Hysbysiad Preifatrwydd (Erthyglau Ymchwil y Senedd)

Cyhoeddwyd 16/12/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 24/04/2023   |   Amser darllen munudau

Mae'r dudalen hon yn egluro sut y bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio.

Comisiwn y Senedd (“y Comisiwn”) yw’r rheolydd data ar gyfer y wybodaeth yr ydych yn ei darparu, a bydd yn sicrhau y caiff ei diogelu a'i defnyddio yn unol â deddfwriaeth diogelu data.

Ein manylion cyswllt 

Dylid anfon unrhyw ymholiadau ynghylch ein defnydd o'ch gwybodaeth at y Swyddog Diogelu Data yn: 

diogelu.data@senedd.cymru

0300 200 6565 

Pa wybodaeth y byddwn yn ei chasglu amdanoch: 

Wrth gofrestru ar gyfer y nodwedd tanysgrifio, bydd y mathau canlynol o wybodaeth am ddefnyddwyr y wefan hon yn cael eu prosesu:

  • Eich cyfeiriad e-bost, eich enw cyntaf a’ch cyfenw, a'ch dewis o ran hysbysiadau (wythnosol, misol, neu amser real);
  • Os yw’n berthnasol, gwybodaeth ynghylch a ydych yn Aelod o’r Senedd neu’n gweithio i Aelod o’r Senedd. Nid oes rhaid i chi ddarparu'r wybodaeth hon.

Byddwn hefyd yn prosesu unrhyw wybodaeth bersonol a gyflwynir gennych wrth roi adborth cyffredinol ac wrth ymdrin ag unrhyw ymholiadau a wneir gennych.

Pam rydym yn casglu'r wybodaeth hon:

Fel gwasanaeth ymchwil a gwybodaeth sydd wedi’i leoli yn y Senedd, mae Ymchwil y Senedd yn darparu ymchwil wleidyddol ddiduedd i Aelodau o’r Senedd, eu staff a Phwyllgorau’r Senedd. Mae hyn yn helpu'r Aelodau i ateb cwestiynau gan etholwyr ac yn eu cefnogi i graffu ar ddeddfwriaeth a pholisïau Llywodraeth Cymru. Mae rhagor o wybodaeth am yr hyn rydym yn ei wneud ar gael yma https://ymchwil.senedd.cymru/gwybodaeth-am-ymchwil-y-senedd/.

Rydym yn cyhoeddi ein hymchwil mewn nifer o fformatau, o erthyglau byr a phapurau briffio hirach i fapiau rhyngweithiol sy'n cyfrannu at ddadl agored a gwybodus yng Nghymru. Mae'r rhain i'w gweld ar y wefan hon https://ymchwil.senedd.cymru/.

Diben gofyn i chi danysgrifio yw er mwyn i ni allu cyflawni'r nodau hyn ac ymgysylltu â’n rhanddeiliaid. Mae ein rhanddeiliaid yn cynnwys Aelodau o’r Senedd a’u staff, a’r cyhoedd. Mae rhoi gwybod i randdeiliaid am ddiweddariadau drwy hysbysiadau wythnosol, misol neu rai a anfonir mewn amser real, yn unol â dewis y rhanddeiliad, yn un dull sydd ar gael i ni sy’n sicrhau bod y wybodaeth hon mor hygyrch â phosibl.

Yn yr un modd, mae derbyn ac ymateb i ymholiadau yn ein galluogi i barhau i lywio dadleuon a rhoi sylw i feysydd y gallai fod angen esboniad pellach ar eu cyfer.

Mae hefyd yn bwysig i ni allu gwella ein gwasanaethau i sicrhau ein bod yn addasu i ddewisiadau'r gynulleidfa ac yn parhau i ymgysylltu'n effeithiol â rhanddeiliaid. Mae derbyn, ystyried ac ymateb i adborth yn ein galluogi i ddatblygu a gwella'n barhaus y gwasanaeth rydym yn ei ddarparu i randdeiliaid.

Sut y bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio:

Bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio at ddibenion tanysgrifio yn unig, neu i ymateb i'ch adborth a gwella ein gwasanaethau yn seiliedig ar eich adborth.

Pwy fydd yn cael mynediad at y wybodaeth:

Bydd data personol ar gael i staff y Comisiwn mewn tîm bach yn Ymchwil y Senedd sy’n gweinyddu’r meicro-safle, a chan MailChimp. Ar adegau, efallai y bydd angen i ni rannu rhywfaint o’ch data personol hefyd (gweler isod).

Byddwn yn rhannu gwybodaeth am nifer y bobl sydd wedi tanysgrifio, ar ffurf ddienw, yn ôl i Fwrdd Golygyddol Ymchwil y Senedd.

A fydd eich gwybodaeth yn cael ei rhannu neu ei chyhoeddi? 

Nid ydym yn cyhoeddi'r wybodaeth bersonol a gyflwynir gennych wrth danysgrifio ar gyfer hysbysiadau, neu wrth wneud ymholiad neu roi adborth.

Rydym yn croesawu eich ymholiadau ac adborth. Os nad yw ymholiad yn dod o dan gylch gorchwyl y Senedd neu’r Comisiwn, efallai y bydd yn briodol i ni drosglwyddo eich ymholiad a’ch gwybodaeth gyswllt i’r sefydliad (neu sefydliadau) perthnasol i gael ymateb uniongyrchol. Cyn gwneud hynny, byddwn yn rhoi gwybod i chi ac yn gofyn a hoffech i ni drosglwyddo eich gwybodaeth i'r sefydliad (neu sefydliadau) perthnasol a all ymdrin â'ch ymholiad. Os byddwch yn gwrthod, ni fyddwn yn trosglwyddo eich gwybodaeth ond efallai na fydd yn bosibl i ni roi ymateb i'ch ymholiad.

Os byddwch yn cysylltu â ni yn gofyn am wybodaeth, neu i gael ateb i ymholiad, efallai y bydd angen i ni gysylltu ag eraill i ddod o hyd i'r wybodaeth honno. Wrth wneud hynny, ni fyddwn yn rhannu eich data personol oni bai bod angen gwneud hynny i roi ymateb digonol i chi, a byddwn ond yn rhannu’r hyn sy’n angenrheidiol.

Os yw eich ymholiad neu adborth yn dechnegol ei natur a bydd angen ymateb arbenigol, efallai y bydd angen i ni drosglwyddo eich ymholiad a'ch gwybodaeth gyswllt i'n darparwyr technoleg i naill ai ymateb yn uniongyrchol i chi neu i roi gwybodaeth i ni sy'n ein galluogi i’ch ymateb yn ddigonol. Byddwn ond yn rhannu eich data personol i’r graddau sy’n angenrheidiol er mwyn deall ac ateb eich ymholiad neu ymateb i’ch adborth.

Sut bydd eich gwybodaeth yn cael ei storio:

Mae erthyglau Ymchwil y Senedd yn Senedd Cymru yn cael eu cynnal ar system trydydd parti 'Umbraco' sy’n rhan o seilwaith gwefan y Senedd. Bydd eich gwybodaeth hefyd yn cael ei storio yn ddiogel ar ein systemau TGCh sy'n cynnwys gwasanaethau cwmwl trydydd parti a ddarperir gan Microsoft. Mae unrhyw drosglwyddo data gan Microsoft y tu allan i'r AEE yn dod o dan gymalau cytundebol lle mae Microsoft yn sicrhau bod data personol yn cael eu trin yn unol â deddfwriaeth ddomestig. I gael rhagor o wybodaeth am sut y bydd Microsoft yn defnyddio eich gwybodaeth, gallwch ddarllen datganiad preifatrwydd y cwmni yma.

Darperir ein gwasanaeth tanysgrifio drwy raglen trydydd parti o'r enw Mailchimp.com. Gallwch danysgrifio i gael diweddariadau drwy'r linc canlynol: http://eepurl.com/iihrND. Gallwch ddad-danysgrifio ar unrhyw adeg.

Mae gwybodaeth am sut mae MailChimp yn defnyddio eich gwybodaeth ar gael yn eu hysbysiad preifatrwydd: https://mailchimp.com/legal/privacy/.

Am faint o amser y byddwn yn cadw eich gwybodaeth:

Data cofrestru:

Unwaith y byddwch wedi tanysgrifio bydd eich gwybodaeth yn cael ei chadw hyd nes y byddwch yn dewis dad-danysgrifio. Gall tanysgrifwyr ddiweddaru eu dewisiadau neu ddad-danysgrifio o'r rhestr bostio hon unrhyw bryd drwy glicio ar y lincs ar waelod yr e-bost.

Mae gwybodaeth am ba mor hir y bydd MailChimp yn cadw data ar gael ar eu gwefan: https://mailchimp.com/legal/privacy/.

Ymholiadau ac adborth cyffredinol:

Unwaith y byddwn wedi ymateb i adborth, byddwn yn cadw cofnod o'ch neges am dair blynedd at ddibenion archwilio.

Gwefannau eraill: 

Nid yw'r polisi preifatrwydd hwn yn berthnasol i wefannau eraill y mae linc iddynt o'r wefan hon. Dylech gofio hyn pan fyddwch yn symud i wefan arall, a dylech darllen datganiad preifatrwydd unrhyw wefan sy'n casglu gwybodaeth bersonol.  Mae linc ar y wefan hon i:

Ein seiliau cyfreithiol ar gyfer casglu, cadw a defnyddio eich gwybodaeth bersonol

Mae cyfraith diogelu data yn nodi seiliau cyfreithiol amrywiol sy’n caniatáu i ni gasglu, cadw a defnyddio eich gwybodaeth bersonol.

At ddibenion prosesu’r data personol a gyflwynir gennych, boed hynny’n ddata ar gyfer tanysgrifio i hysbysiadau neu ddata sydd wedi’u cynnwys o fewn ymholiadau ac adborth, rydym yn dibynnu ar y seiliau cyfreithiol a ganlyn:

Mae angen prosesu’r data fel rhan o dasg a gyflawnir er budd y cyhoedd

Mae er budd y cyhoedd i’r Senedd allu ymgysylltu’n effeithiol â rhanddeiliaid. Mae’r Comisiwn yn chwarae rhan hanfodol o ran ymgysylltu â rhanddeiliaid ar ran y Senedd fel rhan o’i swyddogaeth statudol i ddarparu’r gwasanaethau sydd eu hangen ar y Senedd at ei dibenion. Caiff y Comisiwn wneud unrhyw beth sy'n ymddangos yn angenrheidiol neu'n briodol at ddibenion cyflawni ei swyddogaethau neu mewn cysylltiad â chyflawni ei swyddogaethau. Gall hefyd ddarparu gwasanaethau i'r cyhoedd. Drwy ddarparu erthyglau Ymchwil y Senedd i’r byd yn gyffredinol, a rhoi gwybod i unigolion am erthyglau newydd os ydynt yn gofyn am gael hysbysiad, gall y Comisiwn helpu i sicrhau trafodaeth wybodus a mynediad at wybodaeth ddiduedd ar bynciau a datblygiadau sy’n cael eu trafod yn y Senedd a/neu sy’n ymwneud â Chymru.

Gall y Senedd hefyd roi cyfarwyddyd arbennig neu gyffredinol i’r Comisiwn at ddiben cyflawni swyddogaethau’r Comisiwn, neu mewn cysylltiad â hwy, a allai olygu bod angen darparu gwybodaeth a/neu ymgysylltu â rhanddeiliaid drwy Erthyglau Ymchwil y Senedd. Yn olaf, mae gan y Comisiwn swyddogaeth statudol i hybu ymwybyddiaeth y cyhoedd o’r system etholiadau bresennol y Senedd neu unrhyw system arfaethedig, ac o lywodraeth ddatganoledig yng Nghymru. Gellid defnyddio erthyglau Ymchwil y Senedd i hybu ymwybyddiaeth y cyhoedd o’r systemau hyn.

Mae angen i’r Comisiwn gasglu adborth a phrosesu ymholiadau ar ei ddulliau ymgysylltu, gan gynnwys erthyglau Ymchwil y Senedd, a defnyddio’r wybodaeth a gesglir i wella’r ffordd y mae’n ymgysylltu ac yn darparu gwybodaeth. Mae’r gwelliant parhaus hwn yn galluogi’r Comisiwn i sicrhau ei fod yn ymgysylltu mor effeithiol â phosibl â rhanddeiliaid ac yn ennyn diddordeb pobl ac yn hybu cyfranogiad yng ngwaith y Senedd. Mae ymateb i ymholiadau hefyd yn golygu y gellir darparu rhagor o wybodaeth sy'n helpu i lywio dadleuon a dealltwriaeth, a hynny wrth ddarparu gwasanaeth i randdeiliaid.

Os yw eich ymholiad neu adborth yn dechnegol ei natur ac yn gofyn am fewnbwn arbenigol, efallai y bydd angen rhannu eich data personol gyda'n cyflenwyr technoleg i sicrhau eich bod yn cael ymateb digonol neu ein bod yn gallu gwella yn seiliedig ar adborth.

Cydsyniad

Os byddwch yn gofyn cwestiwn o fewn eich ymholiad neu adborth nad yw’n dod o fewn cylch gorchwyl y Senedd neu’r Comisiwn, mae’n bosibl y byddwn yn gofyn am eich caniatâd i drosglwyddo eich data personol i sefydliad trydydd parti perthnasol fel eu bod yn gallu ymateb yn uniongyrchol i chi. Gallwch dynnu eich caniatâd yn ôl unrhyw bryd.

Data personol categori arbennig

Mae’n bosibl y byddwn yn prosesu data personol categori arbennig sy’n rhan o ymholiadau ac adborth, os byddwch yn dewis eu cyflwyno. Diffinnir data personol categori arbennig fel data sy’n cynnwys data sy’n datgelu hil neu darddiad ethnig, credoau crefyddol neu athronyddol, cyfeiriadedd rhywiol a data sy’n ymwneud ag iechyd. Byddwn yn prosesu unrhyw ddata categori arbennig perthnasol amdanoch chi ac unrhyw un arall y byddwch yn sôn amdanynt yn eich adborth.

Bydd data categori arbennig a gyflwynir mewn adborth yn cael eu prosesu ar y sail ei bod yn angenrheidiol am resymau o fudd sylweddol i'r cyhoedd (fel y darperir ar eu cyfer gan Erthygl 9(2)(g) o’r GDPR, a ddarllenir ar y cyd â pharagraff 6 o Atodlen 1 i Ddeddf Diogelu Data 2018), am y rhesymau a nodir uchod. Nid oes rhaid i chi gyflwyno data personol categori arbennig i ni.

Os byddwch yn gofyn cwestiwn o fewn eich ymholiad neu adborth nad yw’n dod o fewn cylch gorchwyl y Senedd neu’r Comisiwn, mae’n bosibl y byddwn yn gofyn am eich caniatâd penodol i drosglwyddo eich data personol categori arbennig i sefydliad trydydd parti perthnasol fel eu bod yn gallu ymateb yn uniongyrchol i chi. Gallwch dynnu eich caniatâd yn ôl unrhyw bryd.

Eich hawliau

Fel gwrthrych data, mae gennych nifer o hawliau. Mae'r hawliau sy'n gymwys yn dibynnu ar y seiliau cyfreithiol rydym yn dibynnu arnynt i ddefnyddio eich gwybodaeth bersonol. Ni fydd yr hawliau hynny'n gymwys ym mhob achos, a bydd y Comisiwn yn cadarnhau a yw hynny'n wir ai peidio pan fyddwch yn gwneud cais.

Mae'r hawliau'n cynnwys yr hawl i ofyn am fynediad at eich gwybodaeth bersonol eich hunan, a elwir weithiau’n 'gais am fynediad at ddata gan y testun'.

Hefyd, mae gennych hawl i wneud cais gennym:

  • fod unrhyw wybodaeth anghywir sydd gennym amdanoch yn cael ei chywiro (nodwch fod gofyn i chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am unrhyw newidiadau o ran eich gwybodaeth bersonol);
  • bod gwybodaeth amdanoch chi yn cael ei dileu (mewn rhai amgylchiadau);
  • ein bod yn rhoi'r gorau i ddefnyddio eich gwybodaeth bersonol at ddibenion penodol neu mewn rhai amgylchiadau; a
  • bod eich gwybodaeth yn cael ei darparu i chi neu drydydd parti mewn fformat cludadwy (eto, mewn rhai amgylchiadau).

Os hoffech arfer unrhyw rai o'r hawliau sydd gennych o dan ddeddfwriaeth diogelu data, neu ofyn cwestiwn neu wneud cwyn ynghylch sut y defnyddir eich gwybodaeth, cysylltwch â'r Swyddog Diogelu Data gan ddefnyddio un o’r dulliau a nodir uchod.

Ceisiadau i weld gwybodaeth gan Gomisiwn y Cynulliad  

Os gwneir cais am wybodaeth dan ddeddfwriaeth mynediad at wybodaeth, mae’n bosibl y bydd angen datgelu’r cyfan neu rywfaint o’r wybodaeth a roddir gennych. Dim ond os yw’n ofynnol yn ôl y gyfraith y byddwn yn gwneud hynny.     

Sut i gwyno

Gallwch gwyno i'r Swyddog Diogelu Data os ydych yn anfodlon ar y ffordd rydym wedi defnyddio eich data. Gellir gweld y manylion cyswllt uchod.  

Yn dilyn cwyn, os byddwch yn parhau i fod yn anfodlon ar ein hymateb, gallwch hefyd gwyno i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (yr ICO).

Dyma gyfeiriad y Comisiynydd Gwybodaeth:       

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth / Information Commissioner’s Office   

Wycliffe House   

Water Lane   

Wilmslow   

Cheshire   

SK9 5AF   

Rhif y llinell gymorth: 0303 123 1113 

Newidiadau i’r polisi preifatrwydd hwn Os bydd y polisi preifatrwydd hwn yn newid mewn unrhyw ffordd, byddwn yn rhoi'r fersiwn ddiweddaraf ar y dudalen hon. Drwy ymweld â'r dudalen hon yn rheolaidd, byddwch yn ymwybodol o'r wybodaeth rydym yn ei chasglu, sut rydym yn defnyddio'r wybodaeth honno ac o dan ba amgylchiadau y byddwn yn ei rhannu â phartïon eraill, os byddwn yn gwneud hynny o gwbl.

Diweddarwyd Ebrill 2023