cysylltwch a ni

cysylltwch a ni

Ar ddiwrnod y cyfarfod

Cyhoeddwyd 01/08/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/01/2023   |   Amser darllen munudau

Yn ôl i Paratoi at fynd i gyfarfod pwyllgor | Ymlaen i Mathau eraill o dystiolaeth

Cyrraedd

Mae dau faes parcio cyhoeddus ger y Senedd, sy'n codi tâl bychan am arhosiad byr. Mewn amgylchiadau arbennig, gellir neilltuo man parcio ar gyfer ymwelydd yn y Senedd drwy gysylltu â'r tîm clercio. Os byddwch wedi gofyn am gael bwcio fan parcio ar gyfer pobl anabl, bydd hwn gerllaw adeilad y Senedd, drwy'r atalfa o flaen Tŷ Hywel. Ond, mae'n dibynnu os bydd llefydd ar gael ac mae’n rhaid i chi ddangos Bathodyn Glas dilys pan fyddwch yn cyrraedd.

Rydym yn argymell eich bod yn cyrraedd o leiaf 20 munud cyn yr amser y trefnwyd i chi roi tystiolaeth lafar i'r pwyllgor. Caiff pob ymwelydd ag adeilad y Senedd archwiliad diogelwch fel sy'n digwydd mewn maes awyr. Ar ôl mynd drwy'r sganwyr diogelwch, ewch i'r dderbynfa yn adeilad y Senedd. Bydd staff y dderbynfa yn gofyn am eich enw, yn rhoi pàs diogelwch i chi ac yn eich cyfeirio i lawr y grisiau i ystafell aros y tystion, lle mae'n bosibl y bydd tystion eraill hefyd yn aros. Gall staff y dderbynfa argraffu agendâu cyfarfodydd ar gais.

Cynhelir sesiynau tystiolaeth lafar hefyd yn yr Ystafelloedd Pwyllgora yn adeilad Tŷ Hywel. Os byddwch yn rhoi tystiolaeth yn un o’r ystafelloedd hyn, gofynnir i chi (ymlaen llaw gan y tîm clercio) fynd i fynedfa Tŷ Hywel. Yno, byddwch yn cael archwiliad diogelwch fel sy'n digwydd mewn maes awyr, rhoddir pàs diogelwch i chi yn nerbynfa Tŷ Hywel ac fe'ch cyfeirir i ystafell aros yn Nhŷ Hywel.​Heaphones ar y bwrdd

Bydd swyddog cymorth y pwyllgor fel arfer yn eich cyfarfod yn ystafell aros y tystion (naill ai yn adeilad y Senedd neu yn Nhŷ Hywel), a bydd yn gallu ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych. Bydd hefyd yn dangos ichi sut i ddefnyddio'r clustffo​​nau sy'n darparu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd o'r Gymraeg i'r Saesneg yn y cyfarfod a hefyd sut i addasu’r sain os oes angen.

Pan fydd y pwyllgor yn barod, bydd y swyddog cymorth yn dod i'ch nôl o'r ystafell aros ac yn mynd â chi i'r ystafell bwyllgora.

Os byddwch yn rhoi tystiolaeth lafar drwy fideo-gynadledda, bydd y tîm clercio fel arfer yn creu'r linc fideo gyda chi yn ystod egwyl yn y cyfarfod ffurfiol cyn i chi ddechrau rhoi tystiolaeth i sicrhau bod popeth yn gweithio’n iawn ac er mwyn ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych.

Yn ystod y cyfarfod​

Ar ôl i chi fynd i mewn i'r ystafell bwyllgora, efallai y gofynnir i chi wneud datganiad agoriadol byr i aelodau'r pwyllgor cyn iddynt ddechrau gofyn cwestiynau. Gallwch ddewis derbyn neu wrthod y cynnig hwn (os byddwch am wrthod y cynnig hwn, dywedwch eich bod yn hapus iddynt fynd yn syth at y cwestiynau).

Bydd aelodau'r pwyllgor wedi cael eich papur cyn y cyfarfod, felly dylai datganiad agoriadol fod yn fyr iawn. Gellir cyfyngu eich sylwadau agoriadol i gyflwyno eich hun (neu eich sefydliad), beth yw eich diddordeb yn yr ymchwiliad, ac o bosibl, un neu ddau fater allweddol yr hoffech i Aelodau roi ystyriaeth arbennig iddynt. Bydd Aelodau wedyn yn gofyn cwestiynau, ar sail eich tystiolaeth yn y lle cyntaf, ond hefyd gan ystyried gwybodaeth arall a gafwyd.

Mae pwyllgorau'r Senedd yn gweithredu'n ddwyieithog. Mae croeso i chi annerch y pwyllgor ac ateb cwestiynau yn Gymraeg neu yn Saesneg. Gall Aelodau hefyd ddefnyddio'r naill iaith neu'r llall yn ystod trafodion. Yn ystod y cyfarfod bydd gwasanaeth cyfieithu ar y pryd ar gael o'r Gymraeg i'r Saesneg.

Os teimlwch nad oes gennych y wybodaeth sydd ei hangen arnoch i ateb cwestiwn, neu os oes gwybodaeth fanylach a all fod yn ddefnyddiol i gefnogi'ch ateb, gallwch gynnig anfon nodyn at y pwyllgor sy'n cynnwys y wybodaeth berthnasol. Yn yr un modd, gall aelodau'r pwyllgor ofyn i chi ddarparu gwybodaeth ysgrifenedig i gefnogi'ch ateb. Dylid rhoi'r wybodaeth hon i'r tîm clercio cyn gynted â phosibl ar ôl y cyfarfod.

Yn ystod y cyfarfod, os byddwch yn teimlo bod mynegi barn ar gwestiwn penodol y tu allan i gylch gwaith eich rôl, neu fod cwestiwn yn 'annheg', gallwch ddweud hynny wrth gadeirydd y pwyllgor. Er hynny, efallai y gofynnir i chi geisio ateb y cwestiwn os bydd y pwyllgor yn penderfynu ei bod yn rhesymol i chi wneud hynny.

Meics ar y bwrdd

Mae ystafell bwyllgora wedi'i gosod ar ffurf ystafell fwrdd fel arfer, gyda meicroffonau wedi'u gosod o amgylch y bwrdd. Mae angen y meicroffonau at ddibenion cyfieithu ar y pryd, addasu’r sain a darlledu. Mae golau coch yn dangos bod eich meicroffon yn gweithio. Caiff hyn ei reoli gan y peiriannydd darlledu sy'n gwylio'r trafodion, felly nid oes angen i chi bwyso unrhyw fotymau. Peidiwch â symud y meicroffonau gan fod hyn yn effeithio ar ansawdd y sain yn yr ystafell.

Cynhelir y rhan fwyaf o fusnes pwyllgorau yn gyhoeddus a chaiff ei ddarlledu'n fyw ar y rhyngrwyd ar wefan Senedd TV. Cyhoeddir trawsgrifiad gair am air o bob cyfarfod cyhoeddus. Caiff pob sesiwn ei chadw mewn archif a gellir ei gwylio ar wefan Senedd TV. Gall y cyfarfod hefyd gael ei ddarlledu ar BBC Democracy Live ac ar y teledu yn ddiweddarach (ar hyn o bryd, gellir dangos y trafodion ar S4C a BBC Parliament).

Ar ôl y cyfarfod

Ar ôl y cyfarfod anfonir copi o'r trawsgrifiad drafft atoch (gair am air) i'w gywiro, ynghyd â nodiadau cyfarwyddyd yn dweud sut i roi gwybod i ni os oes unrhyw ffeithiau anghywir yn y testun. Gofynnir i chi ddychwelyd y drafft wedi'i gywiro erbyn dyddiad penodedig, ac wedyn caiff y trawsgrifiad ei gyhoeddi. Efallai yr anfonir ffurflen adborth atoch hefyd fel y gallwch roi gwybod i’r tîm clercio am eich profiad.

Ar ddiwedd ei ymchwiliad, bydd y pwyllgor yn ystyried yr holl dystiolaeth a gasglwyd, ac yn penderfynu ar y themâu a'r materion allweddol. Wedyn, bydd yn cyhoeddi adroddiad ac argymhellion ar sail y dystiolaeth a gasglwyd yn yr ymchwiliad. Bydd y tîm clercio’n ​rhoi gwybod i chi pan gyhoeddir yr adroddiad.​