Rydym yn lansio Maes o Ddiddordeb Ymchwil ar Hyrwyddo a Hwyluso'r defnydd o Iaith Arwyddion Prydain (BSL). Mae hyn er mwyn cefnogi gwaith y gallai pwyllgorau’r Senedd ei wneud ar y Bil Iaith Arwyddion Prydain (BSL) (Cymru) arfaethedig os bydd y Bil yn mynd rhagddo.
Mae gan y pwyllgorau ddiddordeb mewn archwilio:
- Beth yw anghenion gwybodaeth a chyfathrebu pobl f/Fyddar yng Nghymru, a pha mor dda y mae'r anghenion hyn yn cael eu diwallu;
- Pa mor effeithiol yw'r fframwaith deddfwriaethol presennol o ran cydnabod a diogelu hawliau pobl f/Fyddar a defnyddwyr BSL;
- Dulliau deddfwriaethol a pholisi o hyrwyddo a hwyluso’r defnydd o Iaith Arwyddion, a thystiolaeth o’u heffaith;
- Materion yn ymwneud â darparu cyfieithwyr ar y pryd, cyfieithwyr a gweithwyr proffesiynol cymorth iaith a chyfathrebu eraill sy'n gweithio gyda phobl f/Fyddar; ac
- Arfer gorau wrth ddylunio a darparu prosesau cyfranogiad ac ymgynghori effeithiol gyda phobl f/Fyddar a defnyddwyr BSL.
Anogir academyddion ar bob cam o’u gyrfa, sefydliadau ymchwil, ac arbenigwyr i gofrestru eu diddordeb yn y Maes hwn o Ddiddordeb Ymchwil, ychwanegu eu gwaith ymchwil presennol ac unrhyw waith ymchwil arfaethedig yn y meysydd pwnc hyn i gronfa’r Meysydd o Ddiddordeb Ymchwil, a chynnig cwestiynau y gallai’r Pwyllgor eu gofyn i Lywodraeth Cymru yn y byrdymor, y tymor canolig a’r hirdymor.
Gall y Pwyllgor ddefnyddio’r wybodaeth a ddarperir gennych i lywio ei ddull o graffu ar y Bil a’i gwestiynau i Lywodraeth Cymru a thystion eraill. Gall Ymchwil y Senedd hefyd ddefnyddio’r wybodaeth i lywio cymorth ymchwil i’r pwyllgor.
chevron_right