrestrwch eich arbenigedd a'ch mewnwelediadau ymchwil ar fwlch cyflogaeth anabl