Pensiwn

Cyhoeddwyd 23/09/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 07/05/2026

Cyn gynted ag y byddwch yn dechrau ar eich swydd newydd, byddwch yn gymwys i ymuno â threfniant Pensiwn Staff Cymorth Aelodau. Cynllun pensiwn cyfraniad diffiniedig yw hwn, mae hyn yn golygu y byddai gennych eich pot arbedion pensiwn unigol eich hun. Buddsoddir y cyfraniadau a delir i'ch pot a bydd y swm o arian sydd ar gael pan fyddwch yn ymddeol yn dibynnu ar faint sydd wedi'i dalu i mewn a sut mae'r buddsoddiadau wedi perfformio. Cwmni o'r enw Aviva sy'n rhedeg y Cynllun. Byddai eich cyflogwr yn cyfrannu 10% o'ch cyflog gros i'ch Cynllun Pensiwn gydag Aviva ar eich rhan. 

Yn ychwanegol at y cyfraniad pensiwn cyflogwr o 10% a delir ar hyn o bryd, pan fyddwch yn dewis gwneud cyfraniad personol i'w bensiwn, bydd y cyflogwr yn gwneud cyfraniad sy’n cyfateb i’ch cyfraniadau personol hyd at uchafswm o 3% o'r cyflog gwirioneddol a delir. Gellir fanteisio ar drefniadau aberthu cyflog i dalu cyfraniadau personol. O dan y trefniant hwn, rydych yn ildio rhan o'ch cyflog ac mae’r rhan hon yn cael ei thalu i'ch cronfa bensiwn. O ganlyniad i hyn, rydych chi a'ch Cyflogwr yn talu llai o Yswiriant Gwladol. Er mwyn annog cronni pensiwn, bydd eich Cyflogwr yn talu ei arbediad Yswiriant Gwladol i'ch cronfa bensiwn. Rydych hefyd yn cael rhyddhad treth llawn ar eich cyfraniadau. 

Byddwch yn cael manylion llawn am eich opsiynau pensiwn ar ôl eich penodi, ond os hoffech gael gwybod mwy yn y cyfamser ewch i wefan pensiwn Fy Aelod o Staff Cymorth. (Saesneg yn unig)