Andrew RT Davies

Andrew RT Davies

Cyfle Gwaith: Rheolwr Swyddfa ac Uwch Ymchwilydd ar gyfer Andrew RT Davies AS

Cyhoeddwyd 02/03/2026   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 03/03/2026

Rheolwr Swyddfa ac Uwch Ymchwilydd ar gyfer Andrew RT Davies AS

Ystod cyflog (pro rata): £32,351 – £45,380

Disgwylir i bob aelod newydd o staff ddechrau ar raddfa isaf y band priodol. Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa bob blwyddyn ar y dyddiad y gwnaethant ddechrau yn eu swydd nes eu bod yn cyrraedd yr uchafswm graddfa ar gyfer eu band.

Oriau gwaith: 37 awr yr wythnos
Natur y penodiad: Cyfnod Penodol tan 07 Mai 2026 gyda'r posibilrwydd o gael ei wneud yn barhaol
Lleoliad: Swyddfa Ranbarthol Bro Morganwg/Bae Caerdydd 
Cyfeirnod: MBS-067-25

Diben y swydd: 

Rheoli a chydgysylltu'r holl wasanaethau cymorth, gan gynnwys ymchwil, gweinyddiaeth a gwaith achos ar gyfer yr Aelod o’r Senedd. Bydd y tasgau allweddol yn cynnwys arwain ac ysgogi’r tîm o staff a rheoli cyllidebau a systemau swyddfa.

Prif ddyletswyddau:

  • Rheoli aelodau eraill o’r tîm sy'n atebol i’r Aelod o’r Senedd, gan gynnwys recriwtio a goruchwylio staff, rheoli perfformiad a materion eraill yn ymwneud â phersonél, a hynny yn ôl y galw.
  • Rheoli systemau swyddfa, goruchwylio gweithgareddau'r swyddfa, trefnu'r llwyth gwaith, gan weithio'n agos gydag aelodau eraill o'r staff i greu tîm unedig.
  • Darparu cymorth ysgrifenyddol, gwaith achos, ymchwil a gweinyddol cynhwysfawr, yn ôl y galw.
  • Helpu i baratoi areithiau a chynnig cwestiynau llafar/ysgrifenedig i'w gofyn i Weinidogion ac uwch-wleidyddion eraill.

Gwybodaeth a phrofiad hanfodol: 

  • Profiad o weithio'n effeithiol mewn swyddfa, gan gynnwys datrys materion cymhleth gyda synnwyr cyffredin a doethineb, yn ddelfrydol mewn amgylchedd gwleidyddol.
  • Profiad o weithio mewn rôl gymharol yn ymdrin â gohebiaeth gymhleth, dyddiaduron a digwyddiadau a rhedeg swyddfa brysur.
  • Gwybodaeth am, a dealltwriaeth o, faterion sy'n berthnasol i'r ardal leol.
  • Dealltwriaeth o frwydro yn erbyn gwahaniaethu a hyrwyddo cyfle cyfartal, ac ymrwymiad i'r rheini ac i Egwyddorion Bywyd Cyhoeddus Nolan.

Cymhwysterau hanfodol: 

  • Gradd neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol; neu
  • Gymhwyster NVQ lefel 3 neu 4 neu gymhwyster cyfatebol mewn Gweinyddu Swyddfa, Gwasanaeth Cwsmeriaid neu bwnc perthnasol

Awgrymir eich bod yn darllen manylebau’r swydd a’r person cyn gwneud cais am y swydd hon. I gael manylion am y swydd ac i geisio am y swydd, cysylltwch â George.Carroll@Senedd.Cymru 

 


Dyddiad cau: 10 Mawrth 2026, 4pm
Dyddiad cyfweliad: I'w gadarnhau