Dysgu a Datblygu

Cyhoeddwyd 24/09/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/11/2020

Mae ystod eang o gyfleoedd dysgu ar gael i gynorthwyo Aelodau a'u staff i gyflawni eu gwahanol rolau. Mae'r hyfforddiant a ddarparwn yn cynnwys nifer o feysydd gwahanol o sgiliau seneddol, i gefnogi etholwyr, i weithio'n effeithiol fel tîm swyddfa etholaethol bach. Cynigir hyfforddiant sylfaenol i bob aelod o'r staff cymorth newydd ar wasanaethau'r Comisiwn, a gallant gael gafael ar hyfforddiant, cefnogaeth a chyngor pellach gan Dîm Dysgu Aelodau'r Comisiwn.