Pensiwn

Cyhoeddwyd 23/09/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 30/09/2020

Cyn gynted ag y byddwch yn dechrau ar eich swydd newydd, byddwch yn gymwys i ymuno â threfniant Pensiwn Staff Cymorth Aelodau. Cynllun pensiwn cyfraniad diffiniedig yw hwn, mae hyn yn golygu y byddai gennych eich pot arbedion pensiwn unigol eich hun. Buddsoddir y cyfraniadau a delir i'ch pot a bydd y swm o arian sydd ar gael pan fyddwch yn ymddeol yn dibynnu ar faint sydd wedi'i dalu i mewn a sut mae'r buddsoddiadau wedi perfformio. Cwmni o'r enw Aviva sy'n rhedeg y Cynllun. Byddai eich cyflogwr yn cyfrannu 10% o'ch cyflog gros i'ch Cynllun Pensiwn gydag Aviva ar eich rhan.

Byddwch yn cael manylion llawn am eich opsiynau pensiwn ar ôl eich penodi, ond os hoffech gael gwybod mwy yn y cyfamser ewch i wefan pensiwn Fy Aelod o Staff Cymorth