Y cymorth sydd ar gael i chi: Os bydd honiad wedi'i wneud yn eich erbyn ac rydych chi'n gweithio yn y Senedd

Cyhoeddwyd 03/11/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 03/11/2020   |   Amser darllen munud

Rydym yn cydnabod y gallai fod angen cymorth arnoch chi. Mae canllaw isod i’ch cynorthwyo a’ch cefnogi os byddwch byth yn y sefyllfa hon. Rydym yn eich annog i siarad â rhywun

Os ydych yn teimlo y byddai’n gwneud lles i chi gael cymorth meddygol, cysylltwch â’ch meddyg teulu, neu Nyrs Iechyd Galwedigaethol y Senedd drwy’r tîm Cymorth Busnes i’r Aelodau neu adran Adnoddau Dynol Comisiwn y Senedd.

Mae’r Rhaglen Cymorth i Weithwyr, ar 0800 174 319 ar gael i Aelodau’r Senedd, staff a gyflogir gan Aelodau’r Senedd a’r grwpiau gwleidyddol, a staff Comisiwn y Senedd. Bydd cynghorwyr hyfforddedig yn rhoi cymorth ac arweiniad emosiynol i chi.

Efallai y byddwch yn teimlo bod angen cymorth wyneb yn wyneb arnoch i’ch helpu’n emosiynol yn ystod ymchwiliad i gŵyn. Rhowch wybod i ni os hoffech i ni wneud trefniadau o’r fath.

Cymorth arall sydd ar gael

Staff a gyflogir gan Gomisiwn y Senedd:

  • Eich adran Adnoddau Dynol; cynrychiolydd yr undeb llafur; cydweithiwr neu reolwr

Staff a gyflogir gan Aelodau o’r Senedd neu’r grwpiau gwleidyddol:

  • Cymorth Busnes i’r Aelodau; eich cyflogwr, cydweithiwr neu reolwr; cynrychiolydd yr undeb llafur; eich Rheolwr Busnes neu’ch plaid wleidyddol.

Aelodau o’r Senedd:

  • Cymorth Busnes i’r Aelodau; eich Rheolwr Busnes neu’ch plaid wleidyddol; cynrychiolydd yr undeb llafur

Contractwyr sy’n gweithio i’r Senedd:

  • efallai bod gennych eich rhaglen gymorth eich hun i gyflogeion; cynrychiolydd yr undeb llafur; rheolwr, cydweithiwr neu eich adran Adnoddau Dynol eich hun.

Cymorth pellach

Mae’r Samariaid ar gael i’ch helpu os ydych chi’n teimlo iselder, yn teimlo bod pethau’n mynd yn ormod neu’n cael teimladau negyddol. Nid ydynt yn helpu gyda theimladau o hunanladdiad yn unig, ond os ydych chi’n cael y teimladau hyn rydym yn eich argymell yn gryf i gysylltu â nhw ar unwaith. Y rhif ffôn yw 116 123 ac mae staff ar gael 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos.

I gael trafodaeth breifat am unrhyw un o’r materion hyn, cysylltwch â’r canlynol:

  • Pennaeth Cymorth Busnes i’r Aelodau ar 0300 200 6241 
  • Pennaeth Adran Adnoddau Dynol Comisiwn y Senedd ar 0300 200 6461