Mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn esbonio sut rydym yn casglu ac yn defnyddio gwybodaeth bersonol amdanoch wrth ymgysylltu â Chomisiwn y Senedd.
Ein manylion cyswllt
Dylid anfon unrhyw ymholiadau am y ffordd y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio gennym at Swyddog Diogelu Data’r Senedd drwy:
E-bost: diogelu.data@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 7354
Ar y dudalen hon:
↓ Sut y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio
↓ Gwybodaeth rydym yn ei phrosesu
↓ Pam yr ydym yn prosesu’r wybodaeth hon
↓ Rhannu gwybodaeth â thrydydd parti neu gyhoeddi gwybodaeth
↓ Y sail gyfreithiol dros brosesu Data Personol
↓ Sail gyfreithiol ar gyfer prosesu Data Categori Arbennig
↓ Cwyno
↓ GWybodaeth i'r cyhoedd, ymholiadau, ac archebu gwasanaethau
↓ Presenoldeb mewn digwyddiadau a gweithdai
↓ Rhestrau dosbarthu rhanddeiliaid
↓ Lluniau, ffilmio a chynnwys digidol
↓ Ymgysylltu â ni ar y cyfryngau cymdeithasol
↓ Monitro’r cyfryngau a chyfryngau cymdeithasol
↓ Gwefan
Sut y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio
Comisiwn y Senedd yw’r rheolydd data ar gyfer y wybodaeth a ddarperir gennych, sy’n golygu y gwnawn sicrhau y caiff ei diogelu a’i defnyddio yn unol â deddfwriaeth diogelu data y DU.
Gwybodaeth rydym yn ei phrosesu
Mae eich data personol yn golygu unrhyw wybodaeth sy'n ymwneud â chi, ac y gellir eich adnabod oddi wrthi. Er mwyn cyflawni ein gwaith, byddwn yn prosesu eich data personol fel yr amlinellir isod.
Bydd y wybodaeth rydym yn ei phrosesu amdanoch yn amrywio yn dibynnu ar y gweithgaredd penodol rydych yn cymryd rhan ynddo a gall gynnwys y categorïau canlynol:
- Gwybodaeth gyswllt: Megis eich enw, cyfeiriad post, cyfeiriad e-bost, enw yn y cyfryngau cymdeithasol, rhifau ffôn a chod post
- Dewisiadau personol: Gwybodaeth am unrhyw ddewisiadau neu ofynion y gallai fod gan unigolion neu grwpiau i gynorthwyo eu gallu i gymryd rhan yn ein gweithgaredd, er enghraifft gofynion dietegol neu hygyrchedd
- Cynnwys digidol: Lluniau, fideos neu recordiadau eraill, y gallwn eu casglu yn ystod teithiau, digwyddiadau, a gweithgareddau ymgysylltu eraill fel grwpiau ffocws neu gyfweliadau
- Profiad / barn bersonol: Gwybodaeth am farn a phrofiadau pobl a / neu dystiolaeth ynghylch amrywiaeth o faterion sy’n ymwneud â gwaith y Senedd, neu eu hymweliad ag ystad y Senedd
- Gwella’r gwasanaeth: Data am sut mae pobl yn defnyddio ein gwasanaethau ar-lein ac yn bersonol a / neu eu lleoliad daearyddol neu nodweddion gwarchodedig, a ddefnyddir i wella ein gwasanaethau
- Manylion ariannol: Mae rhai gweithgareddau yn cael cymhorthdal teithio ac mae rhai digwyddiadau yn codi costau ychwanegol. Pan fydd unigolion yn derbyn tâl, bydd manylion ariannol yn cael eu casglu
Os ydych chi'n ymweld â'r ystad, mae teledu cylch cyfyng ar waith. Gweler ein hysbysiad preifatrwydd teledu cylch cyfyng am ragor o wybodaeth.
Gall y wybodaeth a gaiff ei phrosesu gennym gynnwys data personol, a chategorïau arbennig o ddata personol lle mae'r data’n ymwneud â: hil, tarddiad ethnig, safbwyntiau gwleidyddol, crefydd, aelodaeth undeb llafur, iechyd a chyfeiriadedd rhywiol.
Pam yr ydym yn prosesu’r wybodaeth hon
Rydym yn defnyddio data personol i gyflawni ein gweithgareddau ymgysylltu ac i gefnogi a gwella ein cyfathrebu a'n hymgysylltiad â'r cyhoedd yng Nghymru.
Rydym yn cyfathrebu ac yn ymgysylltu â phobl Cymru ar faterion sy'n ymwneud â'r Senedd, gyda ffocws yr ymdrech ar ymgysylltu â grwpiau amrywiol, gan gynnwys y rhai sy'n teimlo nad yw eu lleisiau, yn draddodiadol, yn cael eu clywed gan sefydliadau fel y Senedd. Mae'r data rydyn ni'n eu prosesu yn ein helpu i weld gyda phwy rydyn ni'n ymgysylltu.
Rydym yn defnyddio data penodol i werthuso ein gwasanaethau, gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i):
- gyrhaeddiad daearyddol
- gosod targedau ymgysylltu o ran meysydd lle mae ymwybyddiaeth / dealltwriaeth o'r Senedd yn isel
- sicrhau ein bod yn cyrraedd ardaloedd gyda phoblogaethau uwch o bobl nad ydynt, yn draddodiadol, yn ymgysylltu â'r Senedd
Mae'r manylion am sut y byddwn yn defnyddio gwybodaeth ar gyfer pob un o'n gwahanol weithgareddau wedi'u nodi isod.
Mynediad at y wybodaeth
Bydd mynediad at wybodaeth yn gyfyngedig i staff y Comisiwn sy'n gweithio ar y gweithgareddau neu'r sianeli cyfathrebu rydych yn ymgysylltu â nhw, oni nodir fel arall yn is-adrannau isod.
Rhannu gwybodaeth â thrydydd parti neu gyhoeddi gwybodaeth
Bydd pob is-adran isod yn manylu os a sut y bydd eich gwybodaeth yn cael ei rhannu ag unrhyw drydydd partïon, neu ei chyhoeddi.
Os gwneir cais am wybodaeth o dan ddeddfwriaeth mynediad at wybodaeth, mae’n bosibl y bydd angen datgelu’r cyfan neu rywfaint o’r wybodaeth a roddir gennych. Dim ond os yw’n ofynnol yn ôl y gyfraith y byddwn yn gwneud hyn.
Storio, cadw a dileu
Bydd y cyfnod o amser y byddwn yn cadw'ch gwybodaeth yn dibynnu ar y gweithgaredd rydych chi'n cymryd rhan ynddo ac fe'i manylir yn yr adrannau isod. Ar ôl diwedd y cyfnod cadw, caiff yr holl ddata eu dileu'n ddiogel.
Bydd unrhyw gynnwys a gyhoeddir gennym i'r parth cyhoeddus drwy'r rhyngrwyd a llwyfannau cyfryngau cymdeithasol yn aros am gyfnod amhenodol a gall fod y tu hwnt i reolaeth Comisiwn y Senedd.
Caiff gwybodaeth ei storio’n ddiogel ar ein systemau TGCh, sy’n cynnwys gwasanaethau a chymwysiadau cwmwl trydydd parti (fel Microsoft Bookings) a ddarperir gan Microsoft. Mae unrhyw drosglwyddo data gan Microsoft y tu allan i’r AEE yn dod o dan gymalau cytundebol lle mae Microsoft yn sicrhau bod data personol yn cael eu trin yn unol â deddfwriaeth ddomestig. I gael rhagor o wybodaeth am sut y bydd Microsoft yn defnyddio eich gwybodaeth, gallwch ddarllen datganiad preifatrwydd y cwmni. Efallai y byddwn yn defnyddio offer AI Microsoft er mwyn prosesu eich gwybodaeth. Mae unrhyw ddefnydd o systemau neu gymwysiadau trydydd parti eraill yn cael ei fanylu yn yr adrannau isod.
Y sail gyfreithiol dros brosesu Data Personol
Mae cyfraith diogelu data yn nodi’r seiliau cyfreithiol amrywiol sy’n caniatáu i ni gasglu, cadw a defnyddio eich gwybodaeth bersonol. At ddibenion prosesu’r data personol a ddarperir gennych, rydym yn dibynnu ar y seiliau cyfreithiol a ganlyn:
- Erthygl 6(1)(e) Tasg gyhoeddus - Mae angen prosesu’r data fel rhan o dasg a gyflawnir er budd y cyhoedd.
Mae llawer o'n gweithgareddau yn ymwneud â'r swyddogaeth swyddogol fel Senedd Cymru, ac annog ymgysylltu â democratiaeth yng Nghymru. Gelwir y sail gyfreithiol yr ydym yn dibynnu arni i ddefnyddio data personol yn yr achosion hyn yn aml yn 'dasg gyhoeddus'. Defnyddir y sail hon fel a ganlyn: "the processing is necessary for you to perform a task in the public interest or for your official functions, and the task or function has a clear basis in law".
- Erthygl 6(1)(a) – Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) - Cydsyniad
Pan fyddwn yn casglu eich gwybodaeth bersonol er mwyn i chi danysgrifio i newyddlen, rhestr bostio neu ddibenion marchnata eraill, caiff y gweithgareddau hyn eu cwmpasu o dan sail gyfreithiol cydsyniad, sy'n caniatáu i'r tanysgrifiwr 'optio i mewn' i ohebiaeth.
Os byddwch yn newid eich dewisiadau cyfathrebu ar unrhyw adeg, byddwch yn gallu dad-danysgrifio drwy'r gwasanaeth tanysgrifio neu drwy e-bostio cyswllt@senedd.cymru.
Sail gyfreithiol ar gyfer prosesu Data Categori Arbennig
Mae Erthygl 9(1) o’r Rheoliadau Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) yn diffinio data personol categori arbennig fel data personol sy’n datgelu tarddiad o ran hil neu ethnigrwydd, barn wleidyddol, credoau crefyddol neu athronyddol, neu aelodaeth o undeb llafur, a phrosesu data genetig, data biometrig i adnabod bod dynol yn unigryw, data’n ymwneud ag iechyd neu ddata’n ymwneud â bywyd rhywiol neu gyfeiriadedd rhywiol bod dynol. Gall prosesu data categori arbennig ddigwydd yn ystod gweithgareddau ymgysylltu amrywiol. Enghreifftiau o hyn yw:
- arolygon ar-lein
- grwpiau ffocws
- cyfweliadau
Pan ddarperir unrhyw ddata personol categori arbennig, y sail gyfreithiol ar gyfer prosesu fydd: Mae’n angenrheidiol am resymau budd sylweddol y cyhoedd (yn unol ag Erthygl 9(2)(g) GDPR y DU wedi’i ddarllen gyda pharagraff 6(2)(b) o Atodlen 1 i Ddedf Diogelu Data 2018); neu,
Mae gwrthrych y data wedi rhoi cydsyniad penodol i brosesu'r data personol hynny at un neu fwy o ddibenion penodol (Erthygl 9(2)(a)).
Eich hawliau
Fel gwrthrych data, mae gennych nifer o hawliau. Mae'r hawliau sy'n gymwys yn dibynnu ar y seiliau cyfreithiol yr ydym yn dibynnu arnynt i ddefnyddio eich gwybodaeth bersonol. Ni fydd yr hawliau hynny'n gymwys ym mhob achos, a bydd y Comisiwn yn cadarnhau a yw hynny'n wir pan fyddwch yn gwneud cais.
Mae'r hawliau'n cynnwys yr hawl i ofyn am fynediad at eich gwybodaeth bersonol eich hun, a elwir weithiau’n 'gais gwrthrych am wybodaeth'.
Hefyd, mae gennych yr hawl i wneud cais i ni:
- i gywiro unrhyw wybodaeth anghywir sydd gennym amdanoch
- bod gwybodaeth amdanoch yn cael ei dileu (mewn amgylchiadau penodol)
- ein bod yn rhoi’r gorau i ddefnyddio eich gwybodaeth bersonol; ac y caiff eich gwybodaeth ei rhoi i chi neu drydydd parti mewn fformat cludadwy (eto, mewn amgylchiadau penodol).
Os hoffech arfer unrhyw rai o'r hawliau sydd gennych o dan ddeddfwriaeth diogelu data, gofyn cwestiwn neu wneud cwyn ynghylch sut y defnyddir eich gwybodaeth, cysylltwch â diogelu.data@senedd.cymru.
Cwyno
Gallwch gwyno i’r Swyddog Diogelu Data os ydych yn anfodlon â sut rydym wedi defnyddio eich data. Mae’r manylion cyswllt i’w cael uchod.
Yn dilyn cwyn, os byddwch yn parhau i fod yn anfodlon â’n hymateb, gallwch hefyd gwyno i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (yr ICO).
Cyfeiriad Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth:
Information Commissioner’s Office
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF
Rhif y llinell gymorth: 0303 123 1113
Gwybodaeth i'r Cyhoedd, Ymholiadau, ac Archebu Gwasanaethau
Pa wybodaeth rydym yn ei phrosesu?
Mae’n bosibl y byddwch yn cysylltu â ni wyneb yn wyneb, drwy e-bost, drwy gymwysiadau Microsoft (fel arolygon neu ffurflenni archebu), drwy lythyr neu ar y ffôn. Caiff y wybodaeth a ganlyn ei phrosesu:
Ymholiadau:
- Eich manylion cyswllt, gan gynnwys eich enw, cyfeiriad post, rhif ffôn, cyfeiriad e-bost
- Manylion yr ymholiad naill ai ar ffurf electronig neu nodiadau copi caled; Rheswm dros yr ymholiad
- Lefel eich diddordeb gwleidyddol, os dewiswch ei ddarparu
Archebu gweithgaredd:
- Y math o weithgaredd neu ddigwyddiad a archebwyd a’r nifer fydd / a oedd yn bresennol (bwriadwyd a gwirioneddol)
- Enwau, cyfeiriadau, rhifau ffôn, cyfeiriadau e-bost, cyfeiriadau gwefannau, ac enwau ar y cyfryngau cymdeithasol trefnwyr gweithgareddau (ac weithiau'r rhai oedd yn bresennol) (i roi cyhoeddusrwydd i ymweliadau)
- Gwybodaeth am y rhai fydd yn bresennol er mwyn gallu darparu'r gwasanaeth neu'r gweithgaredd. Mae hyn yn cynnwys: dewisiadau iaith, pynciau a lefel astudio (i fyfyrwyr), rheswm dros ymweld; â phwy rydych yn ymweld; ac unrhyw ofynion hygyrchedd penodol ac anghenion dietegol
- Pan fydd unigolion yn cael tâl, cymhorthdal teithio, neu lle mae costau ychwanegol ar gyfer digwyddiadau, caiff manylion ariannol eu casglu
- I gael gwybodaeth am ein defnydd o ddelweddau, cyfeiriwch at ein hadran lluniau, ffilmio a chynnwys digidol
- Caiff delweddau eu darparu i'w defnyddio gan drydydd partïon i'n galluogi i guradu arddangosfeydd. Bydd y delweddau hyn yn cael eu rhannu ar gyfryngau cymdeithasol, gwefannau hyrwyddo a chyhoeddusrwydd yn gysylltiedig â'r arddangosfa
Adborth:
- Eich adborth / barn / awgrymiadau ar gyfer gwella
- Cod post
- Etholaeth
- Lefel eich diddordeb gwleidyddol, os dewiswch ei ddarparu
Nid oes angen gwybodaeth adnabyddadwy bersonol ar gyfer rhai dulliau adborth, ond gall cwsmeriaid ddewis ei darparu’n wirfoddol.
Pam rydym yn ei phrosesu?
Er mwyn ymdrin â’ch ymholiad; creu neu reoli archeb; gwella gwasanaethau; dathlu arferion da; ac adrodd ar berfformiad.
Pwy fydd yn cael mynediad at y wybodaeth?
Bydd gan staff Comisiwn y Senedd sy'n gweinyddu'r gweithgareddau hyn fynediad at eich gwybodaeth. Gellir rhannu gwybodaeth gydag Aelodau o'r Senedd a'u staff cymorth pan maent yn ymwneud â chyflwyno neu gefnogi'r gweithgaredd.
Os byddwch yn cyfeirio'ch gohebiaeth at Aelod penodol o'r Senedd, byddwn yn rhoi eu manylion cyswllt i chi, a bydd wedyn yn cael eu trin yn unol â'u prosesau eu hunain.
Fel rhan o ddiogelwch yr ystad, efallai y byddwn yn rhannu eich gwybodaeth â'r adran ddiogelwch a Heddlu De Cymru (sydd wedi’u lleoli yn ein huned heddlu ar y safle) mewn perthynas â chynnal a chadw'r Senedd fel amgylchedd diogel.
Os oes bygythiad, cyhuddiad, iaith sarhaus neu arwydd o weithgaredd anghyfreithlon o fewn unrhyw ohebiaeth a ddaw i law’r Comisiwn, caiff yr ohebiaeth berthnasol ei rhannu â'n Pennaeth Diogelwch i'w hystyried. Yna gellir gwneud penderfyniad a ddylid ei rannu'n ehangach o fewn y Comisiwn neu'n allanol gyda'r heddlu. Os oes angen unrhyw wybodaeth bellach arnoch am y broses hon, cysylltwch â: cysylltu@senedd.cymru.
A gaiff y wybodaeth ei rhannu â thrydydd partïon, neu ei chyhoeddi?
Gallai sylwadau dienw o ffurflenni adborth gael eu rhannu â'n contractwyr, a / neu gellid eu cynnwys yn ein hadroddiadau blynyddol a deunydd marchnata gan gynnwys cyfryngau cymdeithasol.
Storio, cadw a dileu
Yn ogystal â'r defnydd o offer Microsoft:
Weithiau rydym yn rheoli’r broses o archebu digwyddiadau drwy ddefnyddio cymhwysiad trydydd parti o’r enw Eventbrite. Mae manylion yn egluro sut y bydd Eventbrite yn defnyddio eich gwybodaeth ar gael ar wefan y cwmni: Polisi Preifatrwydd Eventbrite. Bydd unrhyw drosglwyddo data gan Eventbrite y tu allan i'r DU neu’r AEE yn dod o dan gymalau cytundebol safonol, lle mae Eventbrite yn sicrhau y caiff data personol eu trin yn unol â GDPR y DU.
Bydd gwybodaeth copi caled yn cael ei storio'n ddiogel yn safle swyddogol y Comisiwn.
Cadw
Caiff yr holl ddata eu cadw am weddill tymor y Senedd gyfredol a blwyddyn ychwanegol.
Bydd gwybodaeth ariannol fel ffurflenni archebu, archebion prynu, nodiadau dosbarthu ac anfonebau yn cael eu cadw am 6 mlynedd ar ôl diwedd y flwyddyn ariannol y mae'r gyllideb yn ymwneud â hi.
Caiff unrhyw wybodaeth ffisegol (h.y. nodiadau â llaw tra ar y ffôn) ei dinistrio'n ddiogel unwaith y bydd y data wedi'u trosglwyddo i'r system archebu.
Presenoldeb mewn digwyddiadau a gweithdai
Pa wybodaeth rydym yn ei phrosesu?
Bydd y wybodaeth a gasglwn yn amrywio yn dibynnu ar eich rôl, neu lefel y cyfranogiad mewn digwyddiad neu weithdy. Mae hyn yn cynnwys:
- Lluniau, ffilmio a chynnwys digidol: Rydym yn aml yn casglu cynnwys digidol yn ein digwyddiadau a gweithdai lle bydd pobl yn bresennol, gweler yr adran ‘Lluniau, ffilmio a chynnwys digidol’ i gael rhagor o wybodaeth am sut y caiff y wybodaeth hon ei phrosesu.
- Gwybodaeth gyswllt: eich enw, manylion cyswllt, a gwybodaeth ynghylch hygyrchedd neu ofynion dietegol
- Gwybodaeth am banelwyr: er mwyn sefydlu digwyddiadau ar-lein, bydd yn ofynnol i banelwyr rannu eu cyfeiriad e-bost sy'n gysylltiedig â chyfrif Zoom. Efallai y gofynnir iddynt hefyd rannu delweddau a / neu fideos, bywgraffiad byr a'u henw ar y cyfryngau cymdeithasol at ddibenion hyrwyddo cyn y digwyddiad.
- Gwybodaeth ariannol: Bydd yn ofynnol i banelwyr sy'n cael arian am eu cyfranogiad rannu rhywfaint o wybodaeth ariannol â staff y Comisiwn er mwyn prosesu a hwyluso taliad.
Pam rydym yn ei phrosesu?
Bydd y data hyn yn cael eu defnyddio at ddibenion cymryd rhan mewn digwyddiadau neu weithdai, yn bersonol ac ar-lein.
Byddwn yn cadw'ch manylion cyswllt fel y gallwn roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am ystyriaeth y Senedd o bwnc yr ydych wedi cyfrannu ato, a materion cysylltiedig.
I gael gwybodaeth yn ymwneud â defnyddio lluniau, ffilmio a chynnwys digidol, gweler yr adran isod o dan 'Lluniau, ffilmio a chynnwys digidol'.
Pwy fydd yn cael mynediad at y wybodaeth?
Bydd gan aelodau o staff yn y Comisiwn sy'n gweithio ar gyflawni'r digwyddiad neu'r gweithdy fynediad at eich gwybodaeth
Yn dibynnu ar y gweithgaredd, gellir rhannu gwybodaeth yn allanol gydag Aelodau o'r Senedd a'u staff ac yn fewnol gyda meysydd gwasanaethau eraill (adrannau) sy'n ymwneud â chyflawni eich gweithgaredd.
Fel rhan o ddiogelwch yr ystad, efallai y byddwn yn rhannu eich gwybodaeth â'r adran ddiogelwch ac uned yr heddlu ar y safle mewn perthynas â chynnal a chadw'r Senedd fel amgylchedd diogel.
A gaiff y wybodaeth ei rhannu â thrydydd partïon, neu ei chyhoeddi?
Defnyddio Delweddau a Fideos: Pan fo panelwyr yn rhannu delweddau neu fideos yn ystod ein digwyddiadau, efallai y byddwn yn eu hailbwrpasu at ddibenion hyrwyddo. Gellid cyhoeddi'r deunyddiau hyn ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol swyddogol a'n gwefan. Rhaid i chi sicrhau eich bod wedi cydymffurfio â phob agwedd ar y ddeddfwriaeth diogelu data pan rydych yn casglu ac yn defnyddio data personol yn eich delweddau a'ch fideos.
Recordiadau: Efallai y byddwn yn dewis recordio ein digwyddiadau ar-lein. Os felly, fe gewch hysbysiad ymlaen llaw gyda chyfarwyddyd ar sut y gallwch gymryd rhan heb gael eich recordio os mai dyna eich dymuniad. Efallai y caiff y recordiadau hyn eu cyhoeddi ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol a'n gwefan.
Storio, cadw a dileu
Gweler yr adran gwybodaeth i'r cyhoedd, ymholiadau, ac archebu gwasanaethau am sut y bydd gwybodaeth archebu yn cael ei defnyddio.
Cynnal digwyddiadau ar-lein: rydym yn defnyddio offer meddalwedd trydydd parti fel Microsoft Teams a Zoom. Bydd gwybodaeth ynghylch pa lwyfan y byddwn yn ei defnyddio ar gyfer pob digwyddiad penodol yn cael ei hegluro wrth rannu gwybodaeth am y digwyddiad.
Gall y trydydd partïon hynny ddefnyddio a storio data personol fel eich enw, eich cyfeiriad e-bost, a'ch rhif ffôn (mewn rhai achosion); eich cyfeiriad IP, a manylion am eich dyfais.
I gael rhagor o fanylion, darllenwch bolisi preifatrwydd Zoom.
I gael rhagor o fanylion, darllenwch bolisi preifatrwydd Microsoft.
Cadw
Byddwn yn cadw'ch manylion cyswllt fel y gallwn roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am ystyriaeth y Senedd o bwnc yr ydych wedi cyfrannu ato, a materion cysylltiedig am flwyddyn ar ôl diwedd tymor y Senedd gyfredol.
Os ydym yn cyhoeddi'r recordiadau ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol a'n gwefan, byddant yn cael eu cadw am gyfnod amhenodol. Fel gyda delweddau a fideos, unwaith y bydd cynnwys yn y parth cyhoeddus, ni allwn warantu y gellir ei dynnu neu ei ddileu.
Grwpiau ffocws
Pa wybodaeth rydym yn ei phrosesu?
Er mwyn hwyluso eich ymgysylltiad â ni yn effeithiol, byddwn yn casglu:
- eich enw a'ch manylion cyswllt, neu fanylion y sefydliad sy'n cynrychioli eich barn
- gwybodaeth am ofynion hygyrchedd a dewisiadau iaith
- eich barn a'ch profiadau fel tystiolaeth yn ymwneud â phynciau penodol Pwyllgor / Busnes y Senedd
Yn y grwpiau ffocws hyn, gallai staff:
- wneud nodyn ysgrifenedig i gofnodi barn cyfranogwyr, a / neu
- ddefnyddio offer recordio sain i gynorthwyo'r hwylusydd i wneud nodiadau cywir.
- ddefnyddio Microsoft Teams i recordio sain a / neu fideo i gynorthwyo'r hwylusydd i wneud nodiadau cywir
Efallai y byddwn yn tynnu lluniau hefyd yn ystod grwpiau ffocws ar-lein ac yn y cnawd - gweler yr adran 'Lluniau, ffilmio a chynnwys digidol' isod i gael manylion am sut y caiff y wybodaeth hon ei defnyddio a'i chadw.
Pam rydym yn ei phrosesu?
Mae'r Comisiwn yn trefnu ac yn gweithredu grwpiau ffocws ag aelodau o'r cyhoedd i gasglu barn a phrofiadau pobl ar waith y mae'r Comisiwn, neu Bwyllgorau'r Senedd yn ei wneud. Mae'r farn a’r safbwyntiau hyn yn helpu i sicrhau y caiff lleisiau ledled Cymru eu cynrychioli mewn ymchwiliadau pwyllgorau neu brosiectau’r Comisiwn.
Pwy fydd yn cael mynediad at y wybodaeth?
Bydd gan staff a chynrychiolwyr y Comisiwn sy'n gweithio ar y gweithgaredd hwn ac yn cyflwyno'r gweithgaredd hwn fynediad at eich gwybodaeth.
Bydd gan unigolion eraill sy'n mynd i’r grŵp ffocws gyda chi fynediad at y farn / safbwyntiau y gallech eu mynegi yn ystod y sesiwn.
Caiff y wybodaeth hon ei choladu mewn adroddiad a gyflwynir i aelodau perthnasol pwyllgor y Senedd ac Ymchwil y Senedd
A gaiff y wybodaeth ei rhannu â thrydydd partïon, neu ei chyhoeddi?
Caiff adroddiad cryno ei lunio, drwy amlinellu canfyddiadau'r grŵp ffocws, a chaiff ei rannu ag Aelodau o’r Senedd a’u staff, ei gyhoeddi ar ein gwefan a'i hyrwyddo ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol, a bydd yn ymddangos mewn adroddiadau perthnasol. Gallai hyn gynnwys dyfyniadau uniongyrchol o ymatebion, ond byddwn yn sicrhau na ddatgelir dim am bwy yw'r ymatebwyr.
Gallai’r deunyddiau hyn gyfeirio at grwpiau penodol sydd wedi cymryd rhan, ond ni fyddant yn rhestru enwau unigolion a gyfrannodd, ac ni fyddant yn cael eu priodoli i ymatebwyr unigol. Ni fydd dyfyniadau a allai nodi unigolion yn cael eu defnyddio heb geisio eich cytundeb yn gyntaf.
Storio, cadw a dileu
Manylion cyswllt: Byddwn yn cadw'ch manylion cyswllt ar ein rhwydwaith TGCh mewnol diogel fel y gallwn roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am ystyriaeth y Senedd o bwnc yr ydych wedi cyfrannu ato, a materion cysylltiedig ar ddiwedd tymor y Senedd gyfredol.
Os nad ydych am i ni gyfathrebu â chi, gallwch naill ai roi gwybod i ni ar yr adeg y byddwch yn gwneud eich cyfraniad neu ar unrhyw bryd wedyn drwy gysylltu â cysylltu@senedd.cymru. Ni fyddwn yn rhannu eich manylion cyswllt â thrydydd parti heb ofyn am eich cytundeb yn gyntaf.
Ffeiliau fideo a sain: Bydd y recordiadau gwreiddiol o gyfweliadau yn cael eu storio ar rwydweithiau TGCh diogel y Comisiwn, ac yn cael eu dileu'n ddiogel ar ddiwedd tymor y Senedd gyfredol.
Weithiau, byddwn yn recordio sesiwn grŵp ffocws neu gyfweliad ar ffurf fideo neu ffeil sain i’n helpu i gadw cofnod o’r drafodaeth. Byddwn bob amser yn gofyn caniatâd y cyfranogwyr cyn recordio. Ni fyddwn yn rhannu’r recordiad yn gyhoeddus, a chaiff y recordiad ei ddileu 12 mis ar ôl i’r sesiwn gael ei chynnal.
Cyfweliadau
Pa wybodaeth rydym yn ei phrosesu?
Er mwyn hwyluso eich ymgysylltiad â ni yn effeithiol cyn ac yn ystod cyfweliad, byddwn yn casglu:
- eich enw a'ch manylion cyswllt
- gwybodaeth am ofynion hygyrchedd a dewisiadau iaith
- eich barn a'ch profiadau fel tystiolaeth yn ymwneud â phynciau penodol Pwyllgor / Busnes y Senedd
Yn y cyfweliadau hyn, gallai staff:
- wneud nodyn ysgrifenedig i gofnodi barn cyfranogwyr, a / neu
- ddefnyddio offer recordio sain i gynorthwyo'r hwylusydd i wneud nodiadau cywir.
- ddefnyddio Microsoft Teams i recordio sain a / neu fideo i gynorthwyo'r hwylusydd i wneud nodiadau cywir
Efallai y byddwn hefyd yn tynnu lluniau yn ystod cyfweliadau, gweler yr adran 'Lluniau, ffilmio a chynnwys digidol' isod i gael manylion am sut y caiff y wybodaeth hon ei defnyddio a'i chadw.
Pam rydym yn ei phrosesu?
Mae'r Comisiwn yn trefnu cyfweliadau ag aelodau o'r cyhoedd i gasglu barn a safbwyntiau pobl ar waith y mae'r Comisiwn, neu Bwyllgorau'r Senedd yn ei wneud.
Efallai y byddwn hefyd yn trefnu cyfweliadau ag unigolion i gasglu barn a phrofiadau ar faterion i gyfrannu at ymholiad y mae'r Senedd yn craffu arno, neu i greu / cyfrannu at arddangosfa a gynlluniwyd.
Pwy fydd yn cael mynediad at y wybodaeth?
Bydd gan staff a chynrychiolwyr y Comisiwn sy'n gweithio ar gyflawni’r gweithgaredd hwn fynediad at eich gwybodaeth er mwyn prosesu’r wybodaeth fel y bo angen ar gfyer y cyfweliad.
Cyfweliadau pwyllgorau: Bydd y cyfweliadau gwreiddiol yn cael eu golygu, ynghyd â chyfweliadau eraill gyda gwahanol gyfranogwyr i lunio fideo a gaiff ei rannu â staff perthnasol y Senedd sy'n cefnogi'r prosiect penodol, ac Aelodau o'r Senedd sy'n eistedd ar y pwyllgor perthnasol sy'n ymgymryd â'r gwaith a'u staff
Efallai y caiff y fideo a grëwyd ac a rannwyd â staff ac Aelodau o'r Senedd ei weld mewn sesiynau tystiolaeth breifat neu gyhoeddus yn y Senedd. Efallai y byddwn yn cyhoeddi'r fideo a grëwyd ar wefan y Senedd gyda'ch caniatâd chi
Cyfweliadau arddangosfeydd: Caiff y cyfweliadau gwreiddiol eu golygu i mewn i fideo a gaiff ei rannu â staff perthnasol y Comisiwn sy'n cefnogi'r prosiect penodol
Efallai y byddwn yn cyhoeddi'r fideo a grëwyd ar wefan y Senedd, ei arddangos ar ystad y Senedd a chynnwys cyfryngau cymdeithasol
A gaiff y wybodaeth ei rhannu â thrydydd partïon, neu ei chyhoeddi?
Cyfweliadau pwyllgorau:
Caiff adroddiad cryno ei lunio, yn amlinellu canfyddiadau'r cyfweliad, a chaiff ei rannu ag Aelodau o’r Senedd a’u staff, ei gyhoeddi ar ein gwefan a'i hyrwyddo ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol, a bydd yn ymddangos mewn adroddiadau perthnasol. Gallai hyn gynnwys dyfyniadau uniongyrchol o ymatebion, ond byddwn yn sicrhau na ddatgelir dim am bwy yw'r ymatebwyr.
Gallai’r deunyddiau hyn gyfeirio at grwpiau penodol sydd wedi cymryd rhan, ond ni fyddant yn rhestru enwau unigolion a gyfrannodd, ac ni fyddant yn cael eu priodoli i ymatebwyr unigol. Ni fydd dyfyniadau a allai nodi unigolion yn cael eu defnyddio heb geisio eich cytundeb yn gyntaf.
Efallai y caiff y fideo a grëwyd ei weld mewn sesiynau tystiolaeth breifat neu gyhoeddus yn y Senedd. Gellir gwylio sesiynau cyhoeddus drwy Senedd.tv. Efallai y byddwn yn cyhoeddi'r fideo a grëwyd ar wefan y Senedd.
Cyfweliadau arddangosfeydd:
Gallai unrhyw gyfweliadau a gynhelir at ddibenion arddangosfa gael eu harddangos yn amlwg ar ystad y Senedd, neu mewn lleoliad arddangos teithiol a chynnwys eich enw, eich proffesiwn, eich sefydliad, eich delwedd a'ch cyfraniad mewn cyfweliad. Efallai hefyd y byddem yn cyhoeddi’r cynnwys hwn ar ein gwefan, y cyfryngau cymdeithasol, neu mewn deunyddiau print, yn ogystal â’u rhannu â’r cyfryngau. Golyga hyn y bydd eich cyfraniad yn aros yn y parth cyhoeddus.
Pan fyddwn yn gwneud hynny, bydd y fideo yn aros yn gyhoeddus am gyfnod amhenodol a bydd ar gael drwy beiriannau chwilio y rhyngrwyd. Os penderfynwn gyhoeddi'r fideo fel hyn byddwn yn rhoi gwybod i chi ymlaen llaw, ac yn gofyn ichi am awdurdod i wneud hynny.
Storio, cadw a dileu
Manylion cyswllt: Byddwn yn cadw'ch manylion cyswllt ar ein rhwydwaith TGCh mewnol diogel fel y gallwn roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am ystyriaeth y Senedd o bwnc yr ydych wedi cyfrannu ato, a materion cysylltiedig. Ni fyddwn yn cadw eich manylion cyswllt ar ôl diwedd tymor y Senedd gyfredol.
Os nad ydych am i ni gyfathrebu â chi, gallwch roi gwybod i ni ar yr adeg y byddwch yn gwneud eich cyfraniad neu gysylltu â ni unrhyw bryd ar cysylltu@senedd.cymru. Ni fyddwn yn rhannu eich manylion cyswllt â thrydydd parti heb ofyn am eich cytundeb yn gyntaf.
Ffeiliau fideo a sain: Bydd y recordiadau gwreiddiol o gyfweliadau yn cael eu storio ar rwydweithiau TGCh diogel y Senedd, ac yn cael eu dileu'n ddiogel ar ddiwedd tymor y Senedd gyfredol.
Efallai y byddwn yn penderfynu cyhoeddi'r fideo a grëwyd ar wefan y Senedd, ei arddangos ar ystad y Senedd, neu ddefnyddio deunydd y gellir ei adnabod mewn adroddiadau, a chynnwys ar y cyfryngau cymdeithasol. Ar ôl ei gyhoeddi, mae'r fideo yn mynd i'r parth cyhoeddus, lle mae'n debygol o aros a byddai'n anodd ei ddileu'n llawn. Os penderfynwn gyhoeddi'r fideo fel hyn byddwn yn rhoi gwybod i chi ymlaen llaw, ac yn gofyn ichi am awdurdod i wneud hynny.
Rhestrau dosbarthu rhanddeiliaid
Pa wybodaeth rydym yn ei phrosesu?
Er mwyn creu/cynnal ein rhestrau dosbarthu rhanddeiliaid, rydym yn casglu'r wybodaeth ganlynol:
- enw,
- manylion cyswllt,
- manylion y sefydliad (pan fo'n briodol)
- dull cysylltu a ffefrir
Pam rydym yn ei phrosesu?
Rydym yn rheoli rhestrau dosbarthu ar gyfer cysylltu â rhanddeiliaid, fel pobl sy'n gweithio yn y gymdeithas ddinesig, y cyfryngau, a gweithwyr proffesiynol yn y sector addysg ar faterion sy'n ymwneud â'n gwaith. Dyma'r unigolion yr ydym yn cysylltu â nhw mewn perthynas â'n dyletswyddau swyddogol.
Rydym yn ychwanegu pobl at y rhestr hon ar ôl cael gafael ar eu gwybodaeth gyswllt ar-lein, drwy gysylltiadau proffesiynol, ac ar ôl i'r unigolion hynny gysylltu â ni i gael eu hychwanegu at y rhestr.
Pwy fydd yn cael mynediad at y wybodaeth?
Bydd gan aelodau cyfyngedig o staff yn y gwasanaeth Cyfathrebu ac Ymgysylltu fynediad at y wybodaeth hon er mwyn rheoli rhestrau dosbarthu, a chefnogi dulliau cysylltu (h.y. newyddlenni).
O bryd i'w gilydd efallai y byddwn yn rhannu'r rhestrau dosbarthu hyn ag adrannau eraill y Comisiwn sy'n cefnogi mentrau’r Senedd.
A gaiff y wybodaeth ei rhannu â thrydydd partïon, neu ei chyhoeddi?
Ni fydd y wybodaeth yn cael ei rhannu â thrydydd partïon, nac yn cael ei chyhoeddi
Storio, cadw a dileu
Rydym yn adolygu'r rhestrau hyn yn barhaus drwy gydol tymor y Senedd i sicrhau eu bod yn parhau i fod yn gyfredol ac yn gywir. Ar ddiwedd tymor y Senedd cynhelir adolygiad pellach hefyd. Os hoffech optio allan o gael eich ychwanegu at ein rhestrau dosbarthu, rhowch wybod i'ch cyswllt yn y Comisiwn ar yr adeg y gwneir y cysylltiad, neu os hoffech gael eich tynnu oddi ar restr yn y dyfodol, cysylltwch â cysylltu@senedd.cymru.
Os ydych ar restr ddosbarthu sy'n cysylltu â thanysgrifiad i newyddlen, gweler rhagor o wybodaeth o dan 'Tanysgrifio i newyddlen'.
Tanysgrifio i newyddlen
Pa wybodaeth rydym yn ei phrosesu?
I danysgrifio i'n newyddlenni rydym yn casglu:
- eich cyfeiriad e-bost
- enw
- dewisiadau o ran pynciau yr hoffech dderbyn gwybodaeth amdanynt
Gallwch danysgrifio i'n newyddlenni ar-lein, ac wyneb yn wyneb drwy fynd i wahanol weithgareddau a gaiff eu trefnu gennym.
Pam rydym yn ei phrosesu?
Rydym yn cyhoeddi newyddlenni i'ch hysbysu am waith y Comisiwn, gweithgareddau / digwyddiadau sydd ar y gweill a chyfleoedd y gallwch gymryd rhan ynddynt.
Gall pynciau newyddlenni fod yn benodol i ddilyn darn o waith pwyllgor, neu gael gwybodaeth am ddiweddariadau ehangach ar y Comisiwn yn ei gyfanrwydd. Gallwch ddewis pa fath o newyddlen yr hoffech danysgrifio iddi pan fyddwch yn cofrestru.
Pwy fydd yn cael mynediad at y wybodaeth?
Caiff rhestrau cyswllt tanysgrifiadau newyddlenni eu rheoli gan staff y Senedd sy'n rheoli'r gweithgaredd hwn a dim ond at ddibenion dosbarthu'r newyddlen berthnasol i'r unigolyn sydd wedi cofrestru i'w dderbyn y byddant yn cael eu defnyddio.
A gaiff y wybodaeth ei rhannu â thrydydd partïon, neu ei chyhoeddi?
Mae'r Senedd yn defnyddio MailChimp i anfon newyddlenni at ei thanysgrifwyr. Defnyddir llwyfan MailChimp i storio a rheoli gwybodaeth gyswllt tanysgrifwyr. Gallai Mailchimp storio gwybodaeth y tu allan i'r DU.
- I gael manylion am ddiogelwch MailChimp
- I gael manylion am bolisi preifatrwydd MailChimp
- I gael manylion am hysbysiad Atodiad Prosesu Data MailChimp
Storio, cadw a dileu
Rydym yn defnyddio MailChimp i storio a rheoli eich gwybodaeth gyswllt pan fyddwch yn tanysgrifio i'n newyddlen naill ai drwy ddefnyddio'r 'ffurflen gofrestru i gael newyddlen' ar ein gwefan neu adael eich manylion cyswllt ar gardiau post, a byddwn yn eu hychwanegu at y rhestr bostio berthnasol ar gyfer y newyddlen, a chaiff e-bost cadarnhau ei anfon atoch. Yna, byddwn yn dinistrio'r cerdyn post yn ddiogel.
Caiff y wybodaeth hon ei chadw nes eich bod yn dad-danysgrifio, a gallwch gysylltu â ni ar unrhyw adeg i dynnu eich enw oddi ar y rhestrau dosbarthu hyn, a’r rhestrau postio newyddlenni.
Arolygon ar-lein
Pa wybodaeth rydym yn ei phrosesu?
Er mwyn hwyluso eich ymgysylltiad â ni yn effeithiol, efallai y byddwn yn casglu'r canlynol, yn dibynnu ar natur yr arolwg:
- eich enw a'ch manylion cyswllt
- eich barn neu dystiolaeth yn ymwneud â phynciau penodol Pwyllgor / Busnes y Senedd
- data amrywiaeth a chynhwysiant yn ymwneud â'ch oedran, rhyw, ethnigrwydd, daearyddiaeth ac ati
- eich adborth ar ein gwasanaethau
Pam rydym yn ei phrosesu?
Ar gyfer pynciau Pwyllgor / Busnes y Senedd: Weithiau, bydd y Comisiwn yn trefnu ac yn gweithredu arolygon ar-lein ag aelodau o'r cyhoedd i gasglu barn a safbwyntiau pobl ar waith y mae pwyllgorau'r Comisiwn yn ei wneud. Mae'r farn a’r safbwyntiau hyn yn helpu i sicrhau y caiff lleisiau ledled Cymru eu cynrychioli mewn ymchwiliadau pwyllgorau.
I gael adborth ar ein gwasanaethau: Mae’r gwasanaeth Cyfathrebu ac Ymgysylltu yn ymgysylltu â phobl Cymru ar faterion yn ymwneud â'r Senedd, gyda ffocws yr ymdrech ar ymgysylltu â grwpiau nad ydynt yn ymgysylltu, gan gynnwys y rhai sy'n teimlo nad yw eu lleisiau, yn draddodiadol, yn cael eu clywed gan sefydliadau fel y Senedd.
Mae'r data rydym yn eu casglu o'n harolygon yn ein helpu i weld pwy rydym yn ymgysylltu â nhw a chreu cynulleidfaoedd targed i'r rhai nad ydynt yn ymgysylltu.
Pwy fydd yn cael mynediad at y wybodaeth?
Bydd gan aelodau cyfyngedig o staff y Comisiwn fynediad at eich gwybodaeth er mwyn prosesu’r wybodaeth fel y bo angen ar gyfer yr arolwg.
Ar gyfer ymatebion arolwg yn ymwneud â phwyllgor, bydd staff sy'n gweithio ar yr arolwg neu'r ymchwiliad perthnasol yn gweld ymatebion yr arolwg.
Ar gyfer arolygon sy'n ein helpu i werthuso ein gwasanaethau, bydd y wybodaeth hon ar gael i aelodau o staff Cyfathrebu ac Ymgysylltu, lle caiff adroddiad cryno ei lunio’n amlinellu'r canfyddiadau a'r hyn a ddysgwyd ar gyfer Uwch Reolwyr er mwyn datblygu ein gwasanaeth.
A gaiff y wybodaeth ei rhannu â thrydydd partïon, neu ei chyhoeddi?
Ar gyfer arolygon sy'n gysylltiedig â phwyllgor:
- Caiff adroddiad cryno ei lunio, yn amlinellu canfyddiadau'r arolwg, a chaiff ei rannu ag Aelodau a staff, ei gyhoeddi ar ein gwefan a'i hyrwyddo ar sianeli cyfryngau cymdeithasol, a bydd yn ymddangos mewn adroddiadau perthnasol. Gallai hyn gynnwys dyfyniadau uniongyrchol o ymatebion, ond byddwn yn sicrhau na ddatgelir dim am bwy yw'r ymatebwyr.
- Gallai’r deunyddiau hyn gyfeirio at grwpiau penodol sydd wedi cymryd rhan, ond ni fyddant yn rhestru enwau unigolion a gyfrannodd, ac ni fyddant yn cael eu priodoli i ymatebwyr unigol. Ni fydd dyfyniadau a allai nodi unigolion yn cael eu defnyddio heb geisio eich cytundeb yn gyntaf.
Ar gyfer arolygon sy'n ein helpu i werthuso ein gwasanaethau:
- ni chaiff y wybodaeth hon ei chyhoeddi na’i rhannu â thrydydd partïon.
Storio, cadw a dileu
Pan fyddwn yn defnyddio arolygon ar-lein, rydym yn defnyddio Microsoft Forms. Manylion am bolisi preifatrwydd Microsoft.
Ymatebion i arolygon: Bydd ymatebion i arolygon yn cael eu dileu ddeuddeg mis ar ôl dyddiad cau'r arolwg, neu hyd nes bod unrhyw broses adrodd ddilynol wedi'i chwblhau. Ni fyddwn yn cadw unrhyw ymatebion i arolygon y tu hwnt i ddiwedd tymor y Senedd gyfredol.
Manylion cyswllt: Byddwn yn dal gafael ar fanylion cyswllt y rhai sy'n eu darparu er mwyn cael diweddariad pellach ar y prosiect penodol y maent wedi cyfrannu ato nes bydd y prosiect wedi dod i ben.
Os byddwch yn darparu eich gwybodaeth gyswllt i gael diweddariadau gennym, byddwn yn cadw'ch manylion cyswllt fel y gallwn roi'r wybodaeth ddiweddaraf ichi am ystyriaeth y Senedd o destun eich cyfraniad, a materion cysylltiedig. Ni fyddwn yn rhannu eich manylion cyswllt â thrydydd parti heb ofyn am eich cytundeb yn gyntaf.
I'r rhai sydd wedi gofyn am ddiweddariad pellach o ran cyfleoedd i ymgysylltu â ni ar bwnc (er enghraifft iechyd, addysg, trafnidiaeth) y prosiect y maent yn cymryd rhan ynddo, cedwir eu manylion cyswllt nes y byddwch yn cysylltu â ni i ddileu'r manylion ac nad ydych yn dymuno parhau i gael y wybodaeth ddiweddaraf gennym.
Senedd Ieuenctid Cymru
Cyfeiriwch at hysbysiad preifatrwydd Senedd Ieuenctid Cymru drwy'r linc ganlynol: Polisi Preifatrwydd Senedd Ieuenctid Cymru
Lluniau, ffilmio a chynnwys digidol
Pa wybodaeth rydym yn ei phrosesu?
Mae'r Comisiwn yn defnyddio amlgyfrwng, gan gynnwys:
- lluniau
- ffilmiau
- cynnwys cyfryngau cymdeithasol
- cynnwys a grëwyd ac a rannwyd gan unigolion mewn digwyddiadau
Pam rydym yn ei phrosesu?
Rydym yn tynnu lluniau ac yn ffilmio yn ystod teithiau, digwyddiadau (ar ystad y Senedd ac oddi arni), grwpiau ffocws ar-lein, ac yn ystod gweithgareddau eraill a gynlluniwyd i gasglu barn pobl am wahanol faterion, ac i ddangos y gwaith a wnawn i ymgysylltu â'r cyhoedd.
Gallai lluniau a lluniau fideo a gedwir gennym gael eu defnyddio, heb gyd-destun y digwyddiad a ffotograffwyd neu a ffilmiwyd, i hyrwyddo gwaith y Senedd ac ymgysylltu â phobl Cymru.
Bydd y Comisiwn yn ofalus wrth ddewis delweddau, fideos a recordiadau y mae'n eu defnyddio at ddibenion hyrwyddo. Byddwn yn osgoi defnyddio deunyddiau a gasglwyd yn ystod sesiynau tystiolaeth sy'n ymwneud â phwyllgorau, neu lle rydym wedi ceisio barn unigolion ar bynciau penodol, at ddibenion hyrwyddo.
Pwy fydd yn cael mynediad at y wybodaeth?
Bydd gan aelodau o staff y Comisiwn fynediad at eich gwybodaeth er mwyn prosesu’r wybodaeth fel y bo angen yn dibynnu ar y gofynion / anghenion o ran y cynnwys.
Ein tîm digidol a dylunio sy’n rheoli'r lluniau, ffilmiau a chynnwys cyfryngau cymdeithasol rydym yn eu tynnu / cynhyrchu. Efallai y caiff y cynnwys ei ddangos i Aelodau o'r Senedd a staff y Comisiwn fel tystiolaeth ar gyfer ymgynghoriadau pwyllgorau'r Senedd.
Bydd unrhyw luniau, ffilm, neu gynnwys digidol a dynnir at ddibenion arddangosfa ar ystâd y Senedd, neu ar gyfer lleoliad arddangos teithiol, yn cael eu rheoli gan ein tîm Arddangosfeydd, a'i rannu gyda'n tîm Digidol a Dylunio at ddibenion creu cynnwys ategol i hyrwyddo, neu frandio'r gweithgaredd hwnnw.
A gaiff y wybodaeth ei rhannu â thrydydd partïon, neu ei chyhoeddi?
Efallai y byddwn yn cyhoeddi delweddau a chynnwys fideo ar ein:
- gwefan (www.senedd.cymru)
- sianeli cyfryngau cymdeithasol
Gallent hefyd:
- ymddangos mewn deunyddiau print
- gael eu dangos i Aelodau o'r Senedd a staff y Comisiwn fel tystiolaeth ar gyfer ymgynghoriadau pwyllgorau'r Senedd
- gael eu rhannu â’r cyfryngau
Bydd unrhyw luniau, ffilm neu gynnwys digidol a dynnir at ddibenion arddangosfa ar ystad y Senedd, a rennir gan banelwyr mewn digwyddiadau a gweithdai, neu ar gyfer lleoliad arddangos teithiol, yn cael eu trin yn yr un modd a gellid eu cyhoeddi i'n gwefan, sianeli cyfryngau cymdeithasol, deunyddiau printiedig a'u rhannu â’r cyfryngau. Golyga hyn y bydd eich cyfraniad yn aros yn y parth cyhoeddus.
Ar gyfer digwyddiadau sydd â mwy o ddiddordeb i'r cyhoedd, gall sefydliadau trydydd parti, ar adegau, ddod i ystad y Senedd, fel cyfryngau newyddion a darlledwyr, i wneud recordiadau sain a / neu fideo a / neu ffotograffiaeth. Nid Comisiwn y Senedd yw'r rheolwr data ar gyfer y wybodaeth a gesglir gan y sefydliadau hyn. Dylid gofyn am ragor o wybodaeth am eu dull o brosesu eich data personol gan y trydydd parti yn uniongyrchol.
Os oes gennych bryderon am eich ymddangosiad mewn lluniau neu fideos, rhowch wybod i aelod o staff y Comisiwn cyn neu yn ystod y gweithgaredd, neu anfonwch e-bost at cysylltu@senedd.cymru.
Mae'r Comisiwn yn adolygu cynnwys digidol a gesglir yn rheolaidd, ac ni fydd yn cadw lluniau a fideos sy'n annhebygol o fod o unrhyw werth gweithredol yn y dyfodol.
Storio, cadw a dileu
Efallai y bydd rhai delweddau a fideos wedi'u tynnu (yn enwedig rhai o werth busnes hanesyddol a pharhaus) yn cael eu cadw am gyfnod amhenodol ond maent yn cael eu hadolygu ar ôl diwedd tymor pob Senedd a'u dileu lle nad oes eu hangen mwyach.
Os yw llun rydych chi'n ymddangos ynddo yn cael ei ddefnyddio, ac nad ydych yn dymuno hynny, cysylltwch â digital@senedd.cymru.
Byddwch yn ymwybodol nad yw hyn yn gwarantu y bydd y Comisiwn yn rhoi'r gorau i ddefnyddio'r ffotograff a bod cynnwys a gyhoeddir ar-lein gennym yn mynd i'r parth cyhoeddus ac mae'n debygol y bydd yn aros yno ac yn dod yn anodd ei reoli neu ei ddileu.
Pan fyddwn yn casglu cynnwys gan grwpiau llai neu unigolion, byddwn yn gofyn am ganiatâd yr unigolion hynny er mwyn sicrhau bod yr unigolion hynny yn hapus ein bod yn tynnu eu llun neu yn eu ffilmio.
Os nad ydych am ymddangos mewn unrhyw luniau neu fideos, neu os hoffech ofyn cwestiwn am sut y bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio, rhowch wybod i aelod o staff Comisiwn y Senedd cyn, neu yn ystod y gweithgaredd, neu anfonwch e-bost at cysylltu@senedd.cymru.
Ymgysylltu â ni ar y cyfryngau cymdeithasol
Pa wybodaeth rydym yn ei phrosesu?
Ymholiadau Defnyddwyr a Phrosesu Gwybodaeth
Pan fyddwch yn cyflwyno cwestiynau neu ymholiadau drwy ein sianeli cyfryngau cymdeithasol, rydym yn casglu ac yn prosesu'r wybodaeth a ddarperir i fynd i'r afael â'ch pryderon ac ymateb iddynt yn effeithiol. Gallai hyn gynnwys:
- rhan o neges
- gwybodaeth am y cyfrif y tarddodd y neges ohono
- URL uniongyrchol y neges
- unrhyw wybodaeth gyswllt ychwanegol a ddarperir
Cymedroli
Rydym yn cymedroli ein sianeli cyfryngau cymdeithasol i sicrhau eu bod yn fannau diogel a difyr i bawb. Er mwyn sicrhau diogelwch, efallai y byddwn yn cadw cofnod o negeseuon os yw cyfrif wedi'i flocio neu'n torri ein canllawiau cyfryngau. Gallai hyn fod yn wybodaeth sy’n:
- rhan o neges
- gwybodaeth am y cyfrif y tarddodd y neges ohono
- yn benodol, 'sgrinlun' o neges gan gynnwys testun y neges, enw'r cyfrif a'r dyddiad y cafodd ei bostio
- URL uniongyrchol negeseuon penodol
Pam rydym yn ei phrosesu?
Rydym yn defnyddio llwyfannau cyfryngau cymdeithasol fel rhan allweddol o’n gwaith ymgysylltu â’r cyhoedd. Yn ogystal â defnyddio'r llwyfannau hyn i roi gwybodaeth at ddibenion codi ymwybyddiaeth, rydym yn annog rhyngweithio, yn enwedig yr hyn y gellir ei gynnwys mewn gwaith craffu seneddol.
Pwy fydd yn cael mynediad at y wybodaeth?
Staff y Comisiwn sy'n goruchwylio ac yn hwyluso ein sianeli cyfryngau cymdeithasol.
Pan fydd rhyngweithio yn gallu cael eu cynnwys mewn gwaith craffu seneddol, byddwn yn sicrhau ein bod yn egluro y defnyddir eich sylwadau i gyfrannu at waith craffu'r Senedd.
Yn yr achosion hynny, gellir trosglwyddo'ch ymatebion i'n negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol (gan gynnwys eich enw/enw X) i staff ac Aelodau, a gallant ymddangos mewn adroddiadau a deunyddiau eraill a gyhoeddir ar wefan y Senedd a chyfrifon cyfryngau cymdeithasol.
A gaiff y wybodaeth ei rhannu â thrydydd partïon, neu ei chyhoeddi?
Gallai ymatebion sy'n gysylltiedig â chraffu seneddol ymddangos mewn adroddiadau a deunyddiau eraill a gyhoeddir ar wefan a chyfrifon cyfryngau cymdeithasol y Senedd
Storio, cadw a dileu
Os ydych yn rhannu ein cynnwys drwy'r cyfryngau cymdeithasol, er enghraifft drwy ein hoffi ar Facebook, ein dilyn neu drydar amdanom ar X (Twitter gynt), bydd y rhwydweithiau cymdeithasol hynny yn cofnodi eich bod wedi gwneud hynny a gallant osod cwci at y diben hwn. Drwy ddefnyddio'r llwyfannau hynny rydych yn cytuno â thelerau eu gwasanaeth.
Er mwyn rheoli ein rhyngweithio ar y cyfryngau cymdeithasol rydym yn defnyddio'r darparwyr trydydd parti a ganlyn.
Sprout Social: I gael rhagor o wybodaeth, gweler bolisi preifatrwydd Sprout Social.
Mae Sprout Social, Inc. yn cydymffurfio â Fframwaith Preifatrwydd Data yr UE-UDA, ac Estyniad y DU i Fframwaith yr UE-UDA. I gael gwybodaeth am hyn ewch i: Polisi Preifatrwydd | Sprout Social | Trosglwyddiadau Rhyngwladol
Monitro’r Cyfryngau a Chyfryngau Cymdeithasol
Pa wybodaeth rydym yn ei phrosesu?
Mae'r Comisiwn yn defnyddio dau offeryn i fonitro’r cyfryngau.
Pulsar: Mae’n monitro cyfryngau cymdeithasol, fforymau, a'r rhyngrwyd. Mae’n olrhain sgyrsiau, teimladau a materion sy'n dod i'r amlwg. Mae Pulsar yn casglu gwybodaeth sydd ar gael yn gyhoeddus o lwyfannau cyfryngau cymdeithasol a fforymau cyhoeddus. Gallai hyn gynnwys manylion proffil fel lluniau proffil, enwau defnyddwyr neu enw ar y cyfrwng, gwybodaeth bywgraffiad, cynnwys negeseuon, a data lleoliad.
Yn ogystal, mae Pulsar yn casglu metrigau ymgysylltu o negeseuon cyfryngau cymdeithasol cyhoeddus, gan gynnwys nifer y sylwadau, hoffi a rhannu.
Vuelio: Mae’n canolbwyntio ar gynnyrch newyddion a materion cyfoes. Mae'r offer hyn yn helpu i ddeall cyrhaeddiad ac effaith gwaith Comisiwn y Senedd drwy ddadansoddi’r sylw a gaiff ar draws gwahanol sianeli.
Mae Vuelio hefyd yn olrhain sgyrsiau ar-lein, teimladau, a materion sy'n dod i'r amlwg.
Pam rydym yn ei phrosesu?
Mae ein tîm cyfathrebu yn gweithio i esbonio gwaith y Senedd a'i effaith ar fywydau pobl ledled Cymru.
Mae'r Senedd wedi gosod nod strategol i gynyddu ei hymgysylltiad â phobl ledled Cymru a rhoi'r dinesydd wrth galon popeth y mae'n ei wneud. Mae cysylltiadau â'r cyfryngau yn elfen allweddol wrth gyflawni'r nod hwn.
Mae'r ddau offeryn yn rhoi cipolwg gwerthfawr o ran y gynulleidfa ar gyfer cynllunio cyfathrebu a gwaith sy'n gysylltiedig â'r Senedd.
Pwy fydd yn cael mynediad at y wybodaeth?
Mae gan ein tîm Cyfathrebu fynediad at y canlyniadau y mae'r platfformau’n eu cynhyrchu.
Caiff y wybodaeth hon ei defnyddio mewn adroddiadau'n ymwneud â gweithgareddau sydd ar y gweill gan y Senedd, gan dynnu sylw at unrhyw fewnwelediadau a gynhyrchir. Gellir rhannu'r adroddiadau hyn ag Uwch Swyddogion o fewn y Comisiwn, gan gynnwys timau Diogelwch a Phlismona'r Senedd, os oes angen.
A gaiff y wybodaeth ei rhannu â thrydydd partïon, neu ei chyhoeddi?
Gellir rhannu'r wybodaeth hon sydd ar gael i'r cyhoedd ag Aelodau o'r Senedd o fewn adroddiad cryno a gellir rhannu manylion llawn â thimau Plismona'r Senedd, os oes angen.
Storio, cadw a dileu
Mae'r llwyfannau’n arddangos gwybodaeth sydd ar gael i'r cyhoedd sydd wedi'i huwchlwytho i'r rhyngrwyd drwy wahanol lwyfannau cyfryngau a chyfryngau cymdeithasol. I gael rhagor o wybodaeth am sut mae Vuelio a Pulsar yn prosesu eich data personol, ewch i'w hysbysiadau preifatrwydd priodol drwy'r licns canlynol:
Vuelio: Polisi Preifatrwydd | Vuelio
Pulsar: Polisi Preifatrwydd (pulsarplatform.com)
- Mae Vuelio yn cynnal ei ddata yn y DU ac mae Pulsar yn cynnal ei ddata yn Iwerddon.
- Mae Grŵp Pulsar (sy'n rheoli brandiau Pulsar a Vuelio) yn cydymffurfio â'r cymalau cytundebol safonol fel y mecanwaith trosglwyddo data o ran trosglwyddo data y DU / UE i wledydd sy'n ddarostyngedig i ofynion trosglwyddo data. I gael gwybod mwy ewch i: Polsi Preifatrwydd | Pulsar | How we approach transferring and processing your Personal Data internationally
Mae nifer fach o staff y comisiwn yn gallu tynnu gwybodaeth allan, ac adrodd ar faterion o ddiddordeb, caiff y rhain eu hadolygu a’u dileu pan nad ydynt bellach o werth busnes.
Gwefan
Os byddwch yn cysylltu â ni drwy'r wefan at ddibenion cofrestru ar gyfer digwyddiad, tanysgrifiadau e-bost, a gweithgareddau ymgysylltu eraill, dim ond at y dibenion hynny y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio.
Mae manylion am wybodaeth a gesglir drwy ein gwefan ar gael yn Rhybudd preifatrwydd canolog y Senedd.