Meysydd o ddiddordeb ymchwil: Llywodraethu Amgylcheddol, Egwyddorion Amgylcheddol a Thargedau Bioamrywiaeth

Cyhoeddwyd 24/04/2024   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau

Sefydlwyd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith gan y Senedd i edrych ar bolisi a deddfwriaeth, ac i ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif mewn meysydd penodol. Mae’r meysydd hyn yn cynnwys polisi newid hinsawdd, yr amgylchedd, ynni, cynllunio, trafnidiaeth; a chysylltedd.

Mae'r Pwyllgor yn lansio Maes o Ddiddordeb Ymchwil i gefnogi ei waith ar y Bil Llywodraethu Amgylcheddol, Egwyddorion Amgylcheddol a Thargedau Bioamrywiaeth arfaethedig. Mae’n ceisio arbenigedd ac ymchwil ar bob agwedd ar y Bil. Rhagflaenir y Bil gan Bapur Gwyn Llywodraeth Cymru sy’n amlinellu’r meysydd y mae’r Bil yn debygol o’u cynnwys.

Disgwylir i’r Bil wneud y canlynol:

  • sefydlu corff llywodraethiant amgylcheddol parhaol i sicrhau bod awdurdodau cyhoeddus yn cynnal cyfraith amgylcheddol;
  • cyflwyno egwyddorion amgylcheddol trosfwaol i fod yn sail i bob penderfyniad polisi yn y dyfodol;
  • cyflwyno fframwaith i ddiogelu ac adfer natur, gan gynnwys targedau bioamrywiaeth.

Mae gan y Pwyllgor ddiddordeb penodol yn y canlynol:

  • Y broses o sefydlu a chylch gwaith cyrff llywodraethu amgylcheddol eraill y DU, a gwersi a ddysgwyd;
  • Adeiladu ar ei wybodaeth bresennol a gwaith ar dargedau bioamrywiaeth; a
  • Datblygu sylfaen dystiolaeth i lywio ei asesiad o'r egwyddorion amgylcheddol sydd wedi’u cynnwys yn y Bil.

Anogir academyddion ar bob cam o’u gyrfa, sefydliadau ymchwil, ac arbenigwyr i gofrestru eu diddordeb yn y Maes hwn o Ddiddordeb Ymchwil, ychwanegu eu gwaith ymchwil presennol ac unrhyw waith ymchwil arfaethedig yn y meysydd pwnc hyn i gronfa’r Meysydd o Ddiddordeb Ymchwil, a chynnig cwestiynau y gallai’r Pwyllgor eu gofyn i Lywodraeth Cymru yn y byrdymor, y tymor canolig a’r hirdymor.

Gall y Pwyllgor ddefnyddio’r wybodaeth a ddarperir gennych i lywio ei ddull o graffu ar y Bil a’i gwestiynau i Lywodraeth Cymru a thystion eraill. Gall Ymchwil y Senedd hefyd ddefnyddio’r wybodaeth i lywio cymorth ymchwil i’r pwyllgor.

Cofrestrwch eich arbenigedd a'ch mewnwelediadau ymchwil ar wella gofal iechyd