Cynghorwyr Annibynnol i Gomisiwn y Senedd

Cyhoeddwyd 31/01/2025   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 17/07/2026

Cyfnod: Tymor penodol o dair blynedd
Tâl: £5,000 y flwyddyn, gyda £2,000 ychwanegol ar gael ar gyfer cyfrifoldebau cadeirio pwyllgorau cynghori
Lleoliad: Caerdydd

Mae Comisiwn y Senedd am benodi hyd at bum Cynghorydd Annibynnol i ddarparu doethineb annibynnol, cynnig her adeiladol a sicrhau ansawdd wrth gefnogi llywodraethiant a chyfeiriad strategol y Comisiwn.

Mae hwn yn gyfle unigryw i gyfrannu at fywyd cyhoeddus yng Nghymru drwy ddefnyddio’ch arbenigedd, eich profiad a'ch barn annibynnol i gefnogi'r Comisiwn i ddarparu gwasanaethau effeithiol, tryloyw a dibynadwy i Aelodau o'r Senedd a phobl Cymru.


Y rôl

Fel Cynghorydd Annibynnol, bydd gofyn i chi weithredu mewn rôl anwleidyddol, ymgynghorol, i Gomisiwn y Senedd, yn bennaf drwy ei dîm gweithredol. Disgwylir i’r Cynghorwyr ddatblygu perthnasau adeiladol a chynnig her gefnogol ar draws busnes y Comisiwn gyda’r bwriad o sicrhau bod pob agwedd ar strategaeth a darpariaeth yn destun craffu o safbwynt effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd. Maent yn cyfrannu at lywodraethiant corfforaethol, monitro perfformiad a chynnydd y sefydliad, gan gynnwys y defnydd o adnoddau dynol ac ariannol, ac yn cynnal trosolwg beirniadol o reolaethau a gweithdrefnau ariannol y sefydliad.

Penodiad anweithredol yw hwn, sy'n gofyn am ymrwymiad o tua 15 diwrnod y flwyddyn. Mae'r tâl o £5,000 y flwyddyn ar gyfer y rôl, gyda £2,000 ychwanegol ar gael ar gyfer cyfrifoldebau cadeirio pwyllgorau cynghori.

Rydym yn chwilio am unigolion a all gynnig ystod eang o wybodaeth, sgiliau, arbenigedd, safbwyntiau a phrofiadau bywyd; unigolion a fydd yn cynnig doethineb annibynnol gan ofyn cwestiynau heriol, adeiladol er mwyn helpu i gynnal y safonau uchaf ar draws y sefydliad.

O fewn y garfan o gynghorwyr yr ydym am eu penodi eleni a'r flwyddyn nesaf, nodwyd dwy rôl ag arbenigedd penodol:

Cynghorydd Cyllid / Archwilio

Dylai ymgeiswyr feddu ar gymhwyster proffesiynol cydnabyddedig ym maes cyllid, cyfrifeg neu archwilio a meddu ar brofiad sylweddol ar lefel uwch yn y meysydd hyn. Mae profiad o wneud gwaith craffu ar berfformiad ariannol, trefniadau sicrhau ansawdd a threfniadau risg sefydliadol o fewn sefydliad cymhleth yn ddymunol.

Cynghorydd Urddas a Pharch

Rydym hefyd yn chwilio am ymgeiswyr sydd ag arbenigedd sylweddol mewn diwylliant sefydliadol, urddas a pharch, cynhwysiant, fframweithiau ymddygiad, neu atal bwlio ac aflonyddu, a all gynnig her feddylgar ac adeiladol yn y meysydd hyn.

Ein nod yw sicrhau amrywiaeth ymhlith ein Cynghorwyr Annibynnol drwy dynnu ar ystod eang o gefndiroedd, safbwyntiau a phrofiadau.

Rydym yn arbennig o awyddus i glywed gennych chi os oes gennych sgiliau, arbenigedd neu brofiad mewn un neu ragor o'r meysydd canlynol:

·         profiad o herio ar lefel uwch a hynny yn annibynnol, yn gytbwys ac yn adeiladol;

  • profiad o arwain ar lefel uwch neu brofiad cynghori o fewn sefydliad cymhleth;
  • barn gadarn, hygrededd a dylanwad;
  • gallu i ddeall amgylcheddau sefydliadol, gwleidyddol a chyfansoddiadol cymhleth;
  • ymroddiad i werthoedd gwasanaeth cyhoeddus, uniondeb, cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant; ac
  • gallu i gyfrannu'n strategol at lywodraethiant a pherfformiad sefydliadol.

Rydym yn arbennig o awyddus i glywed gan ymgeiswyr sydd ag arbenigedd mewn un neu ragor o'r meysydd canlynol:

  • cyllid, cyfrifeg neu archwilio;
  • rheoli risg a sicrhau ansawdd;
  • diwylliant sefydliadol, urddas a pharch;
  • cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant;
  • urddas a pharch
  • trawsnewid a newid sefydliadol;
  • trawsnewid digidol a TGCh;
  • cyfathrebu ac ymgysylltu; ac
  • uwch arweinyddiaeth weithredol.

 

Sut i wneud cais

Am fanylion llawn am sut i wneud cais, gan gynnwys gofynion cymhwysedd, telerau penodi a’r fanyleb person, cyfeiriwch at y Pecyn Gwybodaeth Ymgeiswyr.

Mae'n rhaid i ymgeiswyr hefyd gwblhau a chyflwyno holiadur cymhwysedd a holiadur monitro cydraddoldeb fel rhan o'u cais.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau:   15:00 21 Awst 2026.

 

Holiadur Cymhwystra

Ffurflen Monitro Cydraddoldeb

Briff i ymgeiswyr