Canllaw i dystion

Cyhoeddwyd 11/06/2024   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 22/08/2024

Cynnwys

—  Trosolwg

—  Paratoi i fod yn dyst

—  Hygyrchedd

—  Mynd i gyfarfod pwyllgor fel tyst

—  Yn ystod cyfarfod pwyllgor

—  Ar ôl cyfarfod pwyllgor

 

 


 

Paratoi i fod yn dyst

Fel tyst, darllen drwy’r canllaw hwn yw un o’r ffyrdd gorau y gallwch baratoi ar gyfer cyfarfod pwyllgor.

 

Cyn y cyfarfod fe allwch chi gysylltu â thîm clercio’r pwyllgor, a fydd yn gallu gwneud y canlynol:

  • siarad â chi am sut mae pwyllgorau'n gweithio
  • esbonio pam y cawsoch eich gwahodd i fod yn dyst
  • rhoi gwybodaeth am bwy arall sydd wedi cael gwahoddiad

 

Cyn y cyfarfod, fe allwch chi hefyd gymryd y camau canlynol:

  • edrych ar y gwaith y mae’r pwyllgor wedi’i wneud yn barod
  • gwylio pobl eraill yn rhoi tystiolaeth i bwyllgorau ar Senedd.tv

 

Pwy sydd mewn cyfarfod pwyllgor?

Fe fyddwch chi’n gweld nifer o bobl yn y cyfarfod.

Aelodau o’r Senedd: o wahanol grwpiau gwleidyddol (neu ddim grŵp gwleidyddol). Mae un o’r Aelodau hefyd yn cadeirio’r pwyllgor. Dewch i wybod pa Aelodau o'r Senedd sy'n perthyn i'r pwyllgor rydych chi'n mynd iddo. 

Clercod: yn gyfrifol am baratoi a threfnu cyfarfodydd, a rhediad cyffredinol y pwyllgorau. Nhw yw eich prif bwynt cyswllt.

Ymchwilwyr: arbenigwyr diduedd ar bwnc penodol, sy'n cefnogi aelodau pwyllgorau, a’r pwyllgorau eu hunain.

Cynghorwyr cyfreithiol: cynghori’r pwyllgor ar bwyntiau cyfreithiol, ac unrhyw faterion cyfreithiol. 

Swyddog cymorth y pwyllgor: y person a fydd yn eich tywys chi i'r ystafell gyfarfod os byddwch yn dod i’r safle ar gyfer y cyfarfod.

Cyfieithwyr ar y pryd, a pheirianwyr darlledu: yn cyfieithu o'r Gymraeg i'r Saesneg (neu ieithoedd eraill, os gofynnir ymlaen llaw) ac yn gwneud yn siŵr bod y dechnoleg yn rhedeg yn esmwyth. 

Y cyhoedd (gan gynnwys newyddiadurwyr): fe allan nhw wylio yn yr oriel gyhoeddus.

Swyddogion diogelwch: os byddwch chi’n mynd i’r cyfarfod ar y safle.

 

All pobl eraill fynd i gyfarfodydd pwyllgor?

Wrth gwrs, gall pobl eraill fynychu cyfarfodydd pwyllgorau. Fel arfer, mae tystion rhoi eu tystiolaeth yn gyhoeddus.

Mae hyn yn golygu y gall aelodau’r cyhoedd wneud y canlynol:

 

Beth ddylwn i ei wneud os nad wyf fi eisiau bod yn dyst?

Eich llesiant

Mae eich llesiant yn bwysig i ni. Os oes gyda chi unrhyw bryderon ynghylch rhoi tystiolaeth lafar, cysylltwch â thîm clercio’r pwyllgor wnaeth eich gwahodd. Fe allwn ni drafod eich pryderon, a chynghori ar y camau nesaf.

Preifatrwydd

Mae pwyllgorau'n ceisio bod mor agored a thryloyw yn eu gwaith ag y gallan nhw fod.

Fodd bynnag, os oes gennych resymau penodol dros ddiogelu eich hunaniaeth, neu bryderon am eich preifatrwydd, cysylltwch â thîm clercio’r pwyllgor wnaeth eich gwahodd.

Fe allan nhw drafod hyn gyda chi, ac ystyried trefniadau posibl.

 

Hawlio treuliau

Os yw cost mynd i’r pwyllgor yn rhwystr i chi, cysylltwch â thîm clercio’r pwyllgor i drafod opsiynau ar gyfer cymorth.