Jane Dodds AS

Jane Dodds AS

Cyfle Gwaith: Arweinydd Swyddfa a Gweinyddol ar gyfer Jane Dodds AC

Cyhoeddwyd 27/10/2025   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/10/2025

Arweinydd Swyddfa a Gweinyddol ar gyfer Jane Dodds AS

Ystod cyflog (pro rata): £27,722 – £40,321

Disgwylir i bob aelod newydd o staff ddechrau ar raddfa isaf y band priodol. Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa bob blwyddyn ar y dyddiad y gwnaethant ddechrau yn eu swydd nes eu bod yn cyrraedd yr uchafswm graddfa ar gyfer eu band.

Oriau gwaith: 33 awr yr wythnos
Natur y penodiad: Dros Gyfnod Mamolaeth - tan fis Medi 2026 
Lleoliad: Swyddfa Ranbarthol, Aberhonddu
Cyfeirnod: MBS-049-25

Diben y swydd: 

Rheoli a chydgysylltu'r holl wasanaethau cymorth, gan gynnwys ymchwil, gweinyddiaeth a gwaith achos ar gyfer yr Aelod o’r Senedd. Bydd y tasgau allweddol yn cynnwys arwain ac ysgogi’r tîm o staff a rheoli cyllidebau a systemau'r swyddfa.

Prif ddyletswyddau:

 

  1. Rheoli aelodau eraill o’r tîm sy'n atebol i’r Aelod o’r Senedd, gan gynnwys recriwtio a goruchwylio staff, rheoli perfformiad a materion eraill sy’n ymwneud â phersonél, megis gwyliau blynyddol, a hynny yn ôl y galw.
  2. Meithrin perthynas effeithiol â chydweithwyr o wahanol feysydd gwasanaeth ar draws y Senedd, gan gynnwys staff Comisiwn y Senedd ac Aelodau eraill o’r Senedd, a chydweithio â nhw ar faterion perthnasol.
  3. Rheoli dyddiadur yr Aelod a goruchwylio staff sydd â threfniadau dyddiadur, gwneud trefniadau teithio, a sicrhau y caiff pob ymrwymiad ei drefnu'n broffesiynol.
  4. Cynnal a chadw mewnflwch Outlook yr Aelod, goruchwylio cymorth staff a sicrhau ymateb mewn modd amserol a threfnus.

Gwybodaeth a phrofiad hanfodol: 

    

  •  Profiad o weithio’n effeithiol mewn amgylchedd swyddfa, gan gynnwys datrys materion cymhleth gyda synnwyr cyffredin a doethineb, a hynny mewn amgylchedd gwleidyddol yn ddelfrydol
  • Profiad o fod mewn rôl gymharol yn ymdrin â gohebiaeth gymhleth, dyddiaduron a digwyddiadau, a rheoli swyddfa brysur.
  • Gwybodaeth am y materion sy'n berthnasol i'r ardal leol a dealltwriaeth ohonynt.
  • Dealltwriaeth o'r angen i frwydro yn erbyn gwahaniaethu ac i hyrwyddo cyfle cyfartal ac Egwyddorion Nolan mewn Bywyd Cyhoeddus, ac ymrwymiad i'r materion hyn

 

Cymhwysterau hanfodol: 

  •  Gradd neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol, neu
  • Gymhwyster NVQ lefel 3 neu 4, neu gymhwyster cyfatebol mewn bwnc perthnasol

Awgrymir eich bod yn darllen manylebau’r swydd a’r person cyn gwneud cais am y swydd hon. I gael manylion am y swydd ac i geisio am y swydd, cysylltwch â Jane.Dodds@Senedd.Wales 

 


Dyddiad cau: 10 Tachwedd 2025, 5pm
Dyddiad cyfweliad: I'w gadarnhau