Datganiad Hygyrchedd - Umbraco

Cyhoeddwyd 17/12/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau

Fersiwn 5.0

Mae Comisiwn y Senedd (y 'Comisiwn', 'ni'), ar ran Senedd Cymru (y 'Senedd'), wedi ymrwymo i wneud gwefannau'r Senedd yn hygyrch fel y gall cynifer o bobl â phosibl eu defnyddio, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018.

 

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn gymwys i wefannau canlynol y Senedd y maent oll yn rhannu llwyfan cyffredin a threfniant dyluniad sylfaenol:

Ceir datganiadau ar wahân ar gyfer gwefannau eraill Senedd Cymru, gan gynnwys:

Cynhelir y gwefannau hyn gan y Comisiwn, ar ran y Senedd. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r gwefannau hyn. Er enghraifft, mae hynny’n golygu y dylech allu:

  • Newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau;
  • Chwyddo hyd at 400% heb i'r testun fynd oddi ar y sgrin;
  • Llywio’r rhan fwyaf o’r wefan drwy ddefnyddio bysellfwrdd yn unig;
  • Llywio’r rhan fwyaf o'r wefan drwy ddefnyddio meddalwedd adnabod llais, heblaw am weithredu rhai hidlyddion ar y dudalen 'Chwilio';
  • Gwrando ar y rhan fwyaf o'r wefan drwy ddefnyddio rhaglen darllen sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver).

Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws i'w defnyddio os oes gennych anabledd.

Beth rydyn ni'n ei wneud i wella hygyrchedd

  • Mae adrannau ar draws y Comisiwn yn rhoi datganiadau sicrwydd blynyddol, gan amlinellu’r gwaith y maent yn ei wneud i wella hygyrchedd.
  • Mae canllawiau sylfaenol ar gyfer derbyn dogfennau trydydd parti i'w cyhoeddi wedi'u rhoi ar waith. Rhannwyd y canllawiau hyn yn rhagweithiol â'n darparwyr dogfennau rheolaidd a chânt eu rhannu ag eraill yn ôl yr angen.
  • Mae holl olygyddion gwe'r Comisiwn yn cael hyfforddiant sylfaenol ar hygyrchedd gwe fel rhan o'r cyfnod cynefino i'r rôl hon. Cynigir rhagor o hyfforddiant hygyrchedd i'r rhai y mae eu rolau’n cynnwys gwaith datblygu technegol a nodweddion ar gyfer ein gwefan.
  • Mae’r holl gynnwys fideo newydd a ddarperir ar gyfer ein sianeli cyfryngau cymdeithasol yn cael ei gyhoeddi gydag isdeitlau.
  • Rydym wedi datblygu ac yn parhau i ddatblygu ein hasedau i ymgysylltu â chynulleidfaoedd amrywiol.
  • Bydd archwiliad hygyrchedd newydd yn cael ei gynnal cyn 30 Ebrill 2024. Bydd canfyddiadau'r archwiliad hwn yn cael eu hadolygu, a bydd argymhellion ar gyfer gwelliannau pellach yn cael eu gweithredu.

Adborth a Manylion Cyswllt

Cyrchu cynnwys mewn fformat hygyrch

Os oes angen gwybodaeth arnoch am y wefan hon mewn fformat gwahanol fel PDF hygyrch, print bras, hawdd ei ddarllen, recordiad sain neu braille:

  • Anfonwch neges e-bost at cysylltu@senedd.cymru
  • Ffoniwch 0300 200 6565
  • Ysgrifennwch atom yn Senedd Cymru, Bae Caerdydd CF99 1SN

Byddwn yn ystyried eich cais ac yn cysylltu â chi o fewn pum diwrnod gwaith.

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda'r wefan hon

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu os ydych yn credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â ni drwy ddefnyddio'r ffurflen gyswllt neu anfonwch neges e-bost atom: cysylltu@senedd.cymru.

Gweithdrefn Orfodi

Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol sy’n gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y 'rheoliadau hygyrchedd'). Os nad ydych yn fodlon ar y ffordd rydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â'r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Cydraddoldeb (EASS)

Cysylltu â ni dros y ffôn neu ymweld â ni'n bersonol

Rydym yn darparu gwasanaeth Text Relay i bobl sy'n fyddar, â nam ar eu clyw neu sydd â nam ar eu lleferydd.

Mae gan dderbynfeydd ein hadeiladau a swyddfeydd, gan gynnwys yn adeilad y Senedd, adeilad y Pierhead, Tŷ Hywel a’n swyddfeydd yng Ngogledd Cymru ddolenni sain a gallwn hefyd ddarparu dolenni sain personol sy'n gweithio gyda'n systemau cyfieithu sain yn yr adeiladau hyn a phan fydd ein pwyllgorau'n cyfarfod o bell. Os byddwch yn cysylltu â ni cyn eich ymweliad gallwn drefnu dehonglydd Iaith Arwyddion Prydain (BSL) fel rheol. Mae’r arwyddion yn ein hadeiladau ar gael mewn braille ac rydym yn croesawu cŵn cymorth.

Ceir rhagor o wybodaeth am hygyrchedd ein hadeiladau a'n cyfarfodydd ar https://senedd.cymru/hygyrchedd.

Cewch wybod sut i gysylltu â ni ar https://senedd.cymru/cysylltu

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd ein gwefannau 

Rydym wedi ymrwymo i wneud gwefannau’r Senedd yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Rhaglenni Ffonau Symudol) (Rhif 2) 2018.

Statws cydymffurfio

Mae'r wefan hon yn cydymffurfio'n rhannol â’r Canllawiau ar Hygyrchedd y We fersiwn 2.1 Safon AA, oherwydd y diffyg cydymffurfio a'r eithriadau a restrir isod.

Rydym yn ymdrechu i gydymffurfio â’r safon AA erbyn diwedd 2024 ar gyfer yr holl gynnwys gweithredol a gynhyrchir yn fewnol gan y Senedd.

Pa mor hygyrch yw'r wefan hon

Gwyddom nad yw rhai rhannau o'r wefan hon yn gwbl hygyrch:

  • Nid yw priodoleddau testun amgen yn bresennol ar gyfer rhai delweddau y rhoddir lincs iddynt
  • Nid yw defnyddwyr Dragon Naturally Speaking yn gallu rhyngweithio â rhai opsiynau hidlo chwilio
  • Yr hysbysiad cwcis weithiau yw'r elfen olaf yn y drefn tabio
  • Cyhoeddir rhywfaint o gynnwys ddwywaith wrth ddefnyddio meddalwedd darllen sgrin

Cynnwys nad yw'n hygyrch

Nid yw'r cynnwys a restrir isod yn hygyrch am y rhesymau a ganlyn.

Dogfennau a ddarperir gan drydydd parti:

Mae’r Senedd yn cael dogfennau a gynhyrchir gan gyrff allanol y mae’n rhaid i ni, mewn llawer o achosion, eu derbyn i’w cyhoeddi. Er ein bod yn cynghori'r cyrff hyn ar hygyrchedd eu cyflwyniadau, dan yr amgylchiadau hyn mae'n rhaid inni gyhoeddi'r deunyddiau fel y'u cafwyd. Mae hyn yn rhywbeth rydym yn ymdrechu i'w wella gyda dulliau gwell o dderbyn dogfennau a geir gan gyrff allanol.

  • Ni ddarperir enwau hygyrch na'u rhoi yn anghywir i'r rhan fwyaf o gynnwys nad yw'n destun fel delweddau addurniadol, delweddau y mae lincs iddynt, meysydd a botymau mewnbynnu ffurflenni. Mae hwn yn fethiant ar ran maen prawf llwyddiant 1.1.1 cynnwys nad yw’n destun WCAG 2.1.
  • Mae problemau cyferbyniad yn bresennol mewn dogfennau PDF. Mae hwn yn fethiant ar ran maen prawf llwyddiant 1.4.3 cyferbyniad (isafswm) WCAG 2.1.
  • Ni ddarperir dewisiadau amgen ar gyfer cynnwys nad yw’n destun yn gywir ar gyfer PDFs. Nid oes gan ddelweddau a ffigurau oddi mewn werth testun amgen, ac nid yw cynnwys arall nad yw'n destun wedi'i dagio. Mae hwn yn fethiant ar ran maen prawf llwyddiant 1.1.1 cynnwys nad yw’n destun WCAG 2.1.
  • Nid yw strwythurau rhestrau a thablau mewn PDFs wedi'u marcio mewn ffordd sy'n eu hamlygu i dechnolegau cynorthwyol. Mae hwn yn fethiant ar ran maen prawf llwyddiant 1.3.1 gwybodaeth a pherthynas WCAG 2.1.
  • Nid yw nodau tudalen PDF yn gyfochrog â strwythur y ddogfen. Mae hwn yn fethiant ar ran maen prawf llwyddiant 2.4.1 blociau osgoi WCAG 2.1.
  • Nid yw iaith dogfennau PDF wedi'i diffinio; gall hyn ddylanwadu ar y ffordd y mae meddalwedd darllen sgrin yn cyhoeddi testun. Mae hwn yn fethiant ar ran maen prawf llwyddiant 3.1.1 iaith y dudalen WCAG 2.1.

Ar hyn o bryd rydym yn treialu prosesau newydd gyda’r darparwyr trydydd parti sy’n anfon y rhan fwyaf o’r dogfennau PDF hyn i sicrhau eu bod yn bodloni ein meini prawf hygyrchedd pan fyddant yn cyflwyno dogfennau i ni i’w cyhoeddi.

Materion eraill:

  • Mae rhai o'n dogfennau PDF a Word yn hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau. Rydym wrthi’n gwella hygyrchedd y rhain neu’n disodli'r rhain â HTML lle y mae hynny'n bosibl.
  • Mae diffyg testun amgen ar rai delweddau. Rydym yn gweithio i sicrhau bod testun amgen ar gael ar ddelweddau newydd a gyhoeddir gennym drwy roi arweiniad a hyfforddiant i staff lle bo angen. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 1.1.1 WCAG 2.1.
  • Nid yw disgrifiadau sain yn bresennol ar gyfer fideos a recordiwyd ymlaen llaw. Ar hyn o bryd nid ydym yn rhoi disgrifiad sain o gynnwys ein fideos a recordiwyd ymlaen llaw fel mater o drefn. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant 1.2.3 Disgrifiad Sain neu Gyfrwng Amgen (Wedi'i recordio ymlaen llaw). Rydym yn archwilio opsiynau o ran sut i wneud hyn yn bosibl drwy ein platfform cynnwys ar-alw, Senedd TV.
  • Nid yw trawsgrifiad testun yn bresennol yn gyson ar bob fideo a recordiwyd ymlaen llaw. Mae fideos byr sydd wedi'u hymgorffori yn y wefan drwy YouTube ar ôl 2019 yn cynnwys is-deitlau, ac mae trawsgrifiadau testun ar gyfer y fideos hyn ar gael ar gais.
  • Ar hyn o bryd rydym yn archwilio sut y gallwn ddarparu capsiynau ar y sgrin ar gyfer cynnwys Senedd TV. Ar hyn o bryd mae capsiynau awtomatig yn bosibl drwy borwyr Google Chrome a Microsoft Edge, fodd bynnag, dim ond yn Saesneg y mae'r gwasanaeth hwn ar gael ar hyn o bryd. Mae trawsgrifiadau cyfarfodydd ar gael ar gyfer cyfarfodydd Pwyllgor y Senedd a’r Cyfarfod Llawn a oedd wedi’u ffrydio’n fyw yn flaenorol drwy’r Cofnod.

Eithriadau

I ddechrau, aseswyd y canlynol fel rhai nad oeddent yn cydymffurfio ond rydym o’r farn bod y cynnwys wedi'i eithrio o ofynion WCAG 2.1:

Y Gymraeg

Nid yw’r testun Cymraeg wedi'i ddiffinio'n gywir, a all achosi i raglenni darllen sgrin gyhoeddi cynnwys yn anghywir. Mae hwn yn fethiant ar ran maen prawf llwyddiant 3.1.2 iaith rhannau WCAG 2.1.

    1. Mae'r methiant hwn a aseswyd yn ymwneud â defnydd y Senedd o eiriau â tharddiad Cymraeg fel ‘Senedd’, ‘Neuadd’, ‘Cwrt’, ‘Cofnod’ a ‘Llywydd’.
    2. Mae'r Senedd yn trin y geiriau/ymadroddion hyn fel “enw priod” a “rhan o iaith frodorol” Saesneg ac, felly, nid oes angen eu marcio ar wahân fel testun Cymraeg ar dudalen Saesneg.
    3. Yn y sefyllfa hon credwn fod y geiriau hyn wedi'u heithrio o'r gofyniad hwn gan y dylid eu hystyried yn rhan o'r testun Saesneg ar y dudalen.
    4. Pan brofwyd tudalennau a oedd yn cynnwys y geiriau hyn drwy ddefnyddio meddalwedd darllen sgrin JAWS, darllenwyd y rhan fwyaf o'r geiriau hyn yn llwyddiannus gan y llais Saesneg diofyn. Yr unig eithriad oedd ‘Cwrt’, y gwnaeth y feddalwedd ei sillafu i'r defnyddiwr.

Baich anghymesur

Mae ein gwefan yn cynnwys dogfennau archif PDF sy'n rhan o gofnod cyhoeddus Busnes y Senedd. Mae'n bosibl na fydd y dogfennau hyn yn bodloni safonau hygyrchedd presennol. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 4.1.2 (enw, gwerth rôl) WCAG 2.1.

Oherwydd nifer y dogfennau, ni fyddai'n ymarferol eu diwygio. Rydym wedi cynnal Asesiad Baich Anghymesur yn egluro ein rhesymau dros hyn.

Os bydd angen i ni ailwampio'r wybodaeth hon ar unrhyw adeg byddwn yn sicrhau bod unrhyw allbynnau newydd sy'n seiliedig ar y wybodaeth hon mor hygyrch ag y mae'r data gwreiddiol yn caniatáu.

Cynnwys nad yw o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd

Ffeiliau PDF a dogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018.

Nid yw’r rheoliadau hygyrchedd yn ei gwneud yn ofynnol i ni drwsio ffeiliau PDF neu ddogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018 os nad ydynt yn hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau parhaus.

Er enghraifft, mae llawer o’n dogfennau archif yn rhan o’r cofnod cyhoeddus o Fusnes y Senedd a gynhaliwyd cyn 23 Medi 2018. Fodd bynnag, ni fyddai’n briodol diweddaru’r dogfennau hyn i fodloni’r safonau presennol gan eu bod yn adlewyrchu’r wybodaeth fel yr oedd ar gael ar yr adeg honno.

Cyfryngau seiliedig ar amser wedi'u recordio ymlaen llaw

Nid yw trawsgrifiad testun yn bresennol yn gyson ar bob fideo a recordiwyd ymlaen llaw. Mae cyfryngau seiliedig ar amser wedi’u recordio ymlaen llaw, fel sain a fideo, a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2020 wedi’u heithrio rhag bodloni’r rheoliadau hygyrchedd.

Ar hyn o bryd rydym yn archwilio sut y gallwn ddarparu capsiynau ar y sgrin ar gyfer cynnwys Senedd TV. Ar hyn o bryd mae capsiynau awtomatig yn bosibl drwy borwyr Google Chrome a Microsoft Edge, fodd bynnag, dim ond yn Saesneg y mae'r gwasanaeth hwn ar gael ar hyn o bryd.

Fideo byw

Mae fideo byw wedi'i eithrio rhag bodloni'r rheoliadau hygyrchedd.

Paratoi'r datganiad hygyrchedd hwn

Paratowyd y datganiad hwn ar 8 Rhagfyr 2020. Cafodd ei adolygu ddiwethaf ar 4 Mawrth 2024.

Ym mis Hydref 2023, cynhaliodd Gwasanaeth Digidol Llywodraeth y DU archwiliad o sampl cynrychioliadol o’n tudalennau, ac o’r sampl hwnnw cafodd nifer o faterion hygyrchedd cyffredin eu nodi a’u trwsio.

Rydym wedi comisiynu archwiliad hygyrchedd newydd ar gyfer y wefan a fydd yn cael ei gynnal cyn 30 Ebrill 2024. Yn dilyn hyn, bydd y datganiad hwn yn cael ei ddiweddaru.

Gwnaethom ddefnyddio'r dull a ganlyn i benderfynu ar y sampl o dudalennau i’w profi - WCAG-EM.