Fersiwn 4.0
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn gymwys i wefannau canlynol y Senedd y maent oll yn rhannu llwyfan cyffredin a threfniant dyluniad sylfaenol:
- senedd.cymru | senedd.wales
- ymchwil.senedd.cymru | research.senedd.wales
- seneddieuenctid.cymru | youthparliament.wales
Ceir datganiadau ar wahân ar gyfer gwefannau eraill Senedd Cymru, gan gynnwys:
- deisebau.senedd.cymru | petitions.senedd.wales
- busnes.senedd.cymru | business.senedd.wales
Er bod llawer o broblemau a ganfuwyd yn ystod y gwaith profi wedi'u nodi yn y ddogfen ganlynol fel rhai sydd wedi'u datrys, rydym wrthi’n asesu'r gwaith sy'n ofynnol i ddatrys y problemau sy'n weddill a nodi amserlen i wneud y gwaith hwn.
Senedd Cymru sy'n rheoli’r gwefannau hyn. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r gwefannau hyn. Er enghraifft, mae hynny’n golygu y dylech allu:
- newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau
- chwyddo hyd at 300 y cant heb i'r testun fynd oddi ar y sgrin
- llywio’r rhan fwyaf o’r wefan drwy ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
- llywio’r rhan fwyaf o'r wefan drwy ddefnyddio meddalwedd adnabod llais, heblaw am weithredu rhai hidlyddion ar y dudalen 'Chwilio'
- gwrando ar y rhan fwyaf o'r wefan drwy ddefnyddio rhaglen darllen sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)
Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws i'w defnyddio os oes gennych anabledd.
Pa mor hygyrch yw'r wefan hon
Gwyddom nad yw rhai rhannau o'r wefan hon yn gwbl hygyrch:
- Nid yw priodoleddau testun amgen yn bresennol ar gyfer rhai delweddau y rhoddir lincs iddynt
- Nid yw defnyddwyr Dragon Naturally Speaking yn gallu rhyngweithio â rhai opsiynau hidlo chwilio
- Yr hysbysiad cwcis weithiau yw'r elfen olaf yn y drefn tabio
- Cyhoeddir rhywfaint o gynnwys ddwywaith wrth ddefnyddio meddalwedd darllen sgrin
- Nid yw trawsgrifiadau testun yn bresennol ar gyfer pob fideo a recordiwyd ymlaen llaw
- Nid yw rhai PDFs a grëwyd ers mis Medi 2018 na'r rhan fwyaf o PDFs sy'n hŷn na hyn yn hygyrch i feddalwedd darllen sgrin
Adborth a gwybodaeth gyswllt
Os oes angen gwybodaeth arnoch am y wefan hon mewn fformat gwahanol fel PDF hygyrch, print bras, hawdd ei ddarllen, recordiad sain neu braille:
Anfonwch neges e-bost at cysylltu@senedd.cymru
Ffoniwch 0300 200 6565
Cyfeiriad: Senedd Cymru, Bae Caerdydd CF99 1SN
Byddwn yn ystyried eich cais ac yn cysylltu â chi o fewn 5 diwrnod gwaith.
Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda'r wefan hon
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os dewch o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu os ydych yn credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â ni drwy ddefnyddio'r ffurflen yn https://senedd.cymru/cysylltu neu anfonwch neges e-bost i cysylltu@senedd.cymru
Gweithdrefn orfodi
Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol sy’n gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y 'rheoliadau hygyrchedd'). Os nad ydych yn fodlon ar y ffordd rydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â'r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Cydraddoldeb (EASS)
Cysylltu â ni dros y ffôn neu ymweld â ni'n bersonol
Rydym yn darparu gwasanaeth Text Relay i bobl sy'n F/fyddar, â nam ar eu clyw neu sydd â nam ar eu lleferydd.
Mae gan dderbynfeydd ein swyddfeydd, gan gynnwys y Senedd, y Pierhead, Tŷ Hywel a swyddfeydd Gogledd Cymru ddolenni sain a gallwn hefyd ddarparu dolenni sain personol sy'n gweithio gyda'n systemau cyfieithu sain yn yr adeiladau hyn a phan fydd ein pwyllgorau'n cyfarfod o bell . Os byddwch yn cysylltu â ni cyn eich ymweliad gallwn drefnu dehonglydd Iaith Arwyddion Prydain (BSL) fel rheol. Mae’r arwyddion yn ein hadeiladau ar gael mewn braille ac rydym yn croesawu cŵn cymorth.
Ceir rhagor o wybodaeth am hygyrchedd ein hadeiladau a'n cyfarfodydd ar https://senedd.cymru/hygyrchedd
Cewch wybod sut i gysylltu â ni ar https://senedd.cymru/cysylltu
Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon
Mae Senedd Cymru wedi ymrwymo i wneud ei gwefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018.
Statws cydymffurfio
Mae'r wefan hon yn cydymffurfio'n rhannol â’r Canllawiau ar Hygyrchedd y We fersiwn 2.1 Safon AA, oherwydd y diffyg cydymffurfio a'r eithriadau a restrir isod.
Rydym yn ymdrechu i gydymffurfio â’r safon AA erbyn diwedd 2021 ar gyfer yr holl gynnwys gweithredol a gynhyrchir yn fewnol gan y Senedd.
Fodd bynnag, mae rhan fawr o'r wybodaeth ar ein gwefan yn cynnwys dogfennau archif sy'n rhan o gofnod cyhoeddus Busnes y Senedd. Ni fyddai’n briodol diweddaru’r dogfennau hyn i fodloni’r safonau presennol gan eu bod yn adlewyrchu’r wybodaeth fel y’i cyhoeddwyd ar yr adeg honno. Os bydd angen i ni ailwampio'r wybodaeth hon ar unrhyw adeg byddwn yn sicrhau bod unrhyw allbynnau newydd sy'n seiliedig ar y wybodaeth hon mor hygyrch ag y mae'r data gwreiddiol yn caniatáu.
Mae dogfennau hefyd a gynhyrchwyd gan gyrff allanol y mae'n ofynnol i'r Senedd eu derbyn i'w cyhoeddi. Er ein bod yn cynghori'r cyrff hyn ar hygyrchedd eu cyflwyniadau, dan yr amgylchiadau hyn mae'n rhaid inni gyhoeddi'r deunyddiau fel y'u cafwyd.
Cynnwys nad yw'n hygyrch
Nid yw'r cynnwys a restrir isod yn hygyrch am y rhesymau a ganlyn.
Diffyg cydymffurfio â'r canllawiau hygyrchedd
- Nid yw disgrifiadau sain yn bresennol ar gyfer fideos a recordiwyd ymlaen llaw. Mae hwn yn fethiant ar ran maen prawf llwyddiant 1.2.5 disgrifiad sain (a recordiwyd ymlaen llaw) WCAG 2.1.
- Ar hyn o bryd nid ydym yn rhoi disgrifiad sain o gynnwys ein fideos a recordiwyd ymlaen llaw fel mater o drefn. Mae Comisiwn y Senedd wrthi’n newid yr arfer hwn gyda'r bwriad o sicrhau bod cynnwys fideo yn y dyfodol ar gael gydag opsiwn disgrifiad sain, lle mae hynny'n briodol.
- Mae contract ar gyfer isdeitlo/trawsgrifio a darparu disgrifiad sain gan drydydd parti cymwys yn mynd drwy ein proses gaffael ar hyn o bryd.
- Rydym yn bwriadu cyflwyno disgrifiad sain fel mater o drefn ar gyfer fideos a recordiwyd ymlaen llaw erbyn diwedd 2021.
- Nid yw trawsgrifiad testun yn gyson yn bresennol ar gyfer fideos a recordiwyd ymlaen llaw. Mae hwn yn fethiant ar ran maen prawf llwyddiant 1.2.3 disgrifiad sain neu ddewis cyfryngol arall (a recordiwyd ymlaen llaw) WCAG 2.1.
- Mae'r Senedd yn ceisio isdeitlo/trawsgrifio cynnwys ein fideos, ond nid yw'r dull mewnol hwn yn cael ei ddefnyddio’n gyson ar hyn o bryd.
- Mae contract ar gyfer isdeitlo/trawsgrifio a darparu disgrifiad sain gan drydydd parti cymwys yn mynd drwy ein proses gaffael ar hyn o bryd.
- Rydym yn bwriadu cyflwyno trawsgrifio fel mater o drefn ar gyfer cynnwys fideos newydd a recordiwyd ymlaen llaw erbyn diwedd 2021.
- Mae gwallau dilysu HTML yn bresennol, a all ddylanwadu ar sut mae meddalwedd technoleg gynorthwyol yn ymdrin â chynnwys ar y wefan. Mae hwn yn fethiant ar ran maen prawf llwyddiant 1.4.1 parsio WCAG 2.1.
- Mae ein partner datlbygu Method4, yn ymchwilio i hyn ar hyn o bryd.
- Rydym yn bwriadu datrys hyn ddechrau 2021
- Ni ddarperir enwau hygyrch na'u rhoi yn anghywir i'r rhan fwyaf o gynnwys nad yw'n destun fel delweddau addurniadol, delweddau y mae lincs iddynt, meysydd a botymau mewnbynnu ffurflenni. Mae hwn yn fethiant ar ran maen prawf llwyddiant 1.1.1 cynnwys nad yw’n destun WCAG 2.1.
- Mae ein partner datlbygu Method4, yn ymchwilio i hyn ar hyn o bryd.
- Rydym yn bwriadu datrys hyn ddechrau 2021
- Mae'r drefn tabio yn afresymegol, a'r hysbysiad cwcis yw'r elfen olaf yn y drefn ffocws. Mae hwn yn fethiant ar ran maen prawf llwyddiant 2.4.3 trefn ffocws WCAG 2.1.
- Mae Civic UK sef cyflenwr ein datrysiadau rheoli cwcis yn ymchwilio i hyn. Rydym yn deall mai rheoli cwcis ddylai fod yr eitem gyntaf a ddewisir ar ôl llwytho tudalen gyda’r fersiwn bresennol o’r offeryn hwn - ond ni chaiff hyn ei atgynhyrchu'n gyson.
- Rydym yn bwriadu datrys hyn cyn gynted ag y bydd ein cyflenwr yn darparu datrysiad
- Ni all defnyddwyr offer adnabod llais ryngweithio â’r dewisydd calendr dyddiad, a'r opsiynau hidlo ar gyfer canlyniadau ar y tudalennau 'Chwilio' a 'Dod o hyd i aelod'. Mae hwn yn fethiant ar ran maen prawf llwyddiant 4.1.2 enw, rôl, gwerth WCAG 2.1.
- Mae ein partner datlbygu Method4, yn ymchwilio i hyn ar hyn o bryd.
- Rydym yn bwriadu datrys hyn ddechrau 2021
Problemau sy’n ymwneud â PDF i’w datrys yn y dyfodol
Sylwyd ar y gwallau canlynol sy’n ymwneud â PDFs ar ein gwefan. Ar gyfer pob un o'r rhain rydym wedi diwygio ein harfer mewnol i wella'r sefyllfa ar gyfer PDFs a grëir yn fewnol yn y dyfodol (o fis Ionawr 2021 ymlaen).
Ni fyddwn yn gallu ailedrych ar PDFs presennol sydd o werth hanesyddol ac sy'n aros ar ein gwefan ond byddwn yn sicrhau y cyhoeddir unrhyw ddogfen sefydlog, pan fydd yn cael ei diweddaru neu ddogfen newydd sy’n cael ei chreu'n fewnol, i fodloni safon 2.1 WCAG.
Hefyd, mae’n rhaid i ni nodi bod gwefan y Senedd yn cynnwys nifer o ddogfennau PDF y mae'n ofynnol i'r Senedd eu cyhoeddi pan ddeuant i law gan sefydliadau trydydd parti. Er y byddwn yn cynghori'r sefydliadau hyn ar arfer gorau, nid oes gennym reolaeth lawn dros gynnwys nac ansawdd y dogfennau hyn a gyflwynir i'w cyhoeddi gan y Senedd.
- Ni ddarperir enwau hygyrch na'u rhoi yn anghywir i'r rhan fwyaf o gynnwys nad yw'n destun fel delweddau addurniadol, delweddau y mae lincs iddynt, meysydd a botymau mewnbynnu ffurflenni. Mae hwn yn fethiant ar ran maen prawf llwyddiant 1.1.1 cynnwys nad yw’n destun WCAG 2.1.
- Mae problemau cyferbyniad yn bresennol mewn dogfennau PDF. Mae hwn yn fethiant ar ran maen prawf llwyddiant 1.4.3 cyferbyniad (isafswm) WCAG 2.1.
- Ni ddarperir dewisiadau amgen ar gyfer cynnwys nad yw’n destun yn gywir ar gyfer PDFs. Nid oes gan ddelweddau a ffigurau oddi mewn werth testun amgen, ac nid yw cynnwys arall nad yw'n destun wedi'i dagio. Mae hwn yn fethiant ar ran maen prawf llwyddiant 1.1.1 cynnwys nad yw’n destun WCAG 2.1.
- Nid yw strwythurau rhestrau a thablau mewn PDFs wedi'u marcio mewn ffordd sy'n eu hamlygu i dechnolegau cynorthwyol. Mae hwn yn fethiant ar ran maen prawf llwyddiant 1.3.1 gwybodaeth a pherthynas WCAG 2.1.
- Nid yw nodau tudalen PDF yn gyfochrog â strwythur y ddogfen. Mae hwn yn fethiant ar ran maen prawf llwyddiant 2.4.1 blociau osgoi WCAG 2.1.
- Nid yw iaith dogfennau PDF wedi'i diffinio; gall hyn ddylanwadu ar y ffordd y mae meddalwedd darllen sgrin yn cyhoeddi testun. Mae hwn yn fethiant ar ran maen prawf llwyddiant 3.1.1 iaith y dudalen WCAG 2.1.
Cynnwys wedi’i eithrio
I ddechrau, aseswyd y canlynol fel rhai nad oeddent yn cydymffurfio ond cred y Senedd fod y cynnwys wedi'i eithrio o ofynion WCAG 2.1
- Nid yw’r testun Cymraeg wedi'i ddiffinio'n gywir, a all achosi i raglenni darllen sgrin gyhoeddi cynnwys yn anghywir. Mae hwn yn fethiant ar ran maen prawf llwyddiant 3.1.2 iaith rhannau WCAG 2.1.
- Mae'r methiant hwn a aseswyd yn ymwneud â defnydd y Senedd o eiriau â tharddiad Cymraeg fel Senedd, Neuadd, Cwrt, Cofnod a Llywydd.
- Mae'r Senedd yn trin y geiriau/ymadroddion hyn fel “enw priod” a “rhan o iaith frodorol” Saesneg ac, felly, nid oes angen eu marcio ar wahân fel testun Cymraeg ar dudalen Saesneg.
- Yn y sefyllfa hon credwn fod y geiriau hyn wedi'u heithrio o'r gofyniad hwn gan y dylid eu hystyried yn rhan o'r testun Saesneg ar y dudalen.
- Pan brofwyd tudalennau a oedd yn cynnwys y geiriau hyn drwy ddefnyddio meddalwedd darllen sgrin JAWS, darllenwyd y rhan fwyaf o'r geiriau hyn yn llwyddiannus gan y llais Saesneg diofyn. Yr unig eithriad oedd Cwrt, y gwnaeth y feddalwedd ei sillafu i'r defnyddiwr.
Problemau wedi’u datrys ers y prawf ffurfiol diwethaf
Codwyd y problemau a ganlyn yn ein prawf ffurfiol diwethaf gan Zoonou ond ers hynny, credwn eu bod wedi'u datrys ar draws y gwefannau hyn ac rydym wedi cadarnhau hyn gyda phrofion mewnol.
Mae ail-brawf ffurfiol gan ein tîm sicrwydd trydydd parti o Zoonou eisoes wedi'i drefnu ar gyfer gwanwyn 2021 a chredwn y bydd yr eitemau hynny i gyd wedi’u cadarnhau fel rhai sydd wedi'u datrys ar draws y wefan erbyn hynny.
- Ar gyfer meysydd sydd â gofynion mewnbynnu penodol, ni chaiff y wybodaeth hon ei chyfleu yn y label meysydd ffurflenni. Mae hwn yn fethiant ar ran maen prawf llwyddiant 3.3.2 labeli neu gyfarwyddiadau WCAG 2.1.
- Roedd y methiant hwn yn ymwneud â'r maes chwilio cod post fel rhan o'n tudalen Dod o Hyd i Aelod. Mae'r nodwedd hon bellach yn ei gwneud yn glir drwy gyhoeddi gwall pan nad yw'r mewnbwn ar ffurf ddisgwyliedig cod post y DU.
- Nid yw teitl yr Hafan yn nodi cynnwys na diben y dudalen. Mae hwn yn fethiant ar ran maen prawf llwyddiant 2.4.2 teitl tudalen WCAG 2.1.
- Yn ystod y gwaith datblygu, teitl y dudalen hon oedd "Hafan". Ers codi hyn mae teitl y dudalen wedi'i ddiweddaru i nodi i ba sefydliad y mae'n hafan er mwyn rhoi eglurder i'r darllenydd.
- Nid yw cynnwys wedi'i ymgorffori wedi’i labelu mewn ffordd yr hysbysir technolegau cynorthwyol o'i ddiben. Mae hwn yn fethiant ar ran maen prawf llwyddiant 2.4.1 blociau osgoi WCAG 2.1.
- Er bod newidiadau technegol cychwynnol wedi gwella'r sefyllfa, roedd nifer fach o leoedd lle y tynnwyd sylw at wall defnyddwyr yn achosi’r methiant hwn yn y sganiau diweddaraf. Mae'r eitemau hyn bellach wedi'u cywiro ac mae gweithdrefn arferol ar gyfer sganio ein gwefan am wallau o'r fath yn cael ei rhoi ar waith.
- Mae strwythur y penawdau ar rai tudalennau yn anghywir oherwydd lefelau pennawd wedi’u hepgor. Mae hwn yn fethiant ar ran maen prawf llwyddiant 2.4.1 blociau osgoi WCAG 2.1.
- Er bod newidiadau technegol cychwynnol wedi gwella'r sefyllfa, roedd nifer fach o leoedd lle y tynnwyd sylw at wall defnyddwyr yn achosi’r methiant hwn yn y sganiau diweddaraf. Mae'r eitemau hyn bellach wedi'u cywiro ac mae gweithdrefn arferol ar gyfer sganio ein gwefan am wallau o'r fath yn cael ei rhoi ar waith.
- Mae problemau cyferbyniad yn bresennol ar gyfer rhai cydrannau rhyngwyneb defnyddwyr ar y wefan. Mae hwn yn fethiant ar ran maen prawf llwyddiant 1.4.11 cyferbyniad nad yw’n destun WCAG 2.1.
- Roedd un enghraifft o hyn yn parhau i fod heb ei gywiro yn y prawf ffurfiol diwethaf. Mae hyn wedi'i ddatrys ers hynny.
- Mae'r Tîm Datblygu yn parhau i fod yn ymwybodol o gyfyngiadau ein palet lliw corfforaethol ac yn parhau i fod yn wyliadwrus wrth ddatblygu nodweddion gwefan newydd.
- Defnyddir Aria ar gyfer labelu rhai rheolyddion tudalen, ond nid yw'r elfennau wedi'u cysylltu'n iawn. O ganlyniad, ni chyhoeddir enw wrth weithredu'r wefan gyda rhaglen darllen sgrin. Mae hwn yn fethiant ar ran maen prawf llwyddiant 4.1.2 enw, rôl, gwerth WCAG 2.1.
- Mae’r labeli bellach wedi'u cysylltu'n gywir â'r elfennau y maent yn ymwneud â hwy.
Baich anghymesur
Rydym wedi asesu cost datrys y problemau a nodwyd. Nid ydym yn hawlio baich anghymesur am achosion o ddiffyg cydymffurfio. Rydym yn gweithio i ddod â'r holl gynnwys presennol i'r safon ofynnol.
Fodd bynnag, mae rhan fawr o'r wybodaeth ar ein gwefan yn cynnwys dogfennau archif sy'n rhan o gofnod cyhoeddus Busnes y Senedd. Ni fyddai’n briodol diweddaru’r dogfennau hyn i fodloni’r safonau presennol gan eu bod yn adlewyrchu’r wybodaeth fel y’i cyhoeddwyd ar yr adeg honno. Os bydd angen i ni ailwampio'r wybodaeth hon ar unrhyw adeg byddwn yn sicrhau bod unrhyw allbynnau newydd sy'n seiliedig ar y wybodaeth hon mor hygyrch ag y mae'r data gwreiddiol yn caniatáu.
Cynnwys nad yw o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd
PDFs a dogfennau eraill
Mae rhai o'n dogfennau PDF a Word yn hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau. Rydym wrthi’n gwella hygyrchedd y rhain neu ddisodli'r rhain â HTML lle y mae hynny'n bosibl.
Nid yw’r rheoliadau hygyrchedd yn ei gwneud yn ofynnol i ni drwsio PDFs neu ddogfennau eraill a gyhoeddwyd yn flaenorol os nad ydynt yn hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau parhaus.
Gan fod llawer o'n dogfennau archif yn rhan o gofnod cyhoeddus Busnes y Senedd ni fyddai'n briodol diweddaru'r dogfennau hyn i fodloni'r safonau presennol. Maent yn cynrychioli'r wybodaeth fel yr oedd ar gael ar y pryd.
Bydd unrhyw ddogfennau PDF neu Word newydd a gyhoeddwn o fis Ionawr 2021, a luniwyd yn fewnol, yn bodloni’r safonau hygyrchedd presennol.
Hefyd mae’n rhaid i ni nodi bod gwefan y Senedd yn cynnwys nifer sylweddol o ddogfennau PDF y mae'n ofynnol i'r Senedd eu cyhoeddi pan ddeuant i law gan sefydliadau trydydd parti. Er y byddwn yn cynghori'r sefydliadau hyn ar arfer gorau nid oes gennym reolaeth lawn dros gynnwys nac ansawdd y dogfennau hyn a gyflwynir i'w cyhoeddi gan y Senedd
Cynnwys fideos
Nid oes gan rai fideos a recordiwyd ymlaen llaw sydd ar y wefan drawsgrifiad testun i gyd-fynd â hwy. Mae hwn yn fethiant ar ran maen prawf llwyddiant 1.2.3 disgrifiad sain neu ddewis cyfryngol arall (a recordiwyd ymlaen llaw) WCAG 2.1. Ar ôl i ni sicrhau gallu arbenigol digonol ddechrau 2021, bydd pob fideo yn y dyfodol wedi'i farcio'n glir os oes dewis cyfryngol arall ar gael (gan gynnwys fersiynau â disgrifiad sain) a/neu bydd cynnwys fideos a recordiwyd ymlaen llaw yn cynnwys penawdau.
Beth rydym yn ei wneud i wella hygyrchedd
Mae’r Prosiect Rheoli Cynnwys a’r Wefan a gyflwynodd y cynllun a'r llwyfannau wedi'u diweddaru ar gyfer ein gwefan ym mis Rhagfyr 2020 yn rhoi gwelliant sylweddol o ran hygyrchedd ar draws ecosystem ein gwefan.
Mae'r prosiect hwn hefyd wedi rhoi prosesau mewnol ar waith i wella'r broses o gynllunio ar gyfer hygyrchedd ein dogfennau cyhoeddedig a chynnwys ein gwefan yn y dyfodol drwy dempledi ac arferion mewnol gwell.
Mae canllawiau sylfaenol ar gyfer derbyn dogfennau trydydd parti i'w cyhoeddi hefyd wedi'u rhoi ar waith. Rhannwyd y canllawiau hyn yn rhagweithiol â'n darparwyr dogfennau rheolaidd a chânt eu rhannu ag eraill yn ôl yr angen.
Mae holl olygyddion gwe'r Senedd yn cael hyfforddiant sylfaenol ar hygyrchedd gwe fel rhan o'r cyfnod cynefino i'r rôl hon. Cynigir rhagor o hyfforddiant hygyrchedd i'r rhai y mae eu rôl yn cynnwys gwaith datblygu technegol a nodweddion ar gyfer ein gwefan.
Er bod Zoonou wedi cynnal yr asesiad cychwynnol o’n gwefan trwy brofion awtomataidd ac asesiad defnyddwyr arbenigol yn erbyn meini prawf WCAG 2.1, nid yw’r wefan newydd wedi’i phrofi gan dîm o ddefnyddwyr anabl sydd ag anghenion mynediad a disgwylir datblygu'r wefan ymhellach o ganlyniad i’r profion hynny yn ystod 2021.
Bydd yr hyn a ddysgwyd o ddatblygu’r wefan hon hefyd yn cael ei drosglwyddo fel gwersi a ddysgwyd ar gyfer unrhyw brosiectau gwella gwe yn y dyfodol.
Paratoi'r datganiad hygyrchedd hwn
Paratowyd y datganiad hwn ar 08/12/2020. Fe'i hadolygwyd ddiwethaf ar 08/12/2020 cyn rhyddhau iteriad newydd o wefan y Senedd i'r cyhoedd ar 17 Rhagfyr 2020.
Profwyd y wefan hon yn ffurfiol ddiwethaf gan drydydd parti ar 22/10/2020. Cynhaliwyd y prawf gan Zoonou i gwmpas a ddarparwyd gan dîm prosiect y Senedd.
Nid yw pob tudalen ar y wefan wedi'i phrofi'n unigol. Dewiswyd sampl gynrychioliadol o dudalennau gan sicrhau bod y sampl hon yn cynnwys holl nodweddion allweddol y wefan. Ar adeg drafftio’r datganiad hwn, roedd y wefan wedi cael profion awtomataidd a gwiriwyd sampl o dudalennau gan ddefnyddiwr arbenigol o Zoonou. Mae rhai eitemau wedi'u nodi fel rhai sydd wedi'u datrys ers y prawf ffurfiol, trydydd parti diwethaf. Profwyd y rhain yn fewnol fel y'u datryswyd ac fe'u dangosir felly uchod.
Mae ail-brawf ffurfiol arall wedi'i drefnu ar gyfer gwanwyn 2021. Mae cynllun ar waith hefyd ar gyfer cynnal ail gam y profion sy'n cynnwys defnyddwyr anabl cynrychioliadol yn ystod gwanwyn 2021 a bydd unrhyw broblemau y byddant yn eu nodi yn cael eu cofnodi'n briodol a, lle mae hynny'n ymarferol, eu cywiro. Bydd diweddariad i'r datganiad hwn yn dilyn y cylch hwnnw o brofion a bydd atebion cysylltiedig yn dilyn hynny.
Gwnaethom ddefnyddio'r dull a ganlyn i benderfynu ar y sampl o dudalennau i’w profi - WCAG-EM.