Nod Cod Ymddygiad Ymwelwyr y Senedd (“y Cod”) yw cefnogi darpariaeth y polisi Ymddygiad Derbyniol1 drwy nodi’r disgwyliadau mewn perthynas â:
Diogelwch, lles a sicrwydd yr holl randdeiliaid gan gynnwys staff, ymwelwyr, contractwyr a'r cyhoedd yn gyffredinol;
Diogelwch a sicrwydd ystad y Senedd (“Ystad y Senedd”); a
Sicrhau bod busnes y Senedd (“y Senedd”) yn gallu cael ei gynnal heb ymyrraeth.
Mae'r cod hwn yn berthnasol i'r holl dir ac eiddo sy'n eiddo i'r Senedd, yn cael ei brydlesu, ei feddiannu neu ei rentu ganddi (Ystad y Senedd) yn barhaol neu'n hirdymor (e.e. Tŷ Hywel, adeilad y Senedd, y Pierhead a Sarn Mynach).
At ddiben y cod hwn, diffinnir ymwelydd fel unrhyw un sy'n cael mynediad i ystad y Senedd ac nad yw'n ddeiliad tocyn achrededig na dilys i’r adeilad. Cyfeiriwch at y Polisi Ymddygiad Derbyniol i gael gwybod ynghylch disgwyliadau ymwelwyr, a gwefan gyhoeddus y Senedd i gael gwybodaeth am urddas a pharch yng ngweithgareddau’r Senedd.
Telerau Mynediad
Mae Comisiwn y Senedd yn mabwysiadu dull dim goddefgarwch mewn cysylltiad ag unrhyw ymddygiad annerbyniol. Ni fydd unrhyw ymddygiad sy'n bygwth diogelwch, urddas neu les staff, yr Aelodau neu ymwelwyr yn cael ei oddef. Mae'r hawl gan y Comisiwn i wrthod mynediad i ystad y Senedd, neu i symud unigolion oddi arni.
Mae'n rhaid i ymwelwyr:
gytuno i gydymffurfio â'n proses chwiliad diogelwch fel rhan o’n 'hamodau mynediad'. Mae hyn yn cynnwys sgrinio diogelwch, chwiliadau a sganio unrhyw eitemau y maent yn dymuno dod â hwy i ystad y Senedd. Bydd peidio â chydymffurfio â'n proses chwiliad fel rhan o’n 'hamodau mynediad' yn arwain at wrthod mynediad. I gael rhagor o
wybodaeth am ein proses chwiliad fel rhan o’n hamodau mynediad, gweler Atodiad B.
cytuno i adael eitemau gwaharddedig (neu unrhyw eitemau a nodwyd gan y staff diogelwch, yn ôl eu disgresiwn, fel rhai anaddas) wrth y mynedfeydd, gan nad yw'r rhain yn cael eu caniatáu ar ystad y Senedd yn unol â'r gweithdrefnau a nodir yn Adran 3. Gweler Atodiad A i weld rhestr o Eitemau Gwaharddedig.
gadael yr adeilad cyn i'r adeilad gau neu pan gyfarwyddir i chi wneud hynny gan staff y Comisiwn.
rhoi gwybod am unrhyw ymddygiad neu eitemau amheus i'r staff Diogelwch neu, os nad oes staff Diogelwch ar gael, unrhyw aelod o staff y Senedd.
dilyn unrhyw weithdrefnau gwacáu brys, er enghraifft, os bydd larwm tân yn canu.
rhoi gwybod am unrhyw ymddygiad annerbyniol gan gynnwys trais a/neu ymddygiad ymosodol.
dangos urddas, parch ac ystyriaeth i holl staff a defnyddwyr ystad y Senedd.
sicrhau, wrth fynd i mewn, symud o gwmpas, eistedd ynddynt, a gadael yr orielau cyhoeddus yn ystod busnes neu ddigwyddiadau’r Senedd, eu bod yn gwneud hynny’n dawel.
cydymffurfio â'r holl arwyddion a dilyn unrhyw gyfarwyddiadau rhesymol gan Staff y Senedd bob amser.
diffodd unrhyw offer electronig os bydd aelod o staff y Senedd yn gofyn ichi wneud hynny (yn ddarostyngedig i unrhyw addasiadau rhesymol pe bai angen defnyddio offer meddygol).
Ni chaniateir i ymwelwyr:
ymgymryd ag unrhyw ymddygiad annerbyniol gan gynnwys cam-drin, gwneud bygythiadau, trais a/neu ymddygiad ymosodol tuag at unrhyw staff neu ddefnyddwyr eraill yr adeilad. Mae rhagor o wybodaeth am ymddygiadau annerbyniol ar gael ym 'Mholisi Ymddygiad Annerbyniol' y Senedd.
dod ag unrhyw eitemau gwaharddedig neu eitemau y mae staff diogelwch wedi nodi eu bod yn anaddas i ystad y Senedd. Bydd unrhyw eitemau gwaharddedig a gyflwynir wrth gyrraedd yn cael eu cadw gan
staff Diogelwch wrth y dderbynfa (yn unol â'r gweithdrefnau a nodir yn adran 3 isod). Gweler Atodiad A i weld rhestr o Eitemau Gwaharddedig.
dod â bagiau mawr, siwtcesys ac eitemau mawr eraill. Caiff eitemau o'r fath eu cadw gan y staff diogelwch oni bai eu bod yn angenrheidiol at ddiben yr ymweliad ac wedi'u cymeradwyo'n ffurfiol ymlaen llaw, neu eu cymeradwyo gan y staff Diogelwch yn ôl eu disgresiwn ar y diwrnod.
dod â hylifau / diodydd agored i mewn. Am resymau iechyd a diogelwch, gofynnir i ymwelwyr sy'n dod i mewn i'r Senedd gyda diodydd sydd wedi'u hyfed yn rhannol mewn cynwysyddion agored orffen y diodydd hyn cyn mynd drwy'r broses ddiogelwch. Gofynnir i ymwelwyr sydd â chynhwysydd ailselio sy'n cynnwys diodydd gymryd ychydig o’r diod o'r cynhwysydd i’w yfed, i ddangos nad yw'n cynnwys unrhyw sylwedd gwenwynig na niweidiol.
Dim ond bwyd a diod a brynwyd o Gaffi'r Senedd neu a gyflenwir gan ddarparwr arlwyo penodedig y Senedd a ganiateir ei fwyta ar y safle. Mae eithriadau’n berthnasol ar gyfer dŵr potel, neu pan fo angen bwyd neu ddiod am resymau meddygol neu resymau crefyddol, i ddiwallu anghenion penodol babanod a phlant bach, neu pan fydd plant a phobl ifanc yn dod i’r Senedd fel rhan o ymweliad a drefnwyd ymlaen llaw yn dod â phecynnau bwyd ar gyfer cinio. Rhaid datgan unrhyw eithriadau o'r fath i'r Adran Diogelwch wrth gyrraedd. Gall trefniadau gwahanol fod yn berthnasol i gontractwyr; cyfeiriwch at yr adran ar Gontractwyr i gael rhagor o fanylion.
mynd ag unrhyw anifeiliaid ar y safle heblaw am anifeiliaid cynorthwyo hyfforddedig (gan gynnwys cŵn tywys) yn unol â'r ddyletswydd gyfreithiol i wneud addasiadau rhesymol (gweler y paragraff Anifeiliaid Cymorth o’r polisi hwn i gael rhagor o wybodaeth). Mae’n bosibl y bydd ymwelwyr yn gweld Cŵn Heddlu yn gweithredu ar yr ystad.
ymgymryd ag unrhyw weithgareddau a allai beryglu diogelwch y Senedd neu unrhyw un o'i rhanddeiliaid.
ymddwyn mewn ffordd sy'n tarfu ar drafodion, digwyddiadau neu weithgareddau ar ystad y Senedd. Enghraifft o hyn fyddai gwneud gormod o sŵn mewn oriel gyhoeddus yn ystod cyfarfod pwyllgor / Cyfarfod Llawn neu fod yn aflonyddgar mewn lleoliad digwyddiadau.
cymryd rhan mewn gwrthdystiad y tu mewn i unrhyw adeilad ar ystad y Senedd.
arddangos baneri, placardiau, sloganau, fflagiau, posteri, dillad neu eitemau tebyg yn groes i'r cod hwn. Gweler yr adran ar Weithdrefnau i gael rhagor o fanylion.
meddu ar neu arddangos unrhyw eitemau neu ymgymryd ag unrhyw gamau sy'n portreadu negeseuon o gasineb, cam-drin, iaith amhriodol, neu gynnwys annymunol—boed yn ysgrifenedig, wedi'i bortreadu mewn lluniau, neu wedi'i gyfleu drwy ddulliau eraill. Gweler yr adran ar Weithdrefnau i gael rhagor o fanylion.
defnyddio camerâu, offer recordio neu offer sain mewn ardaloedd cyfyngedig. Mae’r ardaloedd cyfyngedig yn cynnwys yr holl barthau diogelwch ac orielau cyhoeddus yn ystod trafodion y Senedd. Mae’n bosibl y caniateir gwneud recordiadau os cytunir ar hyn ymlaen llaw. Dim ond gweithgaredd recordio sydd wedi'i gymeradwyo ymlaen llaw a gaiff ei ganiatáu mewn ardaloedd cyfyngedig.
gadael unrhyw eiddo heb neb i ofalu amdano.
mynd i mewn yn fwriadol i ardaloedd sydd wedi'u dynodi'n glir fel 'dim mynediad' neu 'staff yn unig', neu sydd wedi'u cyfyngu fel arall, oni bai eu bod yn cael eu hebrwng gan gynrychiolydd e.e. staff y Senedd.
ymyrryd ag offer diogelwch, offer diogelwch personol neu offer gweithredol oni bai bod angen gwneud hynny mewn sefyllfa argyfwng.
difrodi neu ddifwyno unrhyw ran o ystad y Senedd
defnyddio mannau cyhoeddus ystad y Senedd at ddibenion codi arian neu er budd personol/masnachol heb ganiatâd ymlaen llaw gan Gomisiwn y Senedd.
yfed alcohol ar yr ystad oni bai eich bod yn bresennol mewn digwyddiad wedi'i drefnu lle mae alcohol wedi'i ddarparu. Wrth yfed alcohol fel rhan o ddigwyddiad, rhaid i bob ymwelydd wneud hynny'n gyfrifol a pharhau i ymddwyn mewn modd priodol yn unol â'r cod hwn.
ysmygu, anweddu na defnyddio e-sigaréts tra byddwch chi y tu mewn i unrhyw adeilad y Senedd.
Mae gan y Senedd yr hawl i:
wrthod mynediad i unigolion neu wahardd dod ag eitemau anaddas i'r ystad.
gwrthod mynediad i (neu ddiarddel) unrhyw un sy'n ymddwyn mewn ffordd y gellir ei hystyried yn amhriodol neu'n ymddwyn mewn ffordd a allai achosi braw neu ofid i eraill.
gwrthod mynediad i (neu ddiarddel) unigolion sydd neu sy'n ymddangos fel pe baent dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau.
gwrthod mynediad i (neu ddiarddel) unrhyw un nad yw ei ddillad yn cael eu hystyried yn briodol neu'n ddigonol. Gweler yr adran Dillad ac eitemau personol i gael rhagor o fanylion.
gofyn i unrhyw ymwelwyr sy'n ymddwyn yn amhriodol a/neu'n peryglu diogelwch eraill i adael. Mae tresmasu ar ystad y Senedd yn drosedd. Mae'r Senedd yn safle gwarchodedig o dan Adran 128 (Deddf Troseddu Cyfundrefnol Difrifol a'r Heddlu 2005).
rheoli uchafswm nifer yr ymwelwyr a ganiateir i'r adeilad ar un adeg, am resymau iechyd a diogelwch neu resymau gweithredol.
gwrthod mynediad i (neu ddiarddel) unigolion y gwyddys eu bod wedi torri'r cod hwn.
ymateb yn briodol i unrhyw bryderon diogelu sy'n ymwneud ag ymwelwyr ar yr ystad, gan gynnwys plant ac oedolion sydd mewn perygl, yn unol â'n polisïau a'n gweithdrefnau diogelu mewnol.
Gweithdrefnau
Eitemau na chânt eu caniatáu ar ystâd y Senedd:
Caiff eitemau gwaharddedig ac eitemau a nodir gan y staff diogelwch fel rhai sy'n anaddas ar gyfer ystâd y Senedd
eu cadw gan y staff diogelwch wrth y dderbynfa, am hyd yr ymweliad, a'u dychwelyd wrth i ymwelwyr ymadael; neu
eu cyfeirio at Uned Plismona'r Senedd (SPU) pan fo'n briodol.
Gweler Atodiad A i gael y rhestr lawn o eitemau gwaharddedig.
Mae penderfyniad y staff diogelwch ynghylch cadw, atafaelu, neu gyfeirio eitemau at Uned Plismona’r Senedd yn ôl eu disgresiwn hwy.
Gall Uned Plismona’r Senedd, yn unol â'i gweithdrefnau, gynnal ymchwiliadau pellach ar eitemau a gyfeirir at yr Uned, fel sy'n briodol. Gallant atafaelu a chadw'r eitem.
Eitemau gwaharddedig: Gwrthrychau miniog a llafnau ar Ystad y Senedd.
Mae gwrthrychau a llafnau miniog, ac eithrio eitemau miniog meddygol, e.e. nodwyddau rhagnodedig, wedi'u gwahardd ar ystad y Senedd oni bai bod rheolwyr Diogelwch wedi caniatáu hynny'n benodol.
Mae gwrthrychau miniog a gwrthrychau â llafn yn cynnwys, ond nid ydynt yn gyfyngedig i, gyllyll, cyllyll poced, sisyrnau, cyllyll cardiau a gwrthrychau â llafn sengl o unrhyw faint.
Caiff gwrthrychau miniog a gwrthrychau â llafn nad ydynt wedi'u cymeradwyo ymlaen llaw naill ai:
gael eu cadw ym mannau chwiliadau'r tîm diogelwch, i'w nôl pan fydd y perchennog yn gadael; neu
eu hamnewid, fel yr amlinellwyd yn yr adran ar grefydd a diwylliant ac Atodiad D.
Neu ei atafaelu
Mae gan staff diogelwch yr hawl i gadw pob eitem waharddedig am hyd yr ymweliad.
os bydd y staff diogelwch yn amau y gall cyllell fod yn anghyfreithlon oherwydd ei maint neu ei math, bydd y tîm yn gofyn am gyngor gan Uned Plismona’r Senedd. Caiff y gyllell ei thrin yn unol â'r weithdrefn a nodir isod.
Mae ystyriaethau’n weithrethol ar gyfer caniatáu rhai gwrthrychau miniog a llafnau ar ystad y Senedd os cânt eu cario:
fel rhan o wisg seremonïol os yw'r person ar ymweliad/swyddogaeth a drefnwyd ymlaen llaw a'i fod wedi cael cymeradwyaeth ymlaen llawn gan y tîm diogelwch (e.e. cleddyfau milwrol seremonïol).
gan gontractwyr neu aelodau'r cyhoedd ar gyfer tasg neu ddiben dilys mewn cysylltiad â'r grefft, y busnes neu'r gweithgarwch (yn ôl y digwydd) y maent yn ymweld ag ystad y Senedd mewn cysylltiad ag ef. Rhaid i hyn
gael ei awdurdodi gan randdeiliad mewnol, yr adran Diogelwch ac efallai y bydd angen rhywfaint o gliriad fetio.
at ddibenion crefyddol. Gellir caniatáu gwrthrychau miniog a llafnau sy'n ymwneud â chrefyddau a ffyddau yn amodol ar roi rhybudd ymlaen llaw i staff Diogelwch.
Contractwyr a digwyddiadau
Dylai unrhyw ddigwyddiad sy'n cynnwys rhanddeiliaid allanol a gaiff ei gynnal y tu allan i oriau agor cyhoeddus ystad y Senedd gynnwys rhestr westeion.
Rhaid i gontractwyr gael y cliriad diogelwch gofynnol cyn dechrau unrhyw waith ar ystad y Senedd.
Ni chaniateir i ymwelwyr ddefnyddio unrhyw offer ar ystad y Senedd oni bai bod Diogelwch y Senedd wedi cytuno ar ganiatâd.
Mae angen archebu eitemau sy'n cael eu danfon ar gyfer digwyddiadau ymlaen llaw ar gyfer chwiliad, drwy'r broses archebu chwiliadau diogelwch. Mae rhagor o wybodaeth ar gael gan swyddogion digwyddiadau’r Senedd.
Mae mynediad cerbydau i ystad y Senedd yn gyfyngedig. Mae mannau gollwng dynodedig ar gael ger adeilad y Senedd, Tŷ Hywel a’r Pierhead.
Gall contractwyr ac unigolion eraill sy'n gweithio ar y safle sydd â mynediad i Dŷ Hywel brynu bwyd o'r ffreutur ar y safle. Boed hynny yn Nhŷ Hywel neu yn y Senedd, pe dymunai unrhyw gontractwyr ddod â bwyd i’r safle, rhaid iddynt roi gwybod i’r Adran Diogelwch yn ystod y chwiliad sy’n rhan o’r Amodau Mynediad.
Mae rhagor o wybodaeth am gynnal digwyddiadau ar ystad y Senedd ar gael ar-lein:https://senedd.cymru/ymweld/cynnal-digwyddiad/
Dillad ac eitemau personol
Mae dillad (neu eitemau eraill) y mae staff diogelwch yn ystyried eu bod yn arddangos iaith, delweddau neu symbolau sarhaus, neu'n hyrwyddo gwahaniaethu neu drais wedi'u gwahardd yn llwyr. Yn yr un modd, mae unrhyw ddillad (neu eitemau eraill) sy'n portreadu casineb neu ymddygiad ymosodol sy'n cael eu hystyried yn fwriadol ymfflamychol, yn elyniaethus neu'n ddirmygus wedi’u gwahardd yn llwyr. Bydd y tîm diogelwch yn cynghori ymhellach ar sail bob achos.
Yn gyffredinol, caniateir dillad sy'n arddangos sloganau, logos, neu ddelweddau sy'n seiliedig ar faneri sy'n cefnogi achos neu fater penodol ar Ystad y Senedd. Fodd bynnag, mewn mannau sy’n agos at le y mae Busnes y Senedd yn cael ei gynnal (fel orielau gwylio cyhoeddus) dim ond symbolau bach o gefnogaeth a ganiateir (er enghraifft bathodynnau, pinnau llaped, bandiau arddwrn, neu laniardiau). Bob amser, mae unrhyw eitemau sy'n hyrwyddo casineb neu ymddygiad ymosodol, neu unrhyw gynnwys y gellid ystyried ei fod yn ymfflamychol, yn elyniaethus neu’n ddirmygus, wedi’u gwahardd yn llwyr.
Eithriadau ac Ystyriaethau
Anghenion crefyddol, diwylliannol, neu feddygol
Dylai ymwelwyr ag anghenion crefyddol, diwylliannol neu feddygol roi gwybod i’r tîm Diogelwch (ymlaen llaw) pan fo modd neu wrth gyrraedd) am gymorth yn ystod chwiliadau sy’n rhan o’r amodau mynediad.
Nid oes gofyn i ymwelwyr dynnu dillad crefyddol mewn mannau cyhoeddus; fodd bynnag, efallai y bydd angen sgrinio ychwanegol mewn amgylchiadau lle mae lefelau risg uwch yn galw am brosesau chwilio uwch. Cynhelir hyn gyda pharch at gredoau crefyddol, ac os oes angen tynnu dillad (e.e. esgidiau, gorchuddion pen) bydd hyn yn digwydd mewn man preifat gyda swyddogion o'r un rhyw â'r person sy'n cael ei chwilio.
Efallai y bydd angen edrych yn fanwl ar arteffactau crefyddol, fel gemwaith, pinau gwallt neu amwledi, dros dro at ddibenion diogelwch, gyda'r gofal a'r parch mwyaf i'w harwyddocâd.
Mae Kirpanau amgen ar gael fel y nodir yn atodiad D i'r cod hwn.
Mae cardiau fflach amlieithog ar gael ar gais ar gyfer cael cymorth ychwanegol.
Os yw ymwelydd yn niwroamrywiol, a bod ciwio a chael ei archwilio yn anodd, gallant siarad ag aelod o’r staff diogelwch a allai drefnu’ch bod yn mynd drwy’r ardal ddiogelwch yn gynt.
Os oes ymwelydd nad yw’n hoffi sŵn uchel iawn, bydd modd siarad ag aelod o’r staff diogelwch a allai drefnu bod golau yn hytrach na sain yn gweithredu pan ganfyddir deunydd metel wrth gynnal chwiliad ar yr unigolyn Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar ein tudalennau gwe am ymweld fel person niwroamrywiol yn: Pobl Niwroamrywiol
Ar gyfer ymwelwyr sy'n defnyddio cymhorthion anabledd fel (ond heb fod yn gyfyngedig i) cadeiriau olwyn neu gymhorthion cerdded, neu'r rhai sydd â rheolyddion calon neu fewnblaniadau meddygol, gellir defnyddio dull chwilio sy'n seiliedig ar risg ac sy'n llai ymwthiol, fel chwiliad gweledol neu chwiliad â llaw ac ati. Bydd y staff Diogelwch bob amser yn ystyriol o urddas a pharch yr ymwelydd wrth gynnal y chwiliadau hyn.
Anifeiliaid Cymorth
Caniateir anifeiliaid cymorth (fel cŵn tywys / cŵn cymorth) yn adeiladau'r Senedd yn unol â'r ddyletswydd gyfreithiol i wneud addasiadau rhesymol, i gynorthwyo unigolion ag anableddau. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn: Cŵn cymorth: canllaw i bob busnes | EHRC. Ni chaniateir i ymwelwyr ddod ag unrhyw anifeiliaid eraill gyda nhw i Ystad y Senedd, ac eithrio cŵn cymorth, oni bai bod eithriadau wedi'u cytuno ymlaen llaw ar gyfer amgylchiadau arbennig e.e. digwyddiad penodol.
Rhaid i anifeiliaid cymorth aros dan reolaeth y trinwr bob amser, naill ai ar dennyn neu mewn harnais. Mae'r trinwr yn gyfrifol am sicrhau lles yr anifail a bod yr anifail yn ymddwyn yn briodol. Teledu Cylch Cyfyng (CCTV)
Teledu Cylch Cyfyng (CCTV)
Mae'r Senedd yn gweithredu system deledu cylch cyfyng ar draws yr ystâd. Mae delweddau'n cael eu monitro a’u recordio at ddibenion atal troseddau a diogelwch y cyhoedd.
Rhagor o wybodaeth
Bydd rhannau allweddol o’r Cod hwn yn cael eu harddangos ym mhrif bwyntiau mynediad ymwelwyr, er mwyn sicrhau bod yr wybodaeth berthnasol yn hawdd i ymwelwyr ei gweld.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau am y Cod hwn, ei gymhwysiad neu i roi gwybod i ni am wrthdystiad arfaethedig, siaradwch ag aelod o'r tîm Rheoli Diogelwch neu anfonwch neges e-bost at cyswllt@senedd.cymru
At ddiben y Cod hwn mae 'Eitemau Gwaharddedig' yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, eitemau y gellid eu defnyddio fel arf, eitemau a allai achosi pryder neu ofn i randdeiliaid neu eitemau a allai achosi aflonyddwch i Fusnes y Senedd.
Yn eu plith mae:
Unrhyw ddrylliau neu ddrylliau ffug;
Unrhyw arfau, arfau ffug neu eitemau y gellid eu defnyddio fel arf.
Ffagliadau neu ynnau cychwyn;
Unrhyw ffrwydron, rocedi, tân gwyllt neu fwledi.
unrhyw fwa neu groesfwa neu unrhyw beth a all ryddhau ergyd farwol;
-Unrhyw arf o ba bynnag ddisgrifiad sydd wedi'i ddylunio neu wedi'i addasu i ryddhau unrhyw hylif, nwy neu unrhyw beth arall niweidiol;
Cyllyll, cleddyfau neu wrthrychau miniog neu wrthrychau eraill â llafn;
Siswrn, deunydd ysgrifennu neu unrhyw offer y gellid eu defnyddio fel arf (heb awdurdodiad ymlaen llaw gan y tîm diogelwch)
-Unrhyw eitem arall y gellid ei ddosbarthu fel arf ymosodol yn y ddeddfwriaeth gyfredol ar Atal Trosedd.
Mwg, pelenni mwg, 'bomiau drewllyd' a chaniau nwy.
sialc, pen pinau ffelt mawr, chwystrelli paent neu aerosol (oni bai eu bod yn angenrheidiol at ddibenion busnes ac wedi'u cymeradwyo ymlaen llawn neu gan aelod o dîm diogelwch y Cynulliad ar y dydd),
Unrhyw gyffuriau rheoledig fel y'u rhestrir yn y ddeddfwriaeth Camddefnyddio Cyffuriau sydd mewn grym (oni bai bod cyffuriau wedi'u rhagnodi, neu eu bod yn cael eu defnyddio fel arall yn unol â chyngor gan weithiwr meddygol proffesiynol perthnasol).
Alcohol.
unrhyw gemegion peryglus neu bowdrau neu wenwynau niweidiol; Mae hyn yn cynnwys unrhyw gemegyn neu bowdr sydd i fod i efelychu sylwedd peryglus neu achosi pryder.
Offer sy'n gysylltiedig â phrotest gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i arwyddion, baneri, fflagiau, placardiau, sloganau, posteri, chwibanau, cyrn, clacsonau.
Gosodiadau sy'n gysylltiedig â phrotestiadau gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i dâp plastig, rhaff, clymau cebl neu gefynnau.
Unrhyw eitemau sy'n arddangos negeseuon o gasineb, cam-drin, iaith amhriodol, neu gynnwys annymunol—boed wedi'u hysgrifennu, wedi'u darlunio mewn delweddau, neu wedi'u cyfleu drwy ddulliau eraill
Balŵnau.
Tortshis neu declynnau bach laser.
Atodiad B: Chwiliad fel rhan o’r amodau mynediad
Mae pob ymwelydd yn destun chwiliad 'amodau mynediad' wrth fynd i mewn i ystad y Senedd. I blant a phobl ifanc, cynhelir unrhyw chwiliad gyda chydsyniad ac ym mhresenoldeb oedolyn priodol, gan gynnwys y rhai sy'n gweithredu mewn rôl gofalwyr.
Y prif ddull o chwilio sy’n rhan o amod mynediad yw sgan gan ddefnyddio gwialen llaw gan swyddog Diogelwch. Cynhelir y broses hon heb gyswllt corfforol bwriadol. Er mwyn galluogi sgan effeithiol, efallai y gofynnir i ymwelwyr dynnu haenau allanol o ddillad, gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i) cotiau, siacedi, menig, penwisgoedd, neu esgidiau. Pan fydd yr ymwelydd yn gofyn, mae modd i unrhyw eitemau o'r fath gael eu tynnu mewn man preifat.
Fel rhan o'r amod chwilio mynediad, gall unrhyw aelod o staff Diogelwch sganio unrhyw ymwelydd â llaw, oni bai bod yr ymwelydd yn gofyn yn benodol bod chwiliad o'r fath yn cael ei gynnal gan rywun sy'n cyfateb i'w hunaniaeth rhywedd eu hunain. Gallai cais o'r fath fod am amrywiaeth o resymau gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, ddiwylliant, crefydd, hunaniaeth rhywedd, hanes personol, trawma neu ddewis syml yr ymwelydd. Ni fydd aelod o staff Diogelwch Comisiwn y Senedd yn gofyn am y rheswm dros wneud hyn, a dylai fodloni'r cais pryd bynnag y bo modd.
Bydd unrhyw eitemau gwaharddedig a nodir yn ystod y broses hon yn cael eu cadw yn unol â'r cod hwn.
Bydd methu â chydymffurfio â'r amodau a nodir yn y cod ymddygiad ymwelwyr a'r drefn chwilio o ran Amodau Mynediad yn arwain at wrthod mynediad.
Bydd unrhyw ymgais fwriadol i osgoi'r broses neu ddod ag eitemau gwaharddedig i'r ystad yn arwain at wrthod mynediad.
Rhaid trafod unrhyw eithriadau i'r drefn chwilio 'amod mynediad' ymlaen llaw gyda'r tîm rheoli diogelwch.
Mae'r Senedd yn cydnabod y gallai fod angen ystyried anghenion crefyddol, anghenion meddygol neu anghenion sensitif eraill mewn rhai amgylchiadau. Yn yr achosion hyn, dylai ymwelwyr roi gwybod i'r staff diogelwch am eu gofynion.
Rhaid trefnu unrhyw eitemau sydd eu hangen ar gyfer digwyddiad, swyddogaeth, cyfarfod neu gynulliad arall ymlaen llaw gyda'r adran ddiogelwch er mwyn sicrhau y gellir rhoi'r trefniadau chwilio priodol ar waith. Yn dibynnu ar yr eitemau sydd eu hangen ac amgylchiadau'r digwyddiad, efallai y codir tâl am chwilio.
Rhaid trafod unrhyw ofynion arbennig mewn perthynas ag ymweliadau gyda'r tîm Rheoli Diogelwch cyn yr ymweliad er mwyn rhoi ystyriaeth briodol i'r trefniadau.
Mae gan y Senedd yr hawl i wrthod mynediad i eitemau nad ydynt yn cael eu hystyried yn ddiogel neu'n addas yn ôl disgresiwn y staff diogelwch.
Mae Chwiliadau o ran Amodau Mynediad yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:
Chwiliad llawn o'r ymwelydd. Bydd angen tynnu cotiau allanol, siacedi, hetiau, gemwaith, oriorau a gwregysau ar gyfer y chwiliad hwn.
Chwilio unrhyw eitemau y mae'r ymwelydd yn eu cario, fel bagiau, cotiau, gwregysau, cymhorthion cerdded, ymbarelau, cadeiriau gwthio neu unrhyw offer arall sy'n cael ei gario neu ei ddefnyddio gan yr ymwelydd.
Pan fydd gan ymwelwyr ganiatâd mynediad i gerbydau wedi'i drefnu ymlaen llaw, bydd cerbydau ac unrhyw eitemau yn y cerbyd hefyd yn destun chwiliad diogelwch cynhwysfawr
Gall dulliau chwilio gynnwys, ond nid ydynt yn gyfyngedig, i:
Ddefnyddio sganiwr pelydr-x.
Defnyddio gwialen canfod metel llaw.
Chwilio corfforol o berson (gan aelod o staff diogelwch sydd wedi'i hyfforddi'n briodol).
Chwilio corfforol o fag neu eitemau eraill.
Chwilio gan yr heddlu (gan gynnwys defnyddio cŵn arbenigol).
Defnyddio offer chwilio fel drychau neu gamerâu.
Atodiad C: Gwrthdystiadau
Gwrthdystiadau allanol ar ystad y Senedd
Mae gwrthdystiadau yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, brotestiadau unigol, protestiadau grŵp, cynulliadau, ralïau, gorymdeithiau, streiciau newyn a gwylnosau.
Mae'r Senedd yn credu yn egwyddor sylfaenol rhyddid mynegiant. Mae'r Senedd yn croesawu, a bydd yn cymryd camau rhesymol i hwyluso, gwrthdystiadau cyfreithlon a heddychlon ar ei hystad.
Diben y rheolau yn y Cod hwn yw sicrhau y caiff gwrthdystiadau o'r fath eu cynnal mewn ffordd nad ydynt yn tarfu ar:
Fusnes y Senedd,
Hawliau, diogelwch a lles staff y Senedd,
Hawliau, diogelwch a lles holl ddefnyddwyr yr ystad.
Anogir trefnwyr gwrthdystiadau arfaethedig i gysylltu â'r Senedd i drafod trefniadau addas a chytuno arnynt.
Ni all gwrthdystiadau bara'n hirach na diwrnod gwaith.
Caniateir cynnal gwrthdystiadau y tu allan i adeiladau’r Senedd os ydynt yn gyfreithlon ac yn cydymffurfio â’r rheolau a nodir yn y Cod Ymddygiad hwn.
Ni ddylai protestwyr aflonyddu, bygwth nac ymosod ar unrhyw staff / y cyhoedd, na defnyddwyr eraill yr adeilad sy'n mynd heibio'r gwrthdystiad.
Ni ddylai cyfranogwyr ym mhob gwrthdystiad a gynhelir ar draws Ystad y Senedd ymyrryd â busnes y Senedd na tharfu arno.
Ni ddylai gwrthdystwyr rwystro mynediad na’r allanfa o ran safle'r Senedd i eraill, ac osgoi peryglu eich diogelwch neu'ch lles eich hun neu ddiogelwch neu lesiant unrhyw un arall.
Rhaid i wrthdystwyr ymgynnull, aros a gwasgaru mewn modd trefnus.
Dim ond gyda chaniatâd ysgrifenedig cynrychiolydd dynodedig o'r Senedd y caniateir defnyddio offer chwyddo sain. Pan gaiff caniatâd ei roi, mae'n rhaid i'r offer gael ei gyfeirio oddi wrth adeiladau'r Senedd, ac ni ddylid ei ddefnyddio mewn ffordd sy'n tarfu ar y gweithgareddau ar yr ystad.
Gall Uned Heddlu’r Senedd neu staff diogelwch gyfyngu ar wrthdystiad a’i gadw i ardal benodol. Mae'n rhaid i gyfranogwyr barchu unrhyw geisiadau neu rwystrau a osodir at y diben hwn.
Ni chaniateir i allanfeydd tân o adeiladau'r Senedd gael eu rhwystro.
Ni chaniateir ysgrifennu, llunio, peintio, marcio na gosod arwyddion, baneri, placardiau, sloganau na phosteri ar unrhyw ran o ystad y Senedd.
Ni chaniateir codi unrhyw strwythur (gan gynnwys unrhyw babell neu gysgodfa arall) ar unrhyw ran o ystad y Senedd.
Caiff unrhyw unigolyn sy'n cynnal 'Streic Newyn' fel rhan o wrthdystiad ei drin yn unol â phrotocolau Streic Newyn y Senedd a all gynnwys gwrthod mynediad i adeiladau'r Senedd.
Ni ddylid defnyddio cerbydau fel rhan o wrthdystiad. Ni ddarperir cyfleusterau parcio ar gyfer gwrthdystwyr.
Os yw ymwelydd wedi cymryd rhan mewn gwrthdystiad ar ddiwrnod penodol, byddant yn parhau i gael eu hystyried yn wrthdystiwr am weddill y diwrnod hwnnw, a byddant yn ddarostyngedig i amodau mynediad cyfyngedig.
Fel arfer, ni chaniateir fflamau noeth (gan gynnwys tanau a chanhwyllau) ar ystad y Senedd. Noder bod dewisiadau amgen i ganhwyllau sy'n cael eu pweru gan fatris yn dderbyniol. Mae rhagor o gyngor ar gael gan cyswllt@senedd.cymru.
Ni chaniateir marcio arwynebau’n fwriadol ar ystad y Senedd a gallai arwain at erlyniad troseddol yn unol â’r gyfraith berthnasol.
Bydd peidio â chydymffurfio â'r rheolau yn y Cod hwn yn golygu y gall fod angen diddymu'r caniatâd i gynnal y gwrthdystiad ar ystad y Senedd, ac felly gellid gofyn i wrthdystwyr adael. Os byddant yn gwrthod gwneud hynny, cânt eu hystyried fel tresmaswyr. Mae gan y Senedd yr hawl i gymryd camau cyfreithiol priodol i gael gwared ar unrhyw dresmaswyr o ystad y Senedd. Mae tresmasu ar ystad y Senedd yn drosedd. Mae'r Senedd yn safle gwarchodedig o dan Adran 128 o Ddeddf Troseddu Cyfundrefnol Difrifol a'r Heddlu 2005.
Mynediad i'r adeilad ar gyfer gwrthdystwyr
Ni chaniateir cynnal gwrthdystiadau y tu mewn i unrhyw un o adeiladau'r Senedd.
Er mwyn cynnal diogelwch a sicrhau nad oes dim tarfu ar fusnes y Senedd, dim ond grŵp cyfyngedig o gynrychiolwyr o wrthdystiad fydd yn cael mynd i mewn i'r Senedd.
Fel rheol gyffredinol, ni ddylai grŵp fod yn fwy na 6 o bobl ar unrhyw un adeg, fodd bynnag, bydd hwn yn benderfyniad sy’n seiliedig ar risg ac yn ôl disgresiwn y Pennaeth Diogelwch (neu rywun arall a ddirprwywyd iddo). Diogelwch a sicrwydd defnyddwyr yr adeilad a'r gofyniad i sicrhau parhad busnes fydd y brif ystyriaeth a gaiff flaenoriaeth bob amser.
Pan fydd gwrthdystiad wedi gwasgaru, bydd yr holl gyfranogwyr yn parhau i gael eu hystyried yn wrthdystwyr am weddill y dydd, felly byddant yn ddarostyngedig i amodau mynediad cyfyngedig.
Atodiad D: Kirpanau
Rhaid i ymwelwyr sy’n cario Kirpan roi eu Kirpan i’r Adran Diogelwch, a fydd yn darparu Kirpran priodol yn ei le am hyd cyfnod eu hymweliad. Mae’r Kirpanau sydd gan y Senedd wedi cael eu darparu gan y Gurdwara lleol.
Gofynnir i bob ymwelydd roi ei enw a'i fanylion cyswllt fel y gall y tîm Diogelwch gysylltu os na chaiff y Kirpan ei gyfnewid yn ôl ar ddiwedd yr ymweliad.
Caiff Kirpanau eu trin â pharch, eu labelu'n glir a'u storio'n ddiogel gan y tîm Diogelwch.
Cyn ymadael â’r adeilad, mae'r ymwelwyr yn gyfrifol am gasglu eu Kirpan a llofnodi i gadarnhau derbyn a dychwelyd y Kirpan a amnewidiwyd.