Canllaw i dystiolaeth ysgrifenedig

Cyhoeddwyd 14/12/2023

Cynnwys

—  Trosolwg

—  Sut i baratoi eich tystiolaeth

—  Cyflwyno eich tystiolaeth

—  Cwestiynau cyffredin

 


 

Trosolwg

Pam ddylwn i roi tystiolaeth ysgrifenedig?

Gelwir y wybodaeth y byddwch yn ei rhoi drwy ymateb i ymchwiliad pwyllgor yn 'dystiolaeth ysgrifenedig'.

Mae tystiolaeth ysgrifenedig yn bwysig oherwydd mae’n llywio gwaith pwyllgorau’r Senedd. Mae'r gwaith hwn yn effeithio ar fywydau pobl yng Nghymru. Rhagor o wybodaeth am bwyllgorau.

Mae pwyllgorau am glywed gan amrywiaeth eang o bobl ar faterion penodol, a pha newidiadau y gellid eu gwneud. 

Efallai eich bod chi’n gwybod am y pwnc oherwydd:

  • eich gwaith, er enghraifft gweithio mewn cyngor lleol, elusen neu fusnes,
  • eich bod wedi ymchwilio iddo neu ei astudio, neu
  • mae gennych brofiad personol ohono, er enghraifft drwy ddefnyddio gwasanaethau iechyd neu addysgu mewn ysgol.

 

Bydd gan wahanol bobl farn wahanol ar yr un pwnc, a dyna pam mae’r Senedd yn gwerthfawrogi cael tystiolaeth gan amrywiaeth o bobl, cymunedau, sectorau, grwpiau a sefydliadau.

Sut mae anfon tystiolaeth ysgrifenedig?

Gallwch ddod o hyd i restr o ymchwiliadau pwyllgor sy’n cael eu cynnal ar hyn o bryd ar y dudalen ymgynghoriadau.

Mae pob ymgynghoriad (a elwir weithiau yn 'alwad am dystiolaeth') yn rhestru'r hyn y mae'r pwyllgor am glywed amdano. Gelwir hyn yn 'gylch gorchwyl'. Mae rhai pwyllgorau hefyd yn gosod cwestiynau i chi eu hateb.

Mae'n well gan bwyllgorau dderbyn tystiolaeth ysgrifenedig yn electronig naill ai drwy e-bost neu drwy ffurflen ar-lein.

Gallwch hefyd anfon copi papur o dystiolaeth i'r cyfeiriad ar dudalen yr ymgynghoriad.

Gellir cyflwyno tystiolaeth yn Gymraeg neu yn Saesneg. Os ydych yn rhoi tystiolaeth ysgrifenedig ar ran sefydliad, bydd angen i chi fodloni safonau neu gynllun iaith Gymraeg eich sefydliad.