Hysbysiad Preifatrwydd Pwyllgorau'r Senedd

Cyhoeddwyd 19/06/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 22/07/2021   |   Amser darllen munud

Newid 23 Gorffennaf 2021

Pwy ydyn ni?

Comisiwn y Senedd yw rheolwr data'r wybodaeth a roddwch a bydd yn sicrhau ei bod yn cael ei diogelu a'i defnyddio yn unol â deddfwriaeth diogelu data.

Swyddog Diogelu Data

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y ffordd rydym yn prosesu eich data personol, neu sut i arfer eich hawliau, cysylltwch â'n Swyddog Diogelu Data yn:

Tŷ Hywel,
Stryd y Pierhead,
Bae Caerdydd
CF99 1SN

0300 200 6494

diogelu.data@senedd.cymru

Beth yw pwyllgorau’r Senedd?

Mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn ymwneud â defnyddio unrhyw wybodaeth a roddwch mewn perthynas â gwaith pwyllgorau'r Senedd. Mae pwyllgorau yn y Senedd yn cyflawni llawer o swyddogaethau, gan gynnwys craffu ar wariant a pholisïau Llywodraeth Cymru, dwyn Gweinidogion i gyfrif, ac edrych yn fanwl ar ddeddfwriaeth arfaethedig.

Beth fyddwn ni'n ei wneud gyda'ch gwybodaeth?

Bydd eich gwybodaeth yn cael ei phrosesu gan staff sy'n gweithio i Gomisiwn y Senedd. Wrth gasglu cyfraniadau i waith pwyllgorau'r Senedd, byddwn yn cadw at ddarpariaethau'r hysbysiad preifatrwydd hwn. At hynny, byddwn yn cymhwyso'r egwyddorion hyn:

  • Byddwn bob amser yn dweud wrthych sut y bydd y wybodaeth a roddwch inni yn cael ei defnyddio;
  • Byddwn byth yn rhannu eich manylion cyswllt â thrydydd parti heb ofyn am eich caniatâd yn gyntaf, oni bai ei bod yn ofynnol inni yn ôl y gyfraith;
  • Os ydym yn defnyddio llwyfan trydydd parti i gasglu gwybodaeth, er enghraifft, arolwg, byddwn bob amser yn dweud wrthych ymlaen llaw.

Nodir manylion penodol am sut rydym yn defnyddio eich gwybodaeth isod.

Ein seiliau cyfreithiol ar gyfer casglu, cadw a defnyddio eich gwybodaeth bersonol

Mae cyfraith diogelu data yn nodi seiliau cyfreithiol amrywiol sy'n ein galluogi ni i gasglu, cadw a defnyddio eich gwybodaeth bersonol. At ddibenion prosesu'r data personol a ddarperir gennych, rydym yn dibynnu ar y ffaith ei bod yn angenrheidiol prosesu’r data ar gyfer perfformio tasg a gyflawnir er budd y cyhoedd. Y dasg yw hwyluso gwaith pwyllgor seneddol i ymgymryd â'i swyddogaeth ddemocrataidd, sef craffu ar Lywodraeth Cymru a chynrychioli pobl Cymru, a sicrhau bod y pwyllgor yn gallu cyflawni ei swyddogaeth yn unol â'r egwyddor y dylid sicrhau cyfle cyfartal i bawb.

Bydd hefyd angen i'r Comisiwn gyfathrebu a hyrwyddo gwaith y Senedd ac ymgysylltu â phobl Cymru i alluogi'r Senedd i wneud ei gwaith mor effeithiol â phosibl. Mae cyfathrebu ac ymgysylltu â phobl Cymru yn galluogi'r Senedd i ystyried safbwyntiau'r bobl y mae'n eu cynrychioli wrth wneud penderfyniadau. Mae hefyd yn ateb y diben ehangach o hwyluso gweithgareddau sy'n cefnogi neu'n hyrwyddo ymgysylltiad democrataidd.

Efallai y byddwn yn prosesu data personol sy'n ymwneud ag euogfarnau troseddol a throseddau os byddwch yn dewis darparu gwybodaeth o’r fath, er enghraifft, fel rhan o dystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i alwad pwyllgor am dystiolaeth. Caiff y wybodaeth hon ei phrosesu ar y sail ei bod yn angenrheidiol er mwyn cwblhau tasg a gyflawnir er budd y cyhoedd, i’w ddarllen ar y cyd ag adran 10 o Ddeddf Diogelu Data 2018 a pharagraff 6 o Atodlen 1 iddi.

Data personol categori arbennig

Efallai y byddwn yn prosesu data personol categori arbennig os byddwch yn dewis darparu gwybodaeth o’r fath. Diffinnir data personol categori arbennig fel rhai sy'n cynnwys data sy'n datgelu tarddiad hiliol neu ethnig, barn wleidyddol, aelodaeth undebau llafur, credoau crefyddol neu athronyddol, cyfeiriadedd rhywiol a data am iechyd.

Fel arfer, caiff data categori arbennig eu prosesu ar y sail eu bod yn angenrheidiol am resymau o ddiddordeb cyhoeddus sylweddol (fel y darperir ar eu cyfer gan Erthygl 9(2)(g) o GDPR y DU, a ddarllenir ar y cyd â pharagraff 6 o Atodlen 1 i Ddeddf Diogelu Data 2018).

Archifo

Bydd cynnwys eich cyflwyniad yn dod yn gofnod cyhoeddus, ac mae’n bosibl y caiff ei drosglwyddo i Lyfrgell Genedlaethol Cymru i'w archifo. Ein sail gyfreithiol ar gyfer archifo yw bod angen cyflawni tasg er budd y cyhoedd. Pryd bynnag y byddwn yn archifo unrhyw ddata personol categori arbennig, caiff ei brosesu ar y sail ei fod yn angenrheidiol at ddibenion archifo er budd y cyhoedd , yn unol ag Erthygl 9(2)(j) o Reoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data y DU a'i ddarllen ar y cyd â pharagraff 4 o Atodlen 1 i Ddeddf Diogelu Data 2018.

Tystiolaeth ysgrifenedig a gohebiaeth

Bydd cyfraniadau'n cael eu storio'n ddiogel ar ein systemau TGCh, sy'n cynnwys gwasanaethau cwmwl trydydd parti a ddarperir gan Microsoft. Mae unrhyw drosglwyddiad data gan Microsoft y tu allan i'r AEE yn dod o dan gymalau cytundebol lle mae Microsoft yn sicrhau bod data personol yn cael eu trin yn unol â deddfwriaeth berthnasol. I gael gwybod rhagor am sut y bydd Microsoft yn defnyddio eich gwybodaeth, gallwch ddarllen datganiad preifatrwydd y cwmni yma.

Ar wahân i'r fersiwn ddigidol gyhoeddedig, ni fydd unrhyw gopïau ffisegol a digidol eraill o'ch cyfraniad yn cael eu cadw y tu hwnt i ddiwedd y Senedd bresennol. Yn achos cyfraniad sydd wedi'i olygu, bydd y fersiwn heb ei golygu a gafodd ei hystyried gan y Pwyllgor yn cael ei chadw am gyfnod amhenodol ond ni chaiff ei chyhoeddi.

Efallai y byddwn yn defnyddio Microsoft Forms i gasglu tystiolaeth ysgrifenedig. I gael gwybod rhagor am sut y bydd Microsoft yn defnyddio eich gwybodaeth, gallwch ddarllen datganiad preifatrwydd y cwmni yma.

Cyhoeddi tystiolaeth a gohebiaeth ysgrifenedig

Byddwn fel arfer yn cyhoeddi gohebiaeth neu dystiolaeth ysgrifenedig ar ein gwefan, yn amodol ar y darpariaethau sy'n dilyn.

Efallai y byddwn yn penderfynu peidio â chyhoeddi ymatebion pan fyddwn wedi cael nifer fawr iawn o gyflwyniadau neu lle'r ydym yn cael grŵp o gyflwyniadau sy'n dweud pethau tebyg neu'r un peth. Yn yr achosion hynny, mae'n bosibl mai dim ond rhestr o enwau'r bobl sydd wedi anfon eu barn y byddwn yn ei chyhoeddi, yn amodol ar y darpariaethau sy'n dilyn mewn perthynas â chyhoeddi enwau unigolion.

Nid oes rheidrwydd arnom i dderbyn unrhyw dystiolaeth ysgrifenedig, nac i gyhoeddi'r cyfan neu unrhyw ran ohoni hyd yn oed os yw wedi'i derbyn. Nid oes rheidrwydd arnom i gyhoeddi'r cyfan neu unrhyw ran o ohebiaeth ar ein gwefan. Efallai y byddwn yn gofyn i chi olygu eich tystiolaeth neu ohebiaeth os yw'n cynnwys deunydd sy'n dramgwyddus neu'n amhriodol.

Ystyrir bod unrhyw ohebiaeth neu ddeunydd a rennir gyda chadeirydd pwyllgor, yn ei rôl fel cadeirydd, yn ohebiaeth â phwyllgor. Felly, gellir ei chyhoeddi a'i rhannu ag aelodau eraill o'r pwyllgor a swyddogion perthnasol.

Efallai y byddwn yn prosesu data personol categori arbennig os byddwch yn dewis darparu unrhyw ddata o'r fath, a'u cyhoeddi yn amodol ar y darpariaethau yn yr hysbysiad preifatrwydd hwn.

Efallai y byddwn yn cynnwys rhannau o dystiolaeth ysgrifenedig a gohebiaeth mewn papurau briffio, adroddiadau neu ddogfennau eraill a ddefnyddir gan y pwyllgor i ymgymryd â'i waith. Efallai y byddwn yn cyhoeddi rhannau o dystiolaeth ysgrifenedig a gohebiaeth ar ein gwefan ac ar lwyfannau'r cyfryngau cymdeithasol a ddefnyddir gan bwyllgorau’r Senedd. Unwaith y byddant ar gael i'r cyhoedd, gall partïon nad ydynt yn gysylltiedig, fel y cyfryngau neu ddarlledwyr, ailddefnyddio'r rhannau cyhoeddedig hyn o gyfraniadau at eu dibenion eu hunain.

Os cyhoeddir cyfraniad neu ran o gyfraniad ar ein gwefan, bydd yn parhau'n gyhoeddus am gyfnod amhenodol a bydd ar gael drwy beiriannau chwilio ar y rhyngrwyd.

Os ydych wedi ymateb yn bersonol, bydd eich enw'n cael ei gyhoeddi ynghyd â'ch cyfraniad, oni bai eich bod wedi gofyn i'ch cyfraniad fod yn ddienw.

Efallai y byddwn yn penderfynu peidio â chyhoeddi enwau unigolion pan fyddwn wedi cael nifer fawr o gyflwyniadau.

Os ydych wedi ymateb mewn rhinwedd broffesiynol, bydd y fersiwn gyhoeddedig yn cynnwys eich enw, teitl/rôl eich swydd os yw'n berthnasol, ac enw eich sefydliad. Efallai y byddwn, mewn amgylchiadau eithriadol, yn cytuno i dderbyn cyflwyniadau dienw gan unigolion sydd wedi cyfrannu mewn rôl broffesiynol. Yn y sefyllfaoedd hyn, efallai y bydd gan aelodau'r pwyllgor fynediad at gynnwys llawn eich cyflwyniad.

Derbyn a chyhoeddi cyfraniadau gan bobl ifanc

Cyn derbyn cyfraniadau gan unigolion o dan 13 oed, mae arnom angen awdurdodiad gan riant neu warcheidwad y person ifanc. Gellir darparu hyn ar ffurf neges e-bost gan riant neu warcheidwad y person ifanc.

Ni fyddwn yn cyhoeddi enwau unigolion o dan 18 oed ochr yn ochr â'u cyfraniadau.

Cyfraniadau nad ydynt yn addas i'w datgelu yn gyhoeddus

Os byddwch yn darparu unrhyw wybodaeth yn eich cyfraniad nad yw'n addas i'w datgelu i'r cyhoedd yn eich barn chi, nodwch pa rannau na ddylid eu cyhoeddi a rhowch eich rhesymau dros hyn. Gallwch wneud hyn drwy e-bost pan fyddwch yn darparu eich cyflwyniad. Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y math o wybodaeth sy'n addas i'w darparu, cysylltwch â chlerc y pwyllgor dan sylw yn uniongyrchol.

Gall unigolion sy'n cyfrannu mewn rhinwedd bersonol neu broffesiynol ofyn bod eu gohebiaeth neu eu cyflwyniadau cyfan yn cael eu trin yn gyfrinachol ac na ddylid eu cyhoeddi.

Efallai y byddwn yn gofyn i chi roi rhesymau dros eich cais. Os na allwch wneud hynny, efallai na fyddwn yn gallu derbyn eich tystiolaeth. Os yw’r cais yn cael ei gytuno, ni fydd y cyflwyniad yn cael ei gyhoeddi ac ni fydd unrhyw ran ohono'n cael ei chyhoeddi mewn unrhyw ddogfen bwyllgor arall, fel adroddiad. Os na ellir cytuno ar y cais, efallai na fyddwn yn gallu derbyn eich tystiolaeth.

Bydd cyfraniadau cyfrinachol yn cael eu gweld gan staff perthnasol y Senedd, aelodau'r pwyllgor (gan gynnwys unrhyw ddirprwyon) ac, o bosibl, staff o swyddfeydd aelodau’r pwyllgor (a staff dirprwyon). Bydd y cyfraniadau cyfrinachol yn cael eu cadw'n barhaol gyda mynediad cyfyngedig ar ein rhwydwaith TGCh mewnol diogel.

Cyfeiriadau at drydydd partïon

Efallai y byddwn yn golygu neu'n gofyn i chi newid eich cyflwyniad i dynnu data personol o'r testun os ydym o'r farn y gellid ei ddefnyddio i adnabod yn bersonol rai trydydd partïon nad ydynt wedi cytuno'n benodol bod gwybodaeth amdanynt yn cael ei chyhoeddi.

Efallai y byddwn hefyd yn golygu neu'n gofyn i chi newid eich cyflwyniad i dynnu data personol o'r testun mewn ymateb i gais gennych.

Os na fydd modd golygu cyflwyniad i ddileu gwybodaeth sy'n berthnasol i drydydd partïon, mae’n bosibl y bydd fersiwn wedi'i hadolygu o'ch cyfraniad yn cael ei chyhoeddi. Efallai y bydd gan aelodau'r pwyllgor (neu ddirprwyon) fynediad at gynnwys llawn eich cyflwyniad, hyd yn oed os nad yw wedi'i gyhoeddi'n llawn. Efallai y byddwn yn penderfynu y dylai eich cyflwyniad fod yn ddienw os yw nifer yr adolygiadau sydd angen eu gwneud i'r testun yn ei gwneud yn anodd ei ddeall neu ei ddarllen.

Cadw a defnyddio eich manylion cyswllt

Os ydych wedi darparu tystiolaeth ysgrifenedig neu ohebiaeth mewn rhinwedd bersonol, byddwn yn cadw eich manylion cyswllt ar ein rhwydwaith TGCh mewnol diogel fel y gallwn roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am ystyriaeth y Senedd o bwnc eich cyfraniad a materion cysylltiedig. Ni fyddwn yn cadw eich manylion cyswllt y tu hwnt i ddiwedd y Chweched Senedd (sydd i fod i ddod i ben yn 2026).

Os nad ydych am i ni gyfathrebu â chi, dylech roi gwybod i ni ar yr adeg y byddwch yn gwneud eich cyfraniad.

Ni fyddwn yn rhannu eich manylion cyswllt gyda thrydydd parti heb ofyn am eich caniatâd yn gyntaf.

Os ydych wedi darparu deunydd mewn rhinwedd broffesiynol neu ar ran sefydliad, efallai y byddwn yn cadw eich manylion cyswllt proffesiynol, a gallwn gysylltu â chi neu'ch sefydliad i'ch gwahodd i ddarparu tystiolaeth ar gyfer ymchwiliadau eraill gan bwyllgorau'r Senedd yn y dyfodol. Byddwn yn cadw gwybodaeth gyswllt o'r fath mewn cronfa ddata gyda mynediad cyfyngedig ar ein rhwydwaith TGCh mewnol diogel.

Efallai y byddwn yn casglu ac yn storio manylion cyswllt sydd ar gael i'r cyhoedd ar gyfer unigolion proffesiynol, sefydliadau, neu unigolion sy'n gweithio mewn sefydliadau, a hynny mewn cronfa ddata sydd â mynediad cyfyngedig ar ein rhwydwaith TGCh mewnol diogel. Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth hon i wahodd sefydliadau neu unigolion o'r fath i gyfrannu at waith pwyllgorau'r Senedd.

Deisebau'r Senedd

Mae safle Deisebau'r Senedd yn galluogi unigolion i ddechrau a llofnodi deisebau i godi materion gyda'r Senedd. Mae angen i ni gasglu, prosesu a storio rhywfaint o ddata personol i'ch galluogi i wneud hyn. Paratowyd hysbysiad preifatrwydd ar wahân ar gyfer y gwasanaeth hwn. Mae Hysbysiad Preifatrwydd Pwyllgorau'r Senedd yn ymdrin â chyflwyniadau ysgrifenedig a wnaed i'r Pwyllgor Deisebau.

Ymddangos gerbron Pwyllgor

Gall pwyllgorau gynnal cyfarfodydd ffurfiol a digwyddiadau eraill i gasglu cyfraniadau i'w gwaith. Gall cyfarfodydd neu ddigwyddiadau gael eu cynnal yn bersonol neu o bell.

Hwylusir cyfarfodydd a digwyddiadau o bell drwy offer meddalwedd trydydd parti fel Microsoft Teams a Zoom. Bydd gwybodaeth am ba lwyfan rydym yn ei ddefnyddio ar gyfer pob digwyddiad penodol yn cael ei gwneud yn glir wrth rannu gwybodaeth am y cyfarfod neu'r digwyddiad.

Gall Microsoft a Zoom ddefnyddio a storio data personol fel eich enw, eich cyfeiriad e-bost, a’ch rhif ffôn (mewn rhai achosion); ynghyd â chyfeiriad IP, a manylion am eich dyfais.

Mae unrhyw drosglwyddo data gan Microsoft y tu allan i'r AEE yn dod o dan gymalau cytundebol lle mae Microsoft yn sicrhau bod data personol yn cael eu trin yn unol â deddfwriaeth berthnasol.

Mae Zoom yn cadw data yn yr Unol Daleithiau ac yn cymryd camau cytundebol a chamau eraill priodol i ddiogelu data personol o dan gyfreithiau cymwys. Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod unrhyw drosglwyddo data yn rhyngwladol yn cael ei reoli gan Gymalau Cytundebol Safonol lle y bo'n briodol. Er mwyn lleihau'r data a rennir gyda Zoom, ni ofynnir i gyfranogwyr y cyfarfod gofrestru eu manylion gyda Zoom. Yn hytrach, bydd cyfranogwyr yn cael rhif adnabod a chyfrinair ar gyfer y cyfarfod ymlaen llaw.

Sesiynau tystiolaeth lafar ffurfiol mewn cyfarfodydd Pwyllgor a gynhelir yn bersonol neu o bell

Cyhoeddir recordiadau clyweledol a thrawsgrifiadau o sesiynau tystiolaeth ffurfiol ar wefan y Senedd. Bydd y recordiadau a'r trawsgrifiadau hyn yn parhau’n gyhoeddus am gyfnod amhenodol. Gall trydydd partïon ddefnyddio recordiadau clyweledol cyhoeddedig neu drawsgrifiadau o gyfarfodydd at eu dibenion eu hunain.

Byddwn yn casglu ac yn cadw manylion cyswllt unigolion sydd wedi cytuno i ymddangos gerbron pwyllgor at ddibenion sy'n ymwneud â threfniadau gweinyddu’r cyfarfod dan sylw.

Gallwn, ar adegau, gasglu a chadw gwybodaeth am nodweddion gwarchodedig unigolion at ddibenion gweinyddol. Bydd y wybodaeth hon yn cael ei chadw mewn rhan warchodedig o system TG y Senedd. Caiff y wybodaeth hon ei dileu heb fod yn hwyrach na mis ar ôl y cyfarfod perthnasol.

Trafodaethau anffurfiol a digwyddiadau eraill

Gall pwyllgorau drefnu digwyddiadau i gasglu cyfraniadau neu i hyrwyddo eu gwaith.

Cadw a chyhoeddi cyfraniadau

Ni fydd y digwyddiadau hyn fel arfer yn cael eu cynnal yn gyhoeddus nac yn cael eu cofnodi. Os penderfynir y dylai digwyddiad fod yn agored i'r cyhoedd neu y dylid llunio trawsgrifiad o drafodaethau, byddwn yn rhoi gwybod i’r cyfranogwyr ymlaen llaw.

Ffotograffau a recordiadau eraill

Efallai y byddwn yn tynnu lluniau ac yn recordio fideos neu sain yn y digwyddiadau hyn. Os nad ydych am ymddangos mewn cyfryngau o'r fath, rhowch wybod i ni ymlaen llaw. Gellir cyhoeddi recordiadau ffotograffig, recordiad fideo neu recordiad sain a wneir mewn digwyddiadau ar ein gwefan, ar lwyfannau cyfryngau cymdeithasol, neu mewn deunydd printiedig a/neu ddigidol.

Gellid defnyddio recordiadau ffotograffig, recordiadau fideo neu recordiadau sain a wnaed mewn digwyddiadau pwyllgor heb gyfeirio at gyd-destun y digwyddiad i hyrwyddo gwaith y Senedd ac ymgysylltu â phobl Cymru.

Bydd unrhyw recordiadau ffotograffig, fideo neu sain a wneir mewn digwyddiadau pwyllgor a gyhoeddir ar ein gwefan neu a ddefnyddir ar y cyfryngau cymdeithasol yn parhau'n gyhoeddus am gyfnod amhenodol.

Ni fydd unrhyw recordiadau ffotograffig, recordiadau fideo neu recordiadau sain a wneir mewn digwyddiadau pwyllgor nad ydynt yn cael eu cyhoeddi gan Gomisiwn y Senedd yn cael eu cadw y tu hwnt i ddiwedd y Chweched Senedd (sydd i fod i ddod i ben yn 2026).

Monitro amrywiaeth a chasglu adborth

Mae penderfyniadau am bolisïau a chyfreithiau yn effeithio ar bobl mewn gwahanol ffyrdd. Mae hyn yn golygu ei bod yn bwysig bod y Senedd yn clywed amrywiaeth eang o safbwyntiau a phrofiadau i helpu Aelodau graffu ar weithredoedd y llywodraeth ac i ddeddfu. Mae sawl ffurf ar amrywiaeth, felly mae pwyllgorau'r Senedd am glywed gan amrywiaeth o bobl, cymunedau, sectorau, grwpiau a sefydliadau – yn enwedig y rhai y mae mater dan sylw yn effeithio arnynt.

Rydym yn monitro amrywiaeth tystion i'n helpu i ddeall a yw hyn yn digwydd. Fel rhan o hyn, gall pwyllgorau a Chomisiwn y Senedd ddefnyddio gwybodaeth am eich enw, rôl(au) proffesiynol, y sefydliad(au) neu'r sector(au) yr ydych yn eu cynrychioli, a phan fyddwch yn cyfrannu at waith pwyllgorau, i ddarparu ystadegau at ddibenion monitro ac adrodd, i helpu i nodi unrhyw batrymau, ac i sicrhau bod ein polisïau a'n gweithdrefnau yn gwella, yn gynhwysol ac yn effeithiol.

Eich hawliau

Fel gwrthrych data, mae gennych nifer o hawliau. Mae'r hawliau'n cynnwys yr hawl i ofyn am gael gweld eich gwybodaeth bersonol eich hun, a elwir weithiau'n 'gais gwrthrych am wybodaeth'.

Yn ogystal, mae gennych hawl i ofyn gennym:

  • bod unrhyw wybodaeth anghywir sydd gennym amdanoch yn cael ei chywiro (sylwer ei bod yn ofynnol i chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am unrhyw newidiadau i'ch gwybodaeth bersonol);
  • bod gwybodaeth amdanoch yn cael ei dileu (mewn rhai amgylchiadau);
  • ein bod yn rhoi'r gorau i ddefnyddio eich gwybodaeth bersonol at ddibenion penodol neu mewn rhai amgylchiadau; a
  • bod eich gwybodaeth yn cael ei darparu i chi neu drydydd parti mewn fformat cludadwy (eto, mewn rhai amgylchiadau).

Mae'r hawliau sy'n gymwys yn dibynnu ar y seiliau cyfreithiol rydym yn dibynnu arnynt i ddefnyddio eich gwybodaeth bersonol. Ni fydd yr hawliau hynny'n gymwys ym mhob achos, a bydd y Comisiwn yn cadarnhau a yw hynny'n wir pan fyddwch yn gwneud cais.

Os hoffech ddefnyddio unrhyw un o'r hawliau sydd gennych o dan ddeddfwriaeth diogelu data, neu os hoffech ofyn cwestiwn neu wneud cwyn am sut y defnyddir eich gwybodaeth, dylech gysylltu â'r Swyddog Diogelu Data gan ddefnyddio un o'r dulliau a nodir uchod.

Ceisiadau am wybodaeth a wnaed i Gomisiwn y Senedd

Os bydd cais am wybodaeth yn cael ei wneud o dan ddeddfwriaeth mynediad at wybodaeth, efallai y bydd angen datgelu'r cyfan neu ran o'r wybodaeth a ddarperir gennych. Dim ond os yw'n ofynnol i ni wneud hynny yn ôl y gyfraith y byddwn yn gwneud hyn.

Sut i gwyno

Gallwch gwyno i'r Swyddog Diogelu Data os ydych yn anfodlon â sut rydym wedi defnyddio eich data. Mae'r manylion cyswllt i'w gweld uchod.

Os ydych, yn dilyn cwyn, yn parhau i fod yn anfodlon â'n hymateb, gallwch hefyd gwyno i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.

Cyfeiriad Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yw:

Information Commissioner’s Office 
Wycliffe House 
Water Lane 
Wilmslow 
Cheshire 
SK9 5AF 

Rhif llinell gymorth: 0303 123 1113

Newidiadau i'r hysbysiad preifatrwydd hwn

Rydym yn adolygu'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn rheolaidd, felly dylech ei wirio'n rheolaidd. Byddwn yn cyhoeddi newidiadau drwy sianeli cyfryngau cymdeithasol y Senedd. Diweddarwyd yr hysbysiad preifatrwydd hwn ddiwethaf ym mis Gorffennaf 2021.

Gweld fersiynau blaenorol o'r polisi hwn

Polisi Preifatrwydd yr Ymchwiliadau (Y Pedwerydd Cynulliad)

Polisi Preifatrwydd yr Ymchwiliadau (i Gorffennaf 2018)

Polisi Preifatrwydd Pwyllgorau'r Senedd (i Mehefin 2020)

Polisi Preifatrwydd Pwyllgorau'r Senedd (i Gorffennaf 2021)