Aelod Anweithredol o Fwrdd Swyddfa Archwilio Cymru

Cyhoeddwyd 31/01/2025   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 21/09/2026

£12,500 y flwyddyn, amhensiynadwy, 2 i 3 diwrnod y mis.

Lleoliad: Cymru

Mae Bwrdd Swyddfa Archwilio Cymru yn gyfrifol am bennu cyfeiriad strategol Swyddfa Archwilio Cymru a sicrhau bod swyddogaethau’r sefydliad yn cael eu cyflawni mewn modd effeithlon a chost-effeithiol.

Mae’r sefydliad yn cyflogi tua 300 o staff, a’r Archwilydd Cyffredinol yw ei Brif Weithredwr a’i Swyddog Cyfrifyddu. Mae’r Archwilydd Cyffredinol yn ddeiliad swydd statudol sy’n gyfrifol am amrywiaeth o swyddogaethau archwilio, gan gynnwys archwilio cyfrifon y rhan fwyaf o gyrff cyhoeddus yng Nghymru.

Mae Senedd Cymru yn dymuno penodi Aelod Anweithredol i’r Bwrdd, a fydd yn dechrau yn y rôl ym mis Mawrth 2027.

Yn gyfan gwbl, mae Bwrdd Swyddfa Archwilio Cymru yn cynnwys naw aelod, pump ohonynt yn aelodau anweithredol (gan gynnwys y Cadeirydd), ynghyd ag Archwilydd Cyffredinol Cymru a thri aelod sy'n gyflogeion Swyddfa Archwilio Cymru. Penodir yr Aelodau Anweithredol gan Senedd Cymru. Caiff un aelod o staff ei enwebu gan yr Archwilydd Cyffredinol, a chaiff y ddau arall eu penodi gan yr Aelodau Anweithredol yn dilyn balot o staff Swyddfa Archwilio Cymru.

Os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud cais am y rôl hon, mae’n bwysig cyfeirio at y meini prawf cymhwysedd sy’n llywodraethu’r penodiad hwn, fel y’u nodir yn y briff gwybodaeth i ymgeiswyr.

 

Sut i wneud cais

Am fanylion llawn am sut i wneud cais, gan gynnwys gofynion cymhwysedd, telerau penodi a’r fanyleb person, cyfeiriwch at y Pecyn Gwybodaeth Ymgeiswyr.

Mae'n rhaid i ymgeiswyr hefyd gwblhau a chyflwyno holiadur cymhwysedd a holiadur monitro cydraddoldeb fel rhan o'u cais.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau:   Hanner nos, dydd Gwener 23 Hydref 2026.

 

Holiadur Cymhwystra

Ffurflen Monitro Cydraddoldeb

Pecyn Gwybodaeth Ymgeiswyr